Skip to main content

Rtiif. 40. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf. I.—Sadwrn, Gorphenaf 16, 1881. Owladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 547 Yr laith Gynireig, gan Dewi Wyn o EssyUt.................. 549 Cetyu ar yr Aelwyd, gan E. Evans, Nantyglo.............. 550 Aelwyd Ddedwydd, gan Miss Anne Parrv (Brjthonferch) 551 Arwriaeth Masnach, gan Teganwy, Dowlais.................. 652 üriel yr Enwogion.— Adgofion saer maen—William Edwards, o Eglwysillan, Morganwg, gan Cadrawd... 553 Beddrodau y Beirdd Cymreig, gan Trebor Mon............ 555 Yr Adran Gerddorí>i,. gan Alaw Ddu.— | JBeirniadaeth Eisteddfod Bethlehem, Cwmogwy......... 556 Cyyrinach v Beirdd.—Rhodwy a Thjdfylyn, gan Siencyn Ddu Ddiddichell.......................................... 557 CONGL yr Adroddwr.— Henwr! hen wr! gan Teganwy, Dowlais.................. 557 Y Blodeuyn Gwywedig, gan E. R. Lewis, Aberafan... 55S Tuchan! peidiwch! gan L. James, Ynysddu............... 55S Coeden y Meddwyn, gaa R. W. Evans (Caradog Eryri)... 559 Cystadleuaeth Rhif. 33............................................... 559 Difyrwch yr Aelwyd.................................................. 559 Gwobrau Cyi'aill yr Aelwyd............................... 560 At ein Darìlenwyr...................................................... 560 Y Teulu ar yr Aelwyd.............................................. 560 AT EIN DOSBARTHWYR A'N DERBYNWYR. DYMUNWN wneyd yn hysbys ein bod wedi gwneyd trefniadau i gyhoeddi yn fuan yn Nghyfaill yr Aelwyd yr Atebion Buddugol yn chwechfed ARI-IOLIAD YSGRYTHYROL Undeb Ysgolion Sabbotiiol Cymreig Liyerpool a'r cyffiniau. Gan fod yr Undeb yma yn rhifo 30 o ysgolion, yn cynwys dros bum'cant o athrawon, a thros saith milo ysgolorion, bydd yr atebion hyn yn meddu dyddor- deb neillduol i luaws. Gan fod yr Undeb hwn hefyd yn un anenwadol, a chau fod miloedd o'n derbynwyr yn aelodau o'r Ysgol Sul, yr ydym yn credu y bydd cyhoeddiad o'r Atebìon Buddugol hyn yn dderbyniol gan lawer. Dymunwn ar ein derbynẁyr sydd yn teimlo dy- ddordeb yn yr Ysgol Sul, ac yn enwedig y rhai ydynt yn aelodau o Undeb Liverpool, neu yn cìal cysylltiad âg unrhyw gyfres o Arholiadau Ysgrythyrol, i alw sylw eu cyfeillion at y rhybudd hwn. "" Rhodder archebion yn ddioedi'r llyfrwerthwyr, neu i'r dosbarthwyr Ileol. GWLADYS RÜFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod XXXV. " Cariad yn Gorchfyglt." ADAWSOM Pudens a'i wyr yn sefyll raewn cryn benbleth wrth ymddangosiad annysgwyliadwy y Prydeinwyr arfog. Beth allai yr ymddangosiad sydyn hyn arwyddo 1 Yn mha oleu bynag yr edrychai arno, ni allai Pudens gael nemawr gysur ynddo. Annhebyg i'r eithaf oedd mai cyfeillion iddo ef oeddent. Nis gallai Oaradog fod wedi danfon y gwyr hyn yn osgorddlu iddo, pe amgen buasai wedi mynegu ei fwriad i wneyd hyny cyn iddo ef ei hun droi yn ol. Os nad hyny oedd, pwy yn ngwersyll y Prydeiniaid fuasai yn debyg o deimlo digon o ddyddordeb ynddo i erlid ar ei ol fel hyn ì Nid oedd yno, trwy wybod i Pudens, ond dau, neu yn hytrach dwy, fuasai yn debyg o wneyd hyn. Gwladys,—a llamodd calon y canwriad ieuanc wrth y drychfeddwl,— oddiar gyfeillgarwch ; ac Aregwedd Foeddawg oddiar elyniaeth. Ond yr oedd wedi ôarwelio a Gwladys y nos o'r blaen, neu yn hvtrach y boreu hwnw. Aregwedd ynte, Nid öedd holl gyfrwystra Brenines ffroenuchel y Brigantwys wedi ei galluogi i dwyllo yn hollol y canwriad gwyliadwrus. Yr oedd ei hymddygiad yn y goedwig, ei hymdrech bendertÿnol ond siom- edig i ddial mewm dull mor annheg farwolaeth Ifor, yn nghyd a llawer fflachiad fFyrnig o'i llygaid wedi hyny, yn ddigon i brofi i" Pudens fod yr ysbryd dialgar siomwyd unwaith gan ddewrder Gwladys. yn barod ar y cyfie cyntaf i dori allan drachefn. Ond yr oedd yn bosibl mai nid neb o breswyl- wyr y gwersyll oedd y rhai hyn. Yr oedd minteioedd crwydrol o'r Prydeiniaid yri barhaus yn dylifo i fewn i'r gwersyll, neu yn myned allan ar hynt ysbeilgar. Gallai y dyeithriaid hyn ymddangosodd mor sydyn, fod yn perthyn i un o'r cyfryw. Ond os felly drachefn, gelynion fuasent yn falch o'r cyíleusdra i ymosod ar fintai