Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rliif. 36. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EYANS. CYNWYSIAD Ctt, L—Sadwrn, Mbhepin 18,1881. YLloer, gan D. Weeks (Honddu)................................. 491 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 491 Beirdd a Barddoniaeth y Saeson, gan D. Wüliams...... 494 Pentan yr EfaiL a'r hyn a gly wais yno, gan ShonyrOrdd 496 Cae'r Melwr, gan R.O., Bethe«da................................. 498 Yn mysgy Plant, gan Alltud Gwent...................... 499 Llawlyfrí Ddaiareg, gan Arthur Wyn, Liverpool......... 500 YR ADRAN Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Ein Bwrdd Cerddorol............................................. 501 Oriau gyda'r Hen Feirdd, gan Cadrawd....................... 502 CONGL YR ADRODDWR.— Gwell enw da na golud lawer, gan Glan Gwenlais...... 500 Llawer mewn ychvdig, gan J. N. Evans, Llangadock... 600 Cystadleuaeth Rhif. 29............................................. 500 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd............................... 500 At ein Darllenwyr...................................................... 501 Y Teulu ar yr Aelwyd................................................ 600 Y LLOER. [Geiriau Canig.—Cyflwynedig i sylw'r Cerddorion]. Gan Honddtj. OS machlud wnaeth yr heulwen dlos, Draw yn y gorwel pruddaidd, Ein lloni gawn wrth hwylio'r nos, Dan wenau'r Lloerwen wylaidd : Mor siriol yw ei llewyrch llon, Wrth forio'r brigwyn dònáu, Dan ganu awn 6 dòn i dòn, Yn llawen ein calonau. Ond O ! ein gobaith, machlud wnaeth, Y Lloer ar ol yr haul a aeth; Mae plyg ar blyg o gymyl dig, Caddugawl nos o'n cylch a drig; Y tonawg fôr a'i leddfol ru Wna foddi'n hedd mewn dychryn du ! Rhoddwn floedd, ha ! wele'r wawrddydd, Drwy borth aur yn gwenu'n llon; Dychrynfeydd y nos a giliant, Hedd a chân a leinw'r fron. Nos 'nol nos mae'r Lloer ar gynydd, Er cynyddu'n bwyl a'n hed'd; Pan yn morio 'nol i Gyrnru, 'Nol i Gymru gain ei gwedd. Cydganwn gyda'r eos, Drwy'r nos yn ol ein dawn ; Wi lawen orfoìeddus, Mae'r Lloer—mae'r Lloer yn U&wn. GWLADYS RÜFFYDD: YSTOBI BÜNESYDDOL AM SEFYDLIAD CYÎTTÁJr CBJSTIONOGAETH YN MHRYDAIN. Gan Y Golygydd. Penod XXVII.—Y Ddwy Chwaeb. ND nid Gwladys oedd hi. Er hyny gellid yn rhwydd esgnaodi Aregwedd am wneyd y camsynied. Yr oedd gwisg cydmares Pudens yn gywir yr un peth ag eiddo Gwladys; yr oedd ei gwallt hefyd o'r un lliw ; yr oedd y corph Uuniaidd yn meddu yr un teleidrwydd, a'r gwynebpryd urdd- asol yr un prydferthwch. Cymaint yn wir oedd y tebygolrwydd rhwng y llances a Gwladys, fel y gallai Aregwedd pe heb fod yn gynhyrfedig gan nwyd, ac heb gael ei llanw a drwgdybiaeth flaenorol, yn rhwydd syrthio i'r camsynied hyd yn nod ped elai yn nes at y ddau nag yr aeth. Mae y darllenydd yn ddiameu wedi dyfalu eisoes pwy oedd yn ymddyddan gyda Pudena yn nghysgod y babell. Eurgain, chwaer Gwladys oedd. Pan, ar ei ymadawiad o babell Caradog, yr oedd Pudens wedi cael ei arwain gan Gwladys i ystafell arall, a phan y gwelodd yno am y tro cyntaf eráoed eileb ì^or berffaith o Gwladys yn mherson Eurgain, teimlodd, fel na theimlodd o gwbl cyn hyny, y gellid esgusodi Sallust am wneyd y fath gamsynied yn nyryswch dygwydd- iadau cyffrous y noson hono yn y goedwig, Safodd yn fud ar y trothwy, a throdd i weled a oedd Gwladys eto wrth ei ochr. Pan welodd ei llygaid llon yn dawnsio gan fwynhad o'i syndod ef, adfeddianodd ei hun, a deallodd ar unwaitb sut oedd pethau yn bod. Gyda'r urddasolrwydd a'r moesgarwch oeddent yn naturiol iddo, gostyngodd ei ben, ac estynodd allan ei law yn hawddgar, gan ddweyd mewn llais oedd yn amlwg yn seinio gan lawenydd, " Nis gallaf fod yn camsynied. Gwn fy mod yn auerch y dywysoges Eigra, am brydferthwch a rhinweddau yr hon nid yw fy nghyfaill Sal- lust byth yn blino son." Cododd gwrid prydferth i'w gwyneb hithau wrth yr enw hwnw,—Sallust.