Skip to main content

Rliif. 35. *gn\njx WSÿtMml ẅ Wmmttìt êtim §mtUUwl y £eulu. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf L—Sadwrn, Mehefin 11, 1881. I "Gyfaillyr Aelwyd," gan Toan Glan Lluw............... 477 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 477 Nid oeddwn n meddwl dim drwg, gan Hen Ephraim... 479 Plant John Jones yn Ngwlad Jonathan, gan Nicholas Ddu ...................................................................... 481 Yr Taith Gymreig, gan Dewi Wyn o Essyllt.................. 481 Colofn yr Ymchwilgar, gan AÍltud Gwent................. 482 Plant Helen, gan eu Hysglyfaeth Diweddaf.............. 483 Morfydrl Llewelyn, gan Didymus Wyn, Aberdare ......... 484 CONGL VR AnuODDWR.— Y Danchwa (Abercarn*>), gan Glynfab, Ynysddu...... 486 Penillicin er cof am O. J. Hughes, Oswestry............ 487 Fy Anwyl Fam, gan Ioan Glan Lluw........................ 487 Proünd y Gwrthgiliwr, gan Gwaenfab, Bootle......... 487 YR Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Ein Bwrdd Cerddorol............................................. 487 Coloín Holiac Ateb................................................... 4SS Y Nodiadur.—Drychiolaeth, neu pa beth ydoedd?".... 488 Cyfrinach y Beirdd..................................................... 489 I "GYFAILL YR AELWYD." Gan Ioax Glan Lluw. FY nghyfaill anwyl ydwyt ti, Mae'th gwmni imi'n fywyd ; Un drem o'm beiddo ar dy fri Sy'n adnewyddu'm hysbryd; Fel wythnosiadur 'rwyt mor fawr A brenin ar ei orsedd, A'tli urddas gwyd o awr i awr Yn ngolwg Cymru'n rhyfedd, Mae'n argraffedig ar dy wedd üniondeb, budd, a cbariad, Ac ar dy fri pelydra hedd, A didwyll wir gymeriad ; Dy fonwes di sy'n llawn fel gardd, Cynwysa bêr gerddoriaeth, A ffrwyth awenol goeth y bardd A draetha wir farddoniaeth. Yn nghlyw dy bêr nefolaidd swyn, Ac yn dy chwedlaa difyr, Ac O ! dy wir farddoniaeth fwyn, Maent i mi'n fôr o gysnr; Fy mynwes leinw o fwynhad ( O dan dy ddylanwadau ; Ewyt ìmi megys tyner dad, Yn porthi'm gwan feddyliau. Dy urddas elo'n uwch o hyd, Chwaneged dy ddylanwad, Nes delo'r Cymry oll trwy'r byd 0 dan dy amddiffyniad; Fy Nghtfaill hoff na thro dy gefn, A'm gadael mewn gorthrymder, O ! gad i ni ein dau mewn tref n 1 fyw ar for o bleser. GWLADYS RUFFYDD: ystoei hanesyddol am sefydliad cyntap cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod XXVI.—Yn y Gwersyll. Pt^DRYCHODD Caradog mewn syndod ar ei gyfmthder. " Gwladys f gofynai. " Ië, Gwladys,:' oedd yr ateb. " Hyn oedd amcan ymweliad diweddar Cadell a rui, cael genyf i osod y mater o'ch blaen. Mae wedi bod er's amser bellach yn ddymuniad penaf a goraf fy nghalon i weled Cadell yn gosod ei serchiadau ar ryw foneddes deilwng o hono ef ac o orsedd y Brigantwys. Llawenydd digyrnysg oedd genyf ddeall fod fy mab wedi dewis un mor deilwng yn mhob ystyr o hono ef ei hun ac o'i urddas. Rhodiodd Caradog yr ystafell yn ol a blaen heb ddweyd gair. Edrychodd Aregwedd arno ar y cyntaf yn betrusgar, ac yna, pan welodd nad oedd gwyneb- pryd y penaeth yn arddangos arwyddion o fodd- had, daeth cwmwl dros ei gwynebpryd hithau, a gellid deall wrth fflachiad y ílygad, a chrychiad yr ael, fod yr ysbryd oddifewn'yn gynhyrfedig. Eto gwyddai Aregwedd yn rhy dda faint oedd yn ymddibynu ar atebiad Caradog i ben^glu dim yn awr trwy fyrbwylldra. Gwyddai hèfyd yn dda mai nid un gymerai ei yru trwy fygyth- ion oedd ei chefnder, ac y buasai unrhyw ar- ddangosiad o nwyd o'i hochr hi yu awr yn peryglu y cwbl. Gydag ymdrech fawr llwyddodd i lywodraethu ei hun fel nas gallai neb e;anfod dim ond petrus- der yn ei llais pan ddywedodd drachetn :— " Gwn fod y bachgen wedi edrych yn uchel nas gallaiedrych yn uwch yn Mhrydain." "Gwladys'!" sibrydai Caradog, " Fy hoff ferch Gwladys." " Ie, ac nid hoff genych chwi yn unis ond gan bawb. Mae ei rhinweddau wedi deuu serch pawb ddaeth i gyffyrddiad a hi. Ond fel yr oeddwn yn sylwi, er fod Oadell wedi edrych yn uchel, nid yw ei feiddgarwch wedi'r cwbl yn anfaddeuol. Jtíid oe» yn mhlith Uwythau