Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rbif. *3. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf. L—Sadwrn, Mawrth 19,1881. Ymdrech, gan Carnelian, Pontypridd........................... 309 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 309 Yr Iaith Gymreig, gan Dewi Wyn o EssyUt.................. 312 Yr Ysgol Sabbothol. - Job.......................................... 313 Cae'r Melwr, gan R. O., Bethesda................................. 315 Y Pendefig Meddyliol.................................................. 316 Yr Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Ein Bwrdd Cerddorol................................................ 317 Cystadleuaeth Rhif. 22............................................. 317 Congl Holi ac Ateb................................................... 317 Nodiadau Ol a Blaen................................................ 318 Cyfrinach y Beirdd, gan Doged, Liverpool. Trebor Mai ac Isaac Owen, y Clochydd..................... 318 John Jones, Tanrallt, a Twm Harker........................ 318 Gethin Joces a'i Ffon............................................. 318 Lloffion.—Astudiwr y Celfau cain........................... 319 Oddeutu'r Aelwyd.—Twmpath y Morgrugyn............... 319 Lljfrgell yr Aelwyd................................................... 320 Y Nodiadur.—Gwenllian Cydweli, gan B. G. E.......... 321 Difyrwch yr Aelwyd................................................ 321 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd............................... 321 At ein Darllenwyr..................................................... 322 Y Teulu ar yr Aelwyd............................................... 322 tS" Danfoner archebion, P.O. orders, Postal orierg, arian, &c. wedi eu cyfeirio, D. Williams & Son, Publishers, Llanelly. YMÜRECH. Testyn Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd, 1879. cydfuddugol. öan Carnelian, Pontypridd. Gwrol, a brwydrol fab rheidrwydd,—ac aer Cyhyrol diwydrwydd; Careg dafi yn nhalcen aflwydd y w Ymdrech, a llam am dorch llwydd. I Ymdrech hyf mae dyrchafiad,—ac er Cyrhaedd ei ddymuniad, Arf hwn yw penderfyniad, À'i lwybr yw dyfal-barhad. Ystyriwn anhawsderau,—iddo ef Yn ddim ond dring risiau; Fw anfon hwnt i fwynhau Àur fro-dir ei fwriadau. GWLADYS RÜFFYDD: YSTORI HANESYDDOL AM SEFYDLIAD CYNTAF CRISTIONOGAETH YN MHBYDAIN. Gan Y GOLYGYDD. Penod XVII—Y Daith. ETH y fintai fechan yn mlaen drwy y ' coed yn hwylus. Yr oedd Gwladys, a i chamrau ysgeifn bywiog, yn medru teithio yn ddigon buan i gyfateb i gyflymder ar- ferol y milwyr pan ar daith. Teithiai Constantine, gydag un arall o'r mil- wyr, yn flaenaf; yna dri o'r milwyr ; ar eu hol hwy delai Pudens, Joseph, a Gwladys; yna, mewn pellder digonol i'w rhwystro i glywed, ond eto yn ddigon agos i ffurfio amddiflyn parod' tri milwr, ac yn cdaf, dau o'r milwyr mwyaf pr .fiadol. Gwellr ' ì,- ì.,d ^lulu-lyä yn nghanol y fintai, ac nas gallai niweu ddyfod yu agos ati o un cyfeiriad, heb yn gyntaf ymosod ar y milwyr. Yr oedd yr holl fintai oedd dan arweiniad Pudens a Sallust yn filwyr dewr a fíyddlon, ond nis gallai Pudens fod wedi dewis o'u plith well deg nag oedd ganddo yn awr. Yr oedd yr oll yn filwyr oeddent wedi profi eu dewrder mewn brwydrau poethion. Ond rhagor na hyn, yr oeddent yn ymlynwyr personol wrth Pudens. Yr oedd y degwriad Constantine, fel yr ydys wedi dangos mewn penod flaenorol, yn un o hen weision Pudens, ac wedi cario ei feistr ieuanc ganwaith >ti ei freichiau pan oedd Pudens yn blentyn. Yr oedd y gwyr dan ei ofal hefyd oll yn ddeiliaid i Pudens, ac fel y cyfryw, pe na bae eu hanrhydedd milwrol yn gofyn hyny,yn barod i roddi eu heinioes i lawr cyn y cawsai eu canwr- iad a'u mheistr gam na niwed. Nid rhyfedd fod y teimladau cyfeillgar a chynes fynwesent tuag at Pudens yn eu tu- eddu i deimlo parch a chariad at GwladyB. Eglura yr ymddyddan canlynol gymerodd le rhwng Constantine a'i wyr, pan wersyllent i or- phwys a chiniawa ganol dydd, y rheswm. Eisteddai y cenadwr, y canwriad. a'r dywysog- es, wrthynt eu hunain, yn mwynhau ymddydd- an cyfeillgar. Eisteddai Constantine a'r milwyr ychydig bellder oddiwrthynt.