Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rbif. 44. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf. L—Sadwrn, Awst 13,1881. "Cyfaill yr Aelwyd," gan Gwyndaf Elian, Groes- wen........................................................................ 608 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 603 Arholiad Ysgrythyrol Undeb Ysgolion Sabbothol Cymreig Liverpool a'r cyffiniau.............................. 605 Yr Iaith Gymreig, gan Dem Wyn o Essyllt ............... 606 Robin, y Caban-was, gan J. W. Hughes, Llanberis...... 607 Arwriaeth Masnach, gan Teganwy ............................. 609 Yn mysg y Plant, gan AHtud Gwent ........................... 611 Y Cyfarfod Adlomadol,— Ymddyddan rhwng Cymedrolwr a Dirwestwr, gan E. R. Lewis, Aberafon................................................ 610 YFerch o Gefn Ydfa, gan Cadrawd........................... 612 Ffraeth-eiriau y Glowyr, gan Dafydd y Glowr............... 612 Cyfrinach y Beirdd, gan Trebor Mon........................... 612 Y Morwr Bach Gweddigar, gan E. Jones (Trebor)...... 6i3 Cystadleuaeth Rhif. 37................................................ 613 Cetyn ar yr Aelwyd. gan E. Evans, Nantyglo............... 615 Oriau gyda'r Hen Feirdd, gan Cadrawd........................ 615 Difyrwch yr Aelwyd................................................... 616 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd............................... 616 At ein Darllenwyr...................................................... 616 CONGL YR ADRODDWR.— Hun-Olygfeydd, gan Eurfryn.................................... 516 Y Teulu ar jrr Aeîwyd................................................ 616 "CYFAILL YR AELWYD." Gan Gwyndaf Elian, Geoeswen. I Aelwyd " Cyfaill " hylon—a chyfaill Ddyrchafa gwir Frython; Gwr a roddai geryddon I wegi Sais, teg yw son. Dyma frawd, yn dwyni ei fron—o waed pur, Wedi para'n flyddlon; Dirfawr îes wna'i hanesion, A'i wersi heirdd, i'r oes hon. Sylwch, dyma'r wythnosolyn—goraf, Mewii gair o'r oll, fechgyn ; Wedi'm gael pip, cym'raf dipyn I wadu ei werth, wedi hyn. Y TAFOD. Byw iachus " Aelod bychan "—y w'r tafod Pert ufudd a buan, Hwn ollwng ddoniau allan Yn fydrau deifl fyd ar dân. Lŵerpool. Doged. GWLADYS RÜFFYDD: ystori hanesyddol am sepydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod XL.—Siom. ADAWSOM Aregwedd yn dysgwyl yn ofer am ei hysgiyfaetb. Aml iawn y taflai edrychiad dysgwyliadol yn groes i'r maes agored o fiaen y man y gosodwyd y cynllwyn, gan obeithio gweled y fintai fechan oedd ei heiddigedd hi eisoes wedi ddedfrydu i farwolaeth. Ond fel y gwyr y darllenydd cyn hyn, dysgwyl jn ofer wnaeth. Fel yr elai awr ar ol awr yn mlaen heb i'w llygaid gael eu lloni gan olwg ar yr hyn y bu cyhyd yn ddysgwyl, ychwanegai ei hanesmwyth- der. Fel teigres wedi colli ei hysglyfaeth yr oedd Brenines ddigllawn y Brigantwys yn awr. Rhodiai yn ol a blaen yn mysg y coed, ei dyrnau yn nghau, a'i hewinedd yn claddu yn y cnawd dideimlad ; y danedd yn dỳn wasgedig, y llygaid. yn fliachio tân, a'r holl wynebpryd yn ellyllaidd. Hyn oedd yr olwg arni pan safodd o'r diwedd. gerllaw Cyllin, yn rhy gynliyrfedig ar y fynud i ddweyd gair. Yr oedd y milwyr wedi sylwi yn hir cyn hyn ar anesmwythder eu brenines, ond gwyddai pob un o honynt trwy brofiad blaenorol, y buasai pwy bynag anturiai i'w hanerch pan yn ei nhwyd fel hyn yn peryglu ei fywyd wrth hyny. Ymdrechent felly beidio cyfarfod a'i llygaid o gwbl, ac eto teimlent ryw swyngyfaredd anes- boniadwy yn eu gorfodi i ganlyn pob symudiad o'i heiddo gyda'r wyliadwi'iaeth fanylaf. Yr oedd dau o'r gwyr yn Uechu gerllaw i guddfan Cyllin, yn ddigon agos i weled pob symudiad o'i eiddo ef ac Aregwedd, ac eto yn ddigon pell fel na chyrhaeddai swn geiriau heb i'r llais ddyrchafu ychydig mewn tôn. Yr oedd un o'r ddau yn ddyn ieuanc, glanwedd, heb fod o bosibl dros ugain oed, tra yr oedd gwallt llwyd y llall, a rhychau amser yn llinelli ei dalcen, yn profì ei fod rnewn gwth o oedran, er fod ar yr un pryd y breichiau cyhyrog a'r gewynion yn sefyll allan fel cordynau cylymedig, yn profi fod y nerth corphorol eto yn parhau gystal ag erioed.