Skip to main content

Rliit. 43. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EYANS. CYNWYSIAD Cyf. I.—Sadwrn, Awst 6, 1881. Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. Aelwyd Ddedwydd, gan Miss Anne Parry (Brythonferch) Beddrodau y Beirdd Cymrefg, gan Trebor Mon............ Cynydd Arkansas......................................................... Plant Helen, gan eu Hysglyfaeth Diweddaf................. YFerchoGefa Ydfa, gan R.O., Bethesda.................. Masnach, yr hyn yw, a'r hyn ddylai fod, gan Svlwedydd Robin, y Caban-was. gan J. W. Hughes, Llanberis..... Oriau gyda'r Hen Feirdd, gan Cadrawd........................ Colofn yr Ymchwilgar, gan Alltud Gwent..................... Ariangarwch, gan T. Idris Prys.................................... Arhohad Ysgrythyrol Undeb Ysgolion Sabbothol Cymreig Liverpool a'r cyffiniau................................ YBoneddwra'r Gwneuthùrwr Pasgedi........................ Dealldwriaeth Cigfran, gan John Jones........................ CONGL yr Adroddwr.— "Mae cariad yn ddall," gan Glanaraeth......... Cyfrinach y Beirdd, gan GwilymGlan Afan......... Difyrwch yr Aeiwyd......................................... Cystadleuaeth Rhif. 36....................................... Gwobrau Cyfaill yr Aei.wyd....................... At ein Darllenwyr............................................. Y Teulu ar yr Aelwyd....................................... 589 591 591 592 593 594 695 590 597 597 59S 598 599 600 600 601 601 602 602 602 602 GW0BR ARBENIG. CYSTADLEüAETH RHIP. 40. CYNYGIR GWOBR O IIANER GINI am " Y Cyntlun Goreu i helaethu Cyìchrediad Cyfaill yr Aelwyd." Dysgwylir awgrymiadau syml a practical dan y penawdau' canlynol:— laf.—Beth all y Cyhoeddwyr wneyd ? 2iL—Beth all y Golygwyr ẁneyd ì 3ydd.—Beth all y Dosbàrthwyr wneyd ì 4ydd.—Beth all y Darllenwyr wneycí ì 5ed (os bydd angen).—Awgrymiadau Amrywiol. Rhaid i'r Cynllun beidio llanw mwy na thair colofn o'r Cyfaill. Beirniaid :—Y Cyhoeddwyr, y Golygydd CyfF- redinol, y Golygydd Cerddorol, ac un o n Dosbar'th- wyr (i'w nodi èto). Y Cyfansoddiadau, yn dwyn ffugenwau yn unig, a'r enw priodol dan sel, i fod'mewn llaw erbyn Awst 12fed, yn gyfeiriedig fel hyn— "The Editor " Cyfaill yr Aelwyd, " Llangadoch, Carmarthenshire. M Cystadleuaeth Arbenig, Rhif. 40." Gan mai ein hamcan yw dwyn y Cyfaill hwn i bob Aelwyd yn Nghymru, byddẁ» yn ddiolchgar am awgrymiadau ar rai neu yr oll o'r penau uchod, oddiwrth ein hewyllyswyr da,'hyd y nod os na thueddir hwynt i gystadlu. GWLADYS RÜFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. PENOD XXXVIII. GWAHODDIAD. .DYEITHRDDYN urddasol!" ebe y Jì"^/ Derwydd, gan osod ei law ar ysgwydd. ^^ Joseph, "yr oeddwn wedi clywed rhyw son am y ddysgeidiaeth newydd hon o'r blaen, ond ni ddarfu i mi edrych arni ond megys llawer o bethau cyöelyb, yn denu rhai dynion ysgafnben a'i newydd-deb. Ond y mae rhyw- beth hynod yn dy lais a'th ddull di o fynegu y peth, yr hwn, ar wahan i'r weithred synfawr wyt newydd gyflawnu, sydd yn gwneyd i mi chwenych gwybod mwy am y peth." " Da y gwnei i chwenych gwybod dirgeledig- aethau dadguddiedig Duw," oedd ateb y cenad- wr. " Mae rhai yn cau eu llygaid, a'u clustiau, gan galedu eu calonau, a gwrthod gwrandaw ar' yr hyn ddanfonwyd o'r nef iddynt." " Ychydig o rai felly geir yn mhlith Derwydd- ion Prydain," atebai y Derwydd gan dalsythu ei ben. " Nid oes eisieu i Dderwyddion Prydain ofni chwilio i fewn i unrhyw ddysgeidiaeth. Mae ein dysgeidiaeth ni wedi dysgyn i ni o dad i fab er yr oesau dirifedi, ac yn Mhrydain y cedwir y ddysgeidiaeth hono buraf ; atom ni y daw myfyrwyr Derwyddol Gaul i gael eu hadd- ysgu, ac oddiwrthym ni y lledir y ddysgeidiaeth hynaf fedd y byd, yn mhob gwlad lle ei dysgir. Ÿr ydym wedi dysgu un peth, a hyny yw, mái nid gwaeth y da o'i chwilio. Ar yr egwyddor hon yr ydym bob amser yn barod i roddi ystyr- iaeth bwyllog i bob dysgeidiaeth gynygir i'n sylw. Os drwg yw, os oes a fyno plant Annwn a hi, nis gall lai na dangos hyny hefyd, ac yna da fydd ein bod wedi chwilío er cael allan y twyll. Yn awr mae genyf gynygiad i'w osod ger dy fron." "Mynega," oedd yr ateb syml. "Hyn yw. Gwysiaf ynghyd i'th gyfarfod ereill fel fy hun, yn Dderwyddion cyfarwydd a thraddodiadau a dysgeidiaeth ein cyndeidiau a dirgeledigaethau ein crefydd. Ger bron y rhai