Skip to main content

Cyv. IX.—Rhif. 5.—Mai, 1889. CYYAÍLL-YR.AELWYD: HYNT YR HEN BOBL. Gan Caeneddog. jjfŵLAWER chwedl ddoniol a glywsom am ^\Ejj ddywediadau digrif a throion trwstan o <s^ eiddo yr hen bobl ddiniwed a drigianent mewn cysur a hedd yn nghwmwd uchel oer Eryri a'r parthau amgylchynol dros gan' mlynedd yn ol, a diw eddarach. Pan oedd crefydd yn isel, a gwawr ad.ìysg heb oleuo meddwl y werin, yr oedd gweithredoedd a lleferydd lluaws o'r rhai rnwyaf gwledig yn arddangos tywyllwch anwy- bodaeth dybryd. Er hyny, difyr genym wrando ar ambell i hen gofìauydd, boed o'r mwyaf diallu, yn adrodd hanes eu helyntion chwithig a phlentynaidd. Yr ydym, o bleser a chywreinrwydd, wedi casglu gryn swm o len gwerin yn ei wabanol gysylltiadau, megys am Fwganod, ysbrydion, y Tylwyth Teg, Jac y Lantern, gwrach y rhibyn, ac yu benaf oll, ystraeon ysmala am hwn a'r llall o'r hen boblach yn eu cwrs o fyw. Yr ydym yn sicrhau nad ffug, ond ffeithiau gwirioneddol a draethwn y waith hon, ac nid ydym ychwaith yn anicanu tafiu unrhyw sarhad na difriaeth ar goffadwriaeth eu gwrthddrycb.au. Heddwch i Iwch yr hen bererinion, a'r hen bechaduriaid hefyd, yw pur ddymuniad eigion calon edmygydd eu henwau ! Y ËEIBL A'R ALMANAC. Yn mhell dros bedwar ugain mlynedd yn ol, yr oedd yn byw mewn amaethdy o'r enw Cae'r llwynog, yn mhlwyf Llanfrothen, hen gwpl hynod o'r enw Robert Lewis ac Elin Francis. Y pryd hyuy, yn fynyehaf yn y wlad, ni byddai y gwragedd yn inyued dan enw y gwr, ond par- hau gyda'u benw morwynol cyntefig. Yr oedd Robeit Lewis yn teimlo yn lled wael un tro, ac aeth i'w wely yn hynod o ddigalon. Gan gredu yn sicr fo 1 dydd ei ymddatodiad yn nesau, gofynodd i'r hen wraig a wnai hi ddim anfon am William Evans, Bryngelynen, yr hwn oedd grefyddwr selog, i dd'od i weddio ychydig drosto. Gwnaeth hyny, a daeth William Evans yno, ac wedi dyfod o hono at y gwely a chyfarch, yr hen wr a ofynodd, " A wnai ef ddim darllen a gweddio ar ran ei euaid tlawd, gan ei fod yn °fni mai ffaiwelio a'r byd oeiid raid iddo yn ebrwydd.'' Ar hyn, gof.ynodd William Evans, 'A wuai yr hen wraig estyn y Beibl iddo." Atebodd hithau, "Yu wir Dduw, Wil bach ! nid oes genym ni yr un Beibl ; yn nhy Lowri, fy chwaer. y cawsom fenthyg Beibl pan fu Robert yn sal y tro o'r blaen, ond fe gaiff yr hogen yma redeg i'w ymofyn yn uniondeg, gan obeithio na bydd arnom ei eisieu byth eto, ynte, Wil?" Cychwynodd yr eneth, ond pan nad oedd wedi myned ond encyd oddiwrth y ty, gwaeddodd yr hen wraig, ei mam, arni i aros, gan ychwanegu yr un pryd wrth Wüliam Evans, " Y mae yma almanac da iawn eleni, wedi i Robert ei brynu yn ffair Penmorfa ; a wnai darllen dipyn o hwnw 'mo'r tro, 'ddyliet ti, Wil bachl" Yn y fan atebwyd hi yn nacaol, ac archwyd ar i'r eneth fyned yn mlaen i gyrchu y Beibl. Yn y cyfamser, ceisiodd William Evans ei oreu ddangos y gwahaniaeth rhwng yr almanac a'r Beibl Cysegrlau, i Elin Francis, tra cyflym suddai yr hen wr yu nhonau marwolaeth. Dychwelodd yr eneth a'r Beibl mawr yn ei harffedog, ac yn uniongyrchol ehedodd ysbryd yr hen Robert Lewis adref, yn swn cysur ei adnodau, a gweddiau erfyniol Wiiliam Evans ! Elin Feancis a'e Peegethwe. Ni bu Elin Francis ond dwy waith erioed yn yr Eglwys, a'r rhai hyny oedd ar ddyddiau ei bedydd a'i phriodas- Gan nad oedd capel wedi ei adeiladu yn y fro y pryd hyny, arferid addoli yn amaethdy Bryngelynen. Daeth pregethwr enwog o'r Deheudir—credir mai Howel Harris oedd—yno i bregethu unwaith, a rhywsut, gallwyd perswadio yr hen Elin Francis, yr hon oedd mor dywyll ag unrhyw bagan, i dd'od i Bryngelynen i wrando'r bregeth. Yr oedd y pregethwr yn traddodi gydag effaith a hwyl neillduol, a sylwai araryw weithiau "mai yr Arglwydd oedd biau yr aur, a'r arian, a'r anifeil- iaid, ar fil o fynyddoedd." Daliodd y dywediad yn íawr ar feddwl goleuedig a dwfu-dreiddiol (?) yr hen wraig a phan ofynwyd iddi pa beth oedd ei barn hi am y bregeth a'r pregethwr, ateb- odd,— " Nid oedd o'n gwybod 'mo'r cwbl, 'chwaith _; yr oedd o yn dweyd am hwnw oedd o yn ei frolio, ei fod yn berchen yr holl arian a'r anifeil- iaid. Ond fe dd'weda'i i chwi beth ! phia fo ddim sydd acw ! ni chododd Robert geiniog ar ddim erioed yn Caerliwynog, beth bynag !" Dadl yn nghyi.ch Gwybodaeth Duw. Odcleutu can' mlynedd yn ol, trigianai mewn ty neillduedig o'r enw Bwlcbllaindir, yn mhlwyf Llanfrothen, hen wr a hen wraig, a'u henwau oedd Tomos Edward a Mari William. ün Sabboth clir. yn mis Medi, aeth yr hen wr allan o'r ty gyda'r hwyr, a mwynhäi ei hunan trwy syllu yn addolgar ar y ser a'r planedau. Dych-