Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crr. IX,—Khif. 3.—Màwrth, 1889. CYYAILL-YR-AELWYD: CYMHWYSDERAU ATHRAW YN YR YSGOL SABBOTHOL. Gan y PrOFFESWE T. F. Robeets, M.A., Caebdydd. ID oes angen dweyd llawer yn Nghymru ar bwysigrwydd ac urddas swydd ath- raw, canys yn mha wlad y dywedwydac yr ysgriíenwyd mwy ar yr angen am addysg ac athrawon nag a wnaed yn Nghymru yn ystod yr haner canrif diweddaf ? Yn mha le y gwel- wyd y werin yn credu cymaint yn nylanwad ben- dithiol dysg a diwylliant ì Ac os gofynir am y rheswm, fe'i ceir yn benaf yn hanes crefyddol y genedl. Orefydd a fu'r moddion i agor llygaid y Cymry i weled yr angen hwn am addysg—o'r addysg fwyat elfenol hyd at y diwylliant cyf- lawnaf. Er mwyn dysgu corff y bobl i ddarllen y Beibl y sefydlwyd yr Ysgolion Cylchdeithiol a'r Ysgolion Sabbothol, ac er mwyn parotoi ym- geiswyr am y weinidogaeth y sefydlwyd yr ath- rofeydd cyntaf yn y wlad. Dylanwad yr Ysgol Saibothol ae Addysg y Genedl. Ond i ni ddal ar y ffynonell o'r hon y derbyn- iaaom ein sêl dros addysg, ni bydd yn anhawdd esbonio peth sydd ar yr olwg gyntaf yn rhyfedd, sef bod yr angen am addysg elfenol—yr addysg sydd angenrheidiol at waithcyffredin bywyd—yn cydfyned a chymaint o awydd i ddarllen, a siarad, ac ysgrifenu ar bynciau sydd yn gofyn myfyrdod ac ymchwiliad. Yn yr Ysgol Sul Gymreig, ceir golwg ar yr amgylchiadau sy'n rho'i rheswm am hyn. Cynulliad o bobl sydd yno wedi dyfod yn nghyd i ddysgu darllen a deall y Beibl. Éhaid ei ddarllen yn gyntaf: dyna addysg eìfenol. Rhaid cael gwybodaeth am arferion a hanes gwledydd y Beibl. Ond mwy na hyny, y mae yn rhaid ystyried ei ath- rawiaethau, a'r addysg foesol a'r datguddiad dwyfol sydd ynddo. Dyma, drachefn, addysg elfenol, yn gymaint a bod yr athrawiaeth sydd yn dechreu rhai yn Nghrist o fewn cyr- haedd y mwyaf anghynefín. Ond dyma hefyd yr addysg ddyfnaf sydd yn bod, yr addysg sydd yn enyn yr awydd cryfaf a'r ymroddiad mwyaf, yn yr hon nis gall neb gyrhaedd gradd meistr. Gan hyny, man cyfarfod ydyw yr Ysgol Sab- bothol rhwng y dechreu a'r diwedd, y camrau cyntaf mewn gwybodaeth, a'r syniadau eangaf am Dduw ac am ddyn. Yn awr, gofynir rhyw ofyniad syml ar ystyr gair neu frawddeg ; bryd arall holir, " P'le yr oedd y fan a'rfan ?" a thra- chefn, saif y dosbarth uwchben athrawiaethau mawrion crefydd. A dyma, mewn canlyniad, ydyw athraw mewn Ysgoí Sabbothol: un a ddylai fod yn hyddysg yn iaith y Beibl, ac yn ymofyn am hyny o wybodaeth am hanes a dae- aryddiaeth gwledydd y Beibl sydd yn angen- rheidiol er egluro ystyr adnod neu benod ; ond, yn benaf dim, un a ddylai fod yn gymhwys i holi ac ateb yn nghylch pethau ysbrydol, ac i roddi cyfarwyddyd yn y bwlch rhwng gwybod- aetho ewyllys Duw a'r ymgysegriad sydd yn eisieu er ei chyflawnu. Holi ac Ateb. Ac os mai dyma'r defnyddiau sydd gan yr athraw hwn dan ei ddwylaw, beth am y dull a'r modd o fyned yn nghyd a'r gwaithî Dull mawr yr Ysgol Sabbothoí ydyw holi ac ateb ar dafod leferydd. Ategir ef, bellach, gan arhol- iadau ysgrifenedig i raddau mwy neu lai yn mhlith pob enwad Oymreig, Pethau purion a llesol ydyw arholiadau yn eu lle, oni wneir gormod o honynt, megys y gwneir yn myd add- ysg yn gyffredinol yn y dyddiau hyn. Ond y cynghor y dymunwn ei ro'i i athrawon ac ath- rawesau ydyw hwn : Gofalwch na byddo i ddim fyned a lle holi ac ateb yn y dosbarth, canys dyma y dull goreu o bob dull er cyfranu addysg o'r fath ag y mae gofyn am dani yn yr Ysgol Sul. Ni wyddai neb yn well swyddogaeth holi ac ateb na'r athronydd Groegaidd Socrates. A pheth oedd ei waithef 1 Myned oddiamgylch, mewn oes arwynebol ac amheus, pan oedd dyn- ion wedi myned i feddwl eu bod yn gwybod y cwbloedd yn werth ei wybod, ac yn Uwyddo mewn byd a masnach ar y wybodaeth hono. Elai ef oddiamgylch, a holai y rhai hyn ; a thrwy eu holi, profai iddynt, o'u genau eu hun- ain, na wyddent mo'r hyn y tybient eu bod yn ei wybod ; dangosai iddynt eu tlodi; ac os cy- merent eu dysgu, holai hwy drachefn, a thynai o'u genau wirioneddau mawrion oedd yn nghudd mewn geiriau a brawddegau cyffredin, a dangosai mor agos oedd y cysylltiad rhwng egwyddorion parhaol a'r pethau mwyaf syml mewn barn neu mewn buchedd. Trwy yr unrhyw foddion, dichon yr athraw Cymreig gyffroi meddwl ei ddysgybl o'i farweidd-dra, a'i arwain, o dipyn i beth, i ymorphwys ar egwyddorion sylfaenol. Nid pob afhraw a fedr "holi'r ysgol," yr hyn gydd waith pwysig, yn gofyn dawn neillduol. Ond dylai pob athraw fedru holi ei ddosbarth yn effeithiol, ond iddo feddu amcan yn mhob gofyn- iad a ddyry, a bod yn fanwl, heb fod yn or- fanwl, nac aros yn rhy hir uwchben adnod am ei bod yn dygwydd bod yn adnod ; ond cadw mewn golwg amcan a rhediad y paragraff neu'r benod,