Skip to main content

Rhit. ÄO. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Crr. I.—Sá.dwbx, Chwefror 26, 1881. Alaw y Telynor Olaf, gan Anthropos........................... Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. Llawlyfr i Ddaiareg, gan A. Rhys Thomas, Lerpwl...... Masnach a Gweithfeydd Cymru, gan Honddu.............. Yr Ystori Fuddugol.-Gwenhwyfar, gan W. G. Williams (Glynfabj................................................. Ymfudiaeth, gan Cymro Gwyllt................................. Plant Helen, gan eu Hysglyfaeth Dlweddaf............... Yr Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Y Cynghaneddiad.—Cystadleuaeth Rhif. 15............... Congl Holi ac Ateb.......................................... ....... Cystadleuaeth Rhif. 18.—Y Feirniadaeth ar yr Ystori Garu........................................................................ Cystadleuaeth Rhif. 17................................................ Difyrwch yr Aelwyd................................................ Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd.............................. At ein Gohebwyr...................................................... 267 267 26S 269 270 273 275 276 277 27S 27» 2S0 280 ALAW Y TELYNOR OLAF. Detholion cyfìeithedig o'r " The Lay of the Last Minstrel," gan Syr Walter Scott. Gan Anthropos. II.—Monachloo Glyîí y Groes. OS mynet weled hono'n iawn, Dos yno 'ngoleu'r lleuad lawn, Ni wna pelydrau'r gwarnal ddydd Ond gwatwar yr acìfeilion prudd ; Pan f'o y ganghell dan ddu len, A'r oriel oll yn ganaid wen, Pan fyddo yr anwadal loer Yn gwyl-ysbío drwy bob cloer ; Pan droir y delwau'n arian liw, Pob delw fel pe byddai'n fyw ! A phan y clywir oerllyd stŵr, Tŵ-hŵ dallhuan yn y tŵr ; Pryd hyny dos, ond dos dy hun, A gwel yr adfail wael ei llun, Adgofio wnei yn hwyr dy oes Fonachlog enwog Glyn y Groes t GWLADYS RUFFYDD: YSTORI HANESYDDOL AM SEFYDLIAD CYNTAF CRISTIONOGAETH YN MHRYDAIN. Gan y Golygydd. Penod XVI. Tynged Juniu* a'i Wyr. ETH y noswaith hyny heibio niewn tawelwch, heb ddiui i aflonyddu hun dawel y cysgaduriaid. Ni ddaeth yr un gelyn yn agos i'r lle, a phe deffroai un o'r fintai yn y nos, nis gallai fod wedi clywed dim ond cerddediad trwrn y gwylwyr o amgylch y gwer- syll, neu sugan dyner yr awel yn nail y coed uwch eu penau, a buasai undonaeth y cyntaf a thynerwch melodaidd yr olaf yn cyd-dueddu y cysgadur deflroedig i syrthio drachefn i freichiau y dduwies yn nghol yr hon yr oedì wedi bod yn ìiuno. Ond ni ddeffrodd ÿr un o'r gwêrsyllwyr. Yr oedd y swyddogion a'r milwyr, er fod eu cwsg yn ddigon ysgafn, eto wedi ymgynefi.no cymaint ag arferion milwrol, fel yr oeddent yn gallu all- tudio pob ofn o'u calouau, ac ymddiried eu dy- ogelwch yn llwyr i ofal ffyddlon y gwylwyr effro. Am y ddau ymwelydd dyeithr yn y gwersyll, y Cynghorwr ìuddewig pendefigaidd, a'r Eueth Brydeinig urddasol, yr oedd lludded corfforol a chydwybod esmwyth, yn gwneyd eu gwelyau dail yn esmwyth a dymunol, hyd y nod pe bae arferion yr oes wedi en cynefìno â gorphwys- fanau mwy moethus. Yn wir, o ran hyny, yr oedd rhagofal Pudens wedi gwneyd gorweddle Gwladys yn mrou bod yn bobpeth allai fod wedi gael gartref. Pan ymneillduodd y bendefiges ieuanc i'r man oedd wedi ei barotoi iddi, cafodd fod ei gwely o ddail wedi ei orchuddiio â chrwyn iawn-driniedig oeddent mor ystwyth a'r faneg, a bod cwrlid o groen teigr gerlìaw i'w dynu drosti pan orweddai. Nid oedd eisieu dweyd wrth Gwladys mai i ofal Pudens am dani yr oedd hi i ddiolch am y mocthau hyn; yn wir, yr oedd y cauwriad ieuanc wedi petruso anrheithio gwely ei gyfaill, Sallust, yn ogystal a'i eiddo ei hun, er mwyn gwneyd Gwladys yn fwy cysurus, ac yr oedd ei gyd-swyddog wedi boddloni yn