Skip to main content

Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyp, I—Sadwrn, Gorphenaf 23, 1881. Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 561 Arholiad Ysgrythyrol Undeb Ysgolion Sabbothol Cymreig Liverpool a'r cyffiniau................................ 563 Rhys Geintachlyd, gan Corry O'Lamus........................ 564 Pethau i'w gochel ar yr Aelwyd, gan Meilwch, Gelliaur 566 Plant Helen, gau eu Hysglyfaeth Diweddaf............... 566 Cetyn ar yr Aelwyd, gan E. Evans, Nantyglo.............. 567 Ymfudiaeth, gan Cadrawd.......................................... 567 Aelwyd Ddedwydd, gan Miss Anne Parry (Brythonferch) 569 Dafydd ap Edrnwnt yn Eisteddfod Caerfyrddin............ 570 Beddau'r Beirdd, gan Ogwenydd................................. 572 Adolygiad y Wasg—Yr Eurgrawn Wesleyaidd.............. 572 Y Ferch o Gefn Ydfa, gan Eryr Glyn Cothi.................. 572 CONGL YR ADRODDWR.— Crist yn Ngardd Gethsemane, gan Homo Dda......... 572 Cystadleuaeth Rhif. 34................................................ 573 Difyrwch yr Aelwyd................................................... 573 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd............................... 574 Gwers mewn Moesgarwch, cyf. gan H.J., Llandilo......... 674 At ein Darllenwyr...................................................... 574 Y Teulu ar yr Aelwyd............................................ 574 GWOBR ARBENIG. CYSTADLEUAETI-I RHIF. 40. CYNYGIR GWOBR 0 IIANER GINI am " Y Cynilun Goreu i helaethu Cyhhrediad Cyfaill yr Aelwyd." Dysgwylir awgryniiadau syml a practical dan y penawdau canlynol:— laf.—Beth all y Cyhoeddwyr wneyd ? 2iL—Beth all y Golygwyr wneyd ? 3ydd.—Beth all y Dosbarthwyr wneyd ? 4ydd.—Beth all y Darllenwyr wneyd ì öed (os bydd angen).—Awgrymiadau Amrywiol. Rhaid i'r Cynllun beidio llanw mwy na thair colofn o'r Cyfaill. Bbirniaid:—Y Cyhoeddwyr, y Golygydd Cyff- redmol, y Golygydd Cerddorol, ac un </n Dosbarth- wyr (i'w nodi eto). Y Cyfansoddiadau, yn dwyn ffugenwau yn imig, a'r enw priodol dan sel, i fod niewn llaw erbyn Awst 12fed, yn gyfeiriedig fel hyn— "The Editor "Cyfaill yr Aelwyd, " Llàngadoor, Carmarthenshirb. " Cystadleuaeth Arbenig, Rhif. 40." GWLADYS RUFFYDD: ystori hane8yddol am sefydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod XXXVI—Meddiant Cvth- reulig. R mwyn esbonio achlysur y cynhwrf mawr yn y gwersyll, rhaid i ni fyned yn ol at ddygwyddiadau gymerasant le yno ar ol ymadawiad Gwladys a'i chyfeillion y boreu hwnw. Yr oedd Joseph yn ei awydd i ddwyn y new- yddion da oedd ganddo i'w traethu i sylw y bobl, yn ymdrechu hyd ei eithaf i enill ymddiriedaeth a chyfeillgarwch y bobl gyffredin, gan wybod y gallai ar ol gwneyd hyny, gael gwell gwrandaw- iad fel cyfaill nag fel dyeithr-ddyn. Gyda'r am- can yma mewn golwg, yr oedd eisoes wedi cad- arnhau yr argraff ddymunol oedd wedi gael ar ei gyd-deithwyr ychydig ddyddiau cyn hyny, a thrwyddynt hwy, ar ereill hefyd o'r Prydeiniaid. Yn un o'r pebyll mwyaf diaddurn yn y gwer- syll, mewn man gyda'r olaf y gellid dysgwyl i unrhyw sylw neillduol gael ei daìu iddo^ nac un- rhyw ddylanwad neillduol i darddu o hono, tyn- odd y Cynghorwr Iuddewig y diwrnod hwnw fwy o sylw, ac enillodd fwy o ddylanwad na phe treuliasai ei amser yn mhabell y pendragon ei hun. Y boreu hwnw pan oedd rhwysg a Uawenydd yn cydfyned âg ymadawiad y Canwriad Rhuf- eimg a'i fintai, yr oedd prudd-der a gofid yn ty- wyllu y babell fechan hono, a'r noson hono, pan ddychwelodd Aregwedd Foeddawg yn siomedig, ei chynlluniau wedi eu dyrysu, a'i chalon yn llawn o bob drwg-nwyd, yr oedd y babell hono yn gartrefle mwy o gysur a dedwyddwch nag a geid yn eiddo y pendragon ei hun. Y boreu hwnw, pan oedd prysurdeb paroto- adau yr ymadawiad yn tynu sylw pawb tuallan, yr oedd prysurdeb o natur arall yn tynu sylw pawb tufewn i'r babell. Pe edrychid i fewn i'r babell yn mron ar adeg ymadawiad y fìntai a'i gosgorddlu, canfyddid golygfa hynod.