Skip to main content

Rhìf. 94. W$x Wtítẁttöf]Si0l at Witëamtetît ŵriau gauultUmrt y ttttUt. Dan Olyûiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf. L—Sadwrn, Mawrth 26, 1881. Yradrech, gan Tiberog, Trecynon................................. 323 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 323 Llawlyfr i Ddaiareg, gan A. Rhys Thomas, Lerpwl...... 324 Oeiel yr Enwogion.—Alexander II., Ymerawdwr Diweddar Rwsia, gan B. G. E................................. 325 LLEN y Wirin.—Pont ap Hywel, gan E. W., Pontllan- fraith........................................................................ 326 Yr Hanesydd.—Y Freinlen Fawr a'r Brenin John, gan Phoneticus, Llanelli........................................ 328 CONGL YR ADRODDWR.— Y Wraig Rwgnachlyd, gan Teifionydd, Taibach......... 329 Colofn vr Ymchwilgar, gan Alltud Gwent.................. 330 Plant Helen, gan eu Hysglyfaeth Diweddaf.................. 330 YR Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Cyngherddau üwchraddol....................................... 332 Perfformiady "Creation" yn y Tabernacl, Llanelli... 333 Congl Holi ac Ateb.................................................. 334 Ymfudiaeth, gan Cymro Gwyllt............................. 334 Y Cyfarfod Adloniadol, gan E. R. Lewis, Aberafan...... 335 Cystadleuaeth Rhif. 19................................................ 335 Difyrwch yr Aelwyd................................................. 335 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd.............................. 336 At ein Darllenwyr..................................................... 336 Y Teulu ar yr Aelwyd............................................... 336 IS^ Danfoner archebion, P.O. orders, Postal oriers, arian, <fcc. wedi eu cyfeirio, D. Williams & Son, Publishers, Llanelly. YMDRECH. Gan Tiberoo, Treoynon, Aberdare. HYF ewyllys a chryf allu,—enaid Mewn yni'n ymnerthu, Yw Ymdreeh, a gwna dreehu, A sel ei aidd, groesau lu. Drwy wae a chur Ymdrech ä—trwy ei nerth, At ryw nod y cyrcha ; Herio'n hyf bob rhwystrau wna, Am lwydaiant yr ymladda. Drwy uchel nawdd ymdrechion,—y dringir Drwy angeu gwasgfêuon; Nes hwylio o naws hylon I fyw'n sant i fynwes Ion. GWLADYS RUFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod. XVIII—Cadell. R oedd Caradog, Pendragon Uuoedd Pryd- ain, ar yr atnser hwn yn anterth ei nerth. Nid oedd yr eiddigedd personol a llwythol oedd wedi profl yn felldith i'r Pryd- einiaid dan Caswallon, eto wedi dechreu gwan- hau braich y gwladgarwr dewr Caradog. Yr oedd penaethiaid y gwahanol lwythau Cymreig wedi ei ddewis yn unfrydol fel eu Pendragon. Yr oedd ei wladgarwch diamheuol, ei ddewrder dihafal, a'i alluoedd aruchel fel cad- weinydd a maeslywydd, wedi profi mor ddoeth oedd dewisiad y penaethiaid Prydeinig wedibod; ac hyd yn hyn yr oedd ymlyniad y gwahanol lwythau a'u penaethiaid wrth luman y penaeth Siluriaidd, wedi bod yn mron yn an-nhoredig. Yr oedd y Dyfuoniaid, y Corinafiaid, y Creuch- laniaid, y Trinobantiaid, yr Iceniaid, y Brig- antwys, y Demetiaid, yr Ordoficiaid, oll wedi anfon eu minteioedd i ymladd ochr yn ochr a'r Siluriaid dan eu penaeth Caradog, yn erbyn eu gelyn cyffredin,—y Goresgynwr Rhufeinig; a thrwy eu gwrthwynebiad unol a phenderfynol i holl ymosodiadau y gelyn, yr oeddent wedi rhoddi mwy na digon o waith hyd yn hyn i'r llengoedd Éhufeinig profiadol. Yn mhlith y llwythau hyn, nid y lleiaf mewn dewrder na rhifedi oedd y Brizantwys, a breswyl- ient y rhan houo o'r wlad elwir yn awr yn Swydd Efrog. Yr oeddent wedi bod yn mhlith y blaenaf i barotoi i ryfel, y mwyaf brwdfrydig yn newisiad y Pendragou, a'r mwyaf ffyddlawn a dewr ar faes y frwydr. Nid oedd eu hymlyn- iad wrth Caradog yn beth i'w ryfeddu, canys yr oedd teulu pendefígaidd y Brizantwys o'r un gwaed a Charadog ei hun. Yr oedd Brenine» y Brigantwys, Aregwedd Foeddawg wrth ei henw, y'n gyfnither i'r Pendragon. Gellir nodi, er mwyn eglurder pellach, mai yr un yw hon a'r un elwir gan rai ysgrifenwyr yn Curtis Fin Ddu» a chan y Lladiniaid yn Curtismandua.