Skip to main content

RUif. 39. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf. I.—Sadwrx, Gorphenaf 9,1881. Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 533 Dydd fy Mhriodas, gan Deithiwr................................. 535 Awduron Seisnig ar Faterion Cymreig, gan Eryr Glyn Cothi ..................................................................... 538 Plant Helen, gan eu Hysglyfaeth Diweddaf.................. 639 Llythyr Gwyddelig, cyf. gan Eilydd Owen.................. 540 Pobpeth Duw yn ateb dyben, gan Deheufardd............ 541 Y Cyfarfod Adloniadol, gan R. W. Erans, Pensarn.......541 Pethau i'w gochel ar yr Aelwyd, gan Meilwch............... 542 Colofn yr Ymchwügar, gan Alttud Gwent..................... 542 CONGI. VR ADRODDWR.— Y Crwydryn yn Marw, gan Glanaraeth, Hwlffordd... 543 Ynmysgy Plant, gan Alltud Gwent........................... 544 Cystadleuaeth Rhif.30.............................................. 545 Cystadleuaeth Rhif. 32................................................ 545 Llofrìon—ChwedlamyParch.R. Baxter,gan J. W. Hughes, Llanberis ...................................M......................... 545 Difyrwch yr Aelwyd.......................................... "......! 546 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd........................."."".'. 546 At ein Darllenwyr...................................................... 546 Y Teulu ar yr Aelwyd..............................................'. 546 AT EIN DOSBARTHWYR A'N DERBYNWYR. DYMUNWN wneyd yn hysbys ein bod wedi gwneyd trefniadau i gyhoeddi yn fmn yn Nghyfaill yr Aelwyd yr Atebion Buddugol yn chwechfed ARHOLIAD YSGRYTHYROL Undeb Ysgolion Sabbothol Cymreig LtVERP00L a'r cyffiniau. Gan fod yr Undeb yma yn rhifo 30 0 ysgolion, yn cynwys dros bum' cant 0 athrawon, a thros saith m il 0 ysgolorion, bydd yr atebion hyn yn meddu dyddor- deb neillduol i luaws. Gan fod yr Undeb hwn hefyd yn un anenwadol, a chau fod miloedd o'n derbynwyr yn aelodau o'r Ysgol Sul, yr ydym yn credu y bydd cyhoeddiad o'r Atebion Buddugol hyn yn dderbyniol gan lawer. Dymunwn ar ein derbynwyr sydd yn teimlo dy- ddordeb yn yr Ysgol Sul, ac yn enwedig y rhai ydynt yn aelodau 0 Undeb Liverpool, neu yn dal cysylltiad âg unrhyw gyfres 0 Arhohadau Ysgrythyrol, i alw sylw eu cyfeilhon at y rhybudd hwn. Rhodder archebion yn ddioed i'r Uyfrwerthwyr, neu i'r dos^barthwyr lleol. GWLADYS RUFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. "Beeichiau Gwladys." penod xxxm. 'N mhen llai nag awr o amser wedi î Gwladys ac Eurgain ymadael a'r gwer- syll, safent ar lan y Baslyn, yn agos i bedair milldir o'r gwersyll. Nid oedd y Baslyn ond cronfa arwynebol o ddwfr, yr hwn ar dymorau gwlyb oedd yn gorchuddio eangder o dir, ond ar ol hir sychni uad oedd dros ryw filldir 0 gwmpas. Nid oes yn awr gymaint a'i ol yn bodoli. Lle gynt y cyffroid ei donau bychain gan yr awelon, mae yn awr yn feusydd gwastad, yn ffurfio rhan 0 un o ardaloedd ffrwythlonaf Lloegr. Pan gyrhaeddodd y chwiorydd yr ymgynull- fan, cawsant haner dwsin o'r Silwriaid ieuainc eisoes yno. Daeth y lleill i fewn o un i un hyd nes oeddent yn rhifo dwsin o wyr ieuainc arfog, blodau byddin y Silwriaid. Ond nid oedd Gwraldeg nac Elmwr wedi cyr- haedd. Wedi i'r olaf o'r deuddeg dysgwyliedig gyrhaedd y fan, ac heb un arwydd o ddyfodiad Gwraldeg, dechreuodd Gwladys anesmwytho. Yr oedd yr amser yn myned heibio yn gyfìym, a hwythau yn aros yn segur yno, pan oedd pob mynud o'r pwys mwyaf. " Pa le y gall y llauc fod V gofynai i'w chwaer. " Os na ddaw yn fuan, cychwynwn. Nis gallaf yn fy myw aros yn segur fan yma, tra y gall fod gelynion Pudens eisoes ar ei warthaf." "Na, nis gall hyny fod ychwaith," ebe Eurgain. " Gwyddost fod y gosgorddlu i fyned gydag ef o leiaf hyd y Llyn Du. Ni chyr- aeddant yno am lawn dwy awr eto, pe defnydd- ient bob brys." " Eithaf gwir, ond gall ychydig fynudau o oediad yn awr benderfynu y cweBtiwn am ef fywyd neu ei angau ef. Ust! dyna swn traed ! Ha! Dyma Gwraldeg o'r diwedd." Nesaodd y Silwriad ieuanc gyda chamrau cyflym atynt. Yr oedd yn amlwg wedi defji-