Skip to main content

Rlilf. 38. Dan Olyo.aeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Ctf. I.—Sadwrn, Gorphenaf 2,1881. Dwyhadling y Weddw, gan Cadifor, Cwmbwrla......... 619 Athraw yr Ysgol Sul, gan Glanaraeth........................... 519 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 519 Rhianon—Ystori Garu, gan W. G. Williams (Glynfab) 522 Beirdd a Barddoniaeth y Saeson.gan D. Williams......... 525 Gwyliau'r Haf, a'r modd i'w mwynhau, gan Hen Dramp 526 Ymfudiaeth, gaö Sylwedydd....................................... 528 Yr Adraîî Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Y Wasg Lenyddol a Cherddorol..............................529 C0NGL TR ADRODDWR.— Y Clefyd Sabbothol, gan Teifionydd....................... 529 Cystadleuaeth Rhif.30............................................. 630 Cyfrinach y Beirdd.—Hywel Eryri, y bardd parod, gan Carneddog, B^ddgelert..................................... 531 Difyrwch yr Aelwyd.................................................. 631 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd............................... 531 At ein Darllenwyr...................................................... 581 Y Teulu ar yr Aelwyd................................................ 632 DWY HADLING Y WEDDW. Buddugol yn eisUddfod Lleyn ac Eifionydd, Nadolig, 1880- Gan Cadifor. Engyl dinciant hadlingau—y weddwhael, Rhoddai'i holl feddianau; A cha' ei ftydd ei choffhau Fr oesoedd, —rhoi o'i heisiau ! ATHRAW YR YSGOL SUL. Gak Glanaraeth, Athrofa Hwlffordd. ATHRAW anwyl,—meithrinwT—aur riniau Yr enaid,—dysgybliwr Hoff ei arddull,—hyfforddwr 0 ddawn yw yr addien wr. Gwr enwog mewn gwir rinwedd,—un diwy d— Un.da ei amynedd; Egyrfhwn â geìriau hedd Gywir ranau'r gwirionedd. ün doeth yn medru dethol,—yr A B I rai bach yr ysgol; Eu denu hwy, heb fod 'n ol, - I henadür «neidioL GWLADYS RUFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cylftaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Pen. XXXI.—Y Cynllwynwyr. R oedd Aregwedd Foeddawg wedi cym- eryd ei rhagocheliadau gyda chyfrwysdra mawr. Gwyddai yn dda yr angenrheidrwydd o gadw pob drwgdybiaeth draw, yn enwedig o galon Gwladys, ac yn unol a'r cynìlun oedd hi a'i mab wedi cytuno arno. Yr oedd Cadell wedi ffurfio un o'r gosgorddlu anrhydedd i hebrwng Pudens a'i wyr ar eu taith. Fel y mae y darllenydd eisoes wedi gweled, yr oedd Cadell wedi cyf- lawnu ei ran ef o'r gwaith yn gelfgar. Md oedd neb a'i gwelodd y boreu hwnw yn cyfarch gwell mewn dull mor hawd(igar i Pudens, ac yn ffarwelio mor wyfeillgar a'r canwriad ieuanc pan drodd y gosgorddlu yn ol, yn drwgdybio dim fod gelyniaeth farwol yn guddiedig dan y wên dwyllodrus, ac y buasai y llaw oedd yn ymaflyd yn neheulaw y pendefig Rhufeinig yn mwynhau ei drywanu drwy ei galon. Yn wir, nid oedd dim yn atal Cadell rhag gwneyd yr ymgais lofruddiog yn y fan a'r. lle, hyd yn nod yn rnhres- enoldeb Caradog ei hun, ond y sicrwydd fod Aregwedd a'i gwyr eisoes yn gorwedd mewn cynllwyn i ddysgwyl am yr ysglyfaeth, ac nad oedd yn ymddangosiadol ddim allai ddyogelu Pudens. Nid yn unig yr oedd Aregwedd wedi cadw Cadell ei hun rhag cymeryd un llaw amlwg yn y fradwriaeth, ond yr oedd wedi gofalu hefyd na chaffai hyd y nod gymaint ag un o'i wyr osod Uaw yn y gwaith. Ÿr oedd ganddi hi, fel y çofia y darllenydd, osgorddlu personol o ddeil- iaid ffyddlon, y rhai ni phetrusent gyfìawnu unrhyw ysgelerder er mwyn ei boddio hi. I'r rhai hyn y bwriadai ymddiried y gorchwyl cynil o ddial ar y gwr oedd wedi beiddio cys- tadlu a Cadell. Yr oedd wedi rhoddi y gorchymynion angen- rheidioi i Cyllin y noso'r bläèn, ac yn nyfnder y nos cyn boreu cychwynìad Pudens, yr, oedà Cyllin a nifer o osgorddlu personol Aregwedd