Skip to main content

Rbif. 34. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. OYNWYSIAD Cyf. L—Sadwbn, Mehehn 4,1881. Y Plentyn Amddifad, gan loan Glan Lluw.............. 463 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 463 Chwerìl am yr Eiddew, gan Miss Anne Parry............... 464 Arwriaeth Masnach, gan Teganwy, Dowlais.................. 465 Morfydd Llewellyn, gan Didymus Wyn, Aberdaro......... 466 Yn mysg y Plant, gan Alltud Gwent........................... 468 Masnach, yr hyn yw, a'r hyn ddylai fod, ganSylwedydd 470 YR Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Eisteddfod Groesgoch.—Y Feirniadaeth.................. 471 Amddiffyniad i'r Tybaco, gan L. James, Ynysddu...... 472 CONGL YR ADRODDWR.— Y Nos, gan Didymus Wyn, Aberdar........................ 473 Y Deigryn, gan Watcyn Wyn, Cross Inn................. 4T3 Y Gwanw.i n, gan Dewi ab Iago, Llandilo.................. 473 Beddrodau y bf irdd Cymreig, gan Trebor Mon........... 474 Cyfrinachy Beirdd..................................................... 475 Cystadleuaeth Rhif. 26................................................ 475 Y Teulu ar yr Aelwyd...............................................476 Y PLENTYN AMDDIFAD. Gax Ioan Glan Lluw. MAE nhad a niam o fewn y bedd, A minau'n grwydryn tlawd, Yn garpiog wyf, a flwyd fy ngweda, Heb unrhyw gâr na brawd. Amddifad wyf o lety clyd, Na lle ro'i mhen ì lawr, Wyf yn dyoddef dirmyg byd, A phwys trallodion mawr. Yn aml rhedaf at y bedd, A deigryn ar fy ngrudd. Gan feddwl cael adgofion hedd, Ond dini ond wylo'n brudd. Ond arno mae blodeuyn ter, Yn araf dyfu'r lan, Fel pe yn wyliwr gan fy Ner Ar lwcli y dystaw fan. A dywed yn ei ddystaw iaith, " Paid wylo blentyn mwy, Mae'th dad a'th fam ar ben eu taith, Yn iach heb boen na chlwy'." 0 ! Iesu anwyl, arddel fi, Na ad fi'n grwydryn tlawd, 0 ! boed dy amddiffyniad di 1 mi yn well na brawd. Tydi yw'r Un a wrendy gri Amddifad sy'n cael cam, 0 ! tywy8 finàu'n ddyogel fry I gwmni nhad a mam. GWLADYS RÜFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod XXVI.—Yn y Gwersyll. AN gyihaeddodd y fintai unedig y gwer- syll, yr oedd yno lawenydd a rhwysg mawr. Yr oedd amryw bethau yn cyd- uno i achosi hyny. Yr oedd urddas y bonedd- esau, un yu gefnithder, a'r llall yn ferch i Caradog, yn ddigon ynddo ei hun i beri iddynfc gael eu gwresawi gydag arddangosiadau allanol o barch. Gyda hyn hefyd, yr oedd Cadell, fel yr ydym wedi nodi eisoes, yn un o'r penaethiaid ieuainc mwyaf llwyddianus a phoblogaidd. Yr oedd ei gydfilwyr felly yn chwenychu ei barchu ef. At hyn, rhaid ychwanegu presenoldeb Pudens, enw a chlod milwrol yr hwn oedd yri adnabyddus i lawer ; a phan y daeth y lluoedä i ddeall, fel y gofalodd Gwladys iddynt gael deall yn fuan, ei fod wedi achub bywyd y dywysogesr anwyledig gan bawb, cafodd gan y penaethiaií oll bob arddangosiad o barch ac edmygedd. Yr oedd hyn, wrth reswm, yn fustl chwerw yn nghwpan Aregwedd Foeddawg, ond gwelai mai ofer fuasai iddi geisio ymyraeth, o leiaf ar hyny o bryd. Arweiniwyd Pudens ar y cyntaf i babell un o'r prif lywyddion, ac yn mhen enyd. daeth gwys i'w gyrchu i babell y Pendragon ei hun. Pan gyrhaeddodd y canwriad ieuanc yno, caf- odd ei hun yn mhresenoldeb dyu canol oed, o» gorph mawreddog a chadarn, talcen uchel a- chlir, a llygaid treiddgar fel llygaid eryr. Er syndod nid bychan i Pudens, anerchodd y Pendragon ef mewn Lladinaeg pur. " Mae yn hyfrydwch o'r mwyaf genyf wresawí i bebyll gwael y Prydeiniaid swyddog mor an- rhydeddus yn y fyddin Rufeiuig," ebe Caradog yn foesgar. " Mae y llaẅenydd hwn yn hollol ar wahan i'r hyn wyf yn deimìo wrth gael y pleser o ddal llaw un sydd wedi fy ngosod i a'm teulu dan gymaint rhwymau persouol iddo." " I mi y mae yr anrhydedd a'r pleser i gyd,