Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cîv. IX,—Rhif. 6.—Mehevin, 1889. CYYAILL-YR-AELWYD: HWYL GYDA'R HEN BOBL. Gan Carneddog. Y TE CYNTAF YN CWMDYLL ^WMDYLI ydoedd yr amaethdy uwchaf yn Nghymru gynt, ac yr oedd yn fangre o enwogrwydd diamheuol. Yr oedd neill- duolrwydd arbenig, meddir, yn nefaid Cwmdyli, y rhai oeddynt nid yn unig yn orluosog hyd drumau y Wyddfa fawr, ond oll yn frychion, ac ynfreed campns. Henafiaid Cwmdyli a elwid yn Prysiaid, ac yr oeddynt yn wyr deallgar, cyfrifol, a pharchus gan bell ac agos. Oddeutu y flwyddyn 1760, aeth yr hen Robert Prys—(o'r cyfnod plwyfol, "Robert Price, of Cwmdyli, yeoman, huried Jau'y 13, 1779)—i werthu defaid, fel arfer, i ffair Dinbych. Clyw- odd yno son am ryw " ddiod deuluaidd" a alwent yn de, yr hon oedd yn dyfod i fri mawr yn y wlad yn gyffredinol. Er cael profi y drwyth, prynodd haner pwys o'r dail am dri swllt raewn maelfafechau yn Heol Henllan ; ond anghofiodd yraholi yn nghylch y rheolau manwl o wneud y ddiod. Wedi dychwelyd adref o'i daith i Cwmdyli, hysbysodd Doli, yr heu wraig, yn mysg y pethau cyutaf, ei fod wedi prynu haner pwys o dd»il y gwledydd pell i wneud diod, nad oedd ei hail na'i tbebyg, meddai pobl Sir Ddinbych wrtho ef. Aeth i logell ei goat, a thynodd y sypyn te allan, gan ei daflu ar y ford gron o'i bíaen. Yr hen wraig, yn llawn awyddfryd o weled y dail dyeithr, a frysiodd i agor y sypyn, ac wedi Hyt;a iu yn syn arnynt, a'u dal yn hir wrth ei thrwyn, a lefodd :— " Wel, Robeit bach, 'does arogl yn y byd ar y rhai'n, ac y maent mor sych a 'sglodion." Yntau a atebodd, dan wenu, " Rhaid, Doli, mai nid wrth eu golwg y mae harnu y rhai'n, fel ninau, weli di ; ond beth waeth fuasem o roddi treial aruynt, dywed V Weli peth petrusder, gan nas gwyddent ar wyneb y ddaear pa fodd i wneud y sudd de yn hriodol, cytuuwyd i ferwi haner y dail mewn chwart o ddw'r yn y crochan, a?u troi yn wastad, íel yr arferent gydag uwd. Ar ol eu berwi am oddeutu haner awr ar dan- Hwyth o fawn, tynwyd y crochan ; a'r pwnc dyrys i'w benderfynu yn awr oedd, pa un ai gyda y dail, sef yli symysg, ai y dw'r yn unig, heb y dail, oedd y drwyth i fod. Barnwyd mai rhoddi prawf arnynt yn gymysg oedd y mwyaf naturiol. Felly, tywalítwyd cyn*- wysiad y crochan, yr hwn oedd yn ddu fel trwyth huddugl, i ddwy odart bren, i'r naill a'r llall. Wrth gwrs, fel arfer bob amser gyda phob- peth, yr hen wraig a'i profodd gyntaf; ond ar yr eiliad bron, crychai ei thrwyu yn ddefosiynol, gan ddweyd,— " Y mae yn chwerw ofnadwy, Robert." Yna, yr hen wr a roddodd gynyg ar y ddiod ddyeithr, ond yn nwydwyllt, taflodd ef allan o'i enau, gan ebychu,— " Gwarchod pawb, Doli, y mae hon yn sur hefyd ; y mae yn gan'mil gwaeth na'r wermod lwyd. Ond, yn wirionedd inau, chreda' i ddim ein bod wedi ei gwneud yn iawn, neu y mae yn rhyfedd genyf os dyma y * ddiod deulu- aidd' oedd pobl Dinbych yna yn ei frolio wrthyf, a bod pawb yno yn ei hyfed. Beth pe buaset tî yn gloewi y dw'r oddiar y dail yma, Doli, i edrych sut flas sydd ar hwnw ei hunan, tybed V " Yr hen wraig yn y fan a uíuddhaodd, a meddyliodd mai y peth hwylusaf i'w gwahanu oedd yr hidlan Uaeth, a phrysurodd i'w gyrchu oddiar yr orsin gareg yn y drws; yna safodd uwchben y crochan, a thywalltodd yr hyn oedd yn y ddwy odart i'r hidlan, ac, yn ol deddf rhesymeg, safodd y dail oll yn ddyogel yn yr hidlan, a'r dw'r du yn ngwaelod y crochan. Yr hen Robert Prys a flaenorodd y tro hwn, trwy gymeryd llwy biwter fawr, a chodi ei llon- aid o gynwys y crochan ; ond, " os drwg cynt, gwaeth gwed'yn." Gwylltiodd yr hen frawd yn gethin ulw íâs, a dywedodd yn ddigofus, a'i lygaid yn tanio,—" Y'n boeth y b'o rhywbeth fel hyn ! Nis gwaeth gen' i yfed dw'r tatws un tipyn ; ond, o ran hyny, cael fy ngwneud a ddarfu m gan 'gŵn duon Dinbych.' Y carsiwn diffaeth, twyllodrus, yn dwyn fy nhriswllt am ryw hen ddail gwylltion fel yraa ! Tafl hwy aìlan o 'ngolwg i, da'ch di, Doli." Teimlai yr hen wraig mai braidd yn fyrbwyll oedd gwneuthur cais Robert Prys yn union deg, a daeth meddylddrych newydd spon arall—a'r olaf—i'w phen, gan gredu yn sicr yn awr, mae'n debyg, yn yr hen ddywediad a glywodd gan- wai'th, " mai y trydydd tio bydd coel." Dy- wedodd,— " 'Rwy'n meddwl yn siwr, eto fyth, ein bod wedi caujgymeryd eill dau y troion o'r blaen. Hwyrach mai y dail eu hunain sydd i'w bwyta, fpl sibols neu wynwyn, ac nid yfed eu trwyth,