Skip to main content

Hliif. 99. ^ Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EYANS. CYNWYSIAD Cyf, L—Sadwrn, Mawrth 12, 1881. Dyuauniad y Bardd, gan Owain Ddu o Wynedd............ 295 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 295 "Y Testament Newydd" Newydd,—Cyfnewidiadau Pwysig.................................................................... 297 Modrwy yr Amod, gan Qrator...................................... 298 Carlyle, ei Fywyd a'i Weithiau, gan Watcyn Wyn......... 300 Aelwyd Ddedwydd, a'r modd i"w sicrhau, gan Miss Anne Parry (Brythonferch)....................................... 300 Englyn i'r Gauaf, gan Dewi ab Iago, Llandilo............... 301 " Yr Anffyddiwr," gan Hugh Maurice Hughes, Oswestry 301 Yr Hanesydd.—Y Freinlen Fawra'r Brenin John......... 302 Yr Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Y Cynghaneddiad.—Cystadleuaeth Rhif. 15............... 303 CONGL YR ADRODDWR,— Gofala am dy eeiniog................................................ 304 Plant l-felen, gan eu Hy.«gl> faeth Dtweddaf.................. 304 Y Cyfarfod Adloniadol.—Go dda vn y diwedd...... 305 Cyfrinach y Beirdd.—Tribanau *Thomas Howel Llewelyn, gan Morwlu............................................. 306 Cystadleuaeth Rhif. lis................................................ 306 Difyrwch yr Aelwyd................................................ 306 Lloffion, gan Trumor,— Y Saith Celfyddyd.................................................. 307 Y Saith Cysgadwr.................................................. 307 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd............................... 308 At ein Darllenwyr..................................................... 308 Y Teulu ar yr Aelwyd............................................... 308 13" Danfoner archebion, P.O. orders, Postal orders, arian, &c. wedi eu cyfeirio, D. Williams & Son, Publishers, Llanelly. DYMUNIAD Y BARDD. ÖAN ÜWAIN Ddü O WYNEDD, CoLWYN BAY. MEWN bwthyn unigol yn nghesail y niynydd, O gyrhaedd holl wagedd a tlirawsedd y byd, Lle sua'r awelon rhwng cangad y coedydd, A'r adar ymbynciant i loni fy mryd.* Cael byw mewn tawelwch fel hyn yw'm dymuniad, Yn mhell o drwst dynion, heì) ofid na loes, Cawn yno fyrfyrìo ar waith y Creawdwr, Mor ddedwydd y byddwn'i dreulio fy oes. Ac yna pan ddelo fy einioes i'w therfyn, Cawn fyned i orwedd yn dawel, mewn hedd, Heb ddiin ardderchawgiwyddogylch fyngorweddfan, Na chareg i nodi "man bychan fyniedd." GWLADYS RÜFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cyntaí cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod XVI.—Ymryson Cyfeillgar. (CjAN ddifianodd yr olaf o fintai Junius rhwng y coed, ac y dystawodd trwst eu traed yn y pellder, trodd Pudens at ei gyfeillion, a chan godi ochenaid ddiolchgar o'i fynwes, dywedodd, " Diolch i'r duwiau ! dyna hwy wedi myned ! Yr wyf yn teimlo fel pe bae'r awyrgylch wedi clirio ac ysgafnhau! " Yn sicr." ebe Sallust, " yr wyf yn mron bod yn teimlo yr un peth a thi. Yr oedd presenol- deb Janius fel eiddo rhyw sarph wenwynig neu fwystfil rheibus, yn gorlethu fy ysbryd. Ond dyma waredigaeth o hono o'r 'diwedd, ac er y buasai yn well genyf o'm rhan fy hun, ei weled wedi ei ladd, fel yr haeddai, eto mae yn hyfryd cael bod yn rhydd rywsut. Deuwch, bellach, gadewch i ni gael myned yn ol fan draw i eis- tedd." A throdd drachefn tua'r man y gorweddai y boncyft' syrthiedig lle y swperasant ac y cym- erasant eu boreufwyd. Ond ataliwyd ef gan lais Gwladys. " Wel, gyfaill Sallust," ebe hi, " mae yn rhaid i mi fyned. A oes genyt ryw genadwri i'w danfon genyf î" "Myned]" ebe Pudens, yn syn a siomedig, • " nid ydych yn myned i'n gadael ?" " Ydwyf," ebe hithau, " rhaid i mi frysio gartref." " A oes rhaid i chwTi fyued ?" gofynai Sallust. " Oes," oedd yr ateb, "mae amgylchiadau yrt galw am i mi fod yn bresenol gyda'm teulu j prydnawn hwn." " Os felly yute," ebe Sallust, chwi gauiatewch i mi ddanfon gosgorddlu o filwyr gyda chwi rhag dygwydd niwed i chwi eto."' " Ie," ebe Pudens, " Cymeraf fi ofal am hyny. Af gyda hwynt, ac os byddi di Sallust yn barnu yn angenrheidiol myned yn mlaen o'r fan hon gallaf tì a'm gwyr yn rhwydd eich canlyn."