Skip to main content

Ifihií. I». fajrp WÿffmM at Wmmutìi <dẁm gjẁmcldenol \j Wtuht Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE^EYANS. CYNWYSIAD Cyf. I— Sadwrn, Cuwbfror 19, 1881. Yrhen Gymraeg. gan W. G. W................................. 253 Gwladys Ruffyrld, Ran y Golygydd.............................. 253 Aigbf uwch Anghof.—Thomas CarJyle, g*n Watcyn Wyn 255 Mellrîith y Morgans, gan Mrs. R. T. Jones, Rock Ferry 257 Yr Iaith Gynireig, gan Dewi Wyn o Essyllt............... 259 Morfydd Pryse, gan Mr. A Rhys Thomas, Lerpwl......... 260 Ystorae yr Hen Simdde Fawr.— Ystori'r Goblin, gan Derwjdd................................................................. 261 Codiad y Rothschilds................................................... 262 CONGL YK Adroddwu—Y Glowr, gan Honddu......... 263 Yr Adran Gerddorol, gan Alaw üdu,— Y Cynghaneddiad.—Cystadleuaeth Rhif. 15............... 263 Ein Bwrdd Cerddorol................................................ 264 Congl Holi ac Ateb................................................. 264 Cystadleuaeth Rhif. 16................................................ 265 Difyrwch yr Aelwyd................................................. 265 Cyfrinach y Beirdd..................................................... 265 Y Nodiadur............................................................. 266 Gwobrau Cyi aill yr Aelwyd............................... 266 At ein Gohebwyr........................................................ 266 YR IÍEN GYMRAEG. Gan W. G. W., (Glynfab). OS dywed y Sais fod ei dydd Yn dirwyn i fyny, Fod angeu a'i sedd'ar ei grudd, A'i hwyr yn dynesu ; Sisiala y 'chẁà rhwng y dail, Yn nglilustiau y Brython, Ni cheir drwy y ddaear ei hail, Mor bur ei hacenion. Byw fyth fo'r hen Gymraeg, iîoll anian rydd lef I entrych y nef, Byw fyth f'o'r hen Gymraeg. Pe deuai ci hangeu yn wir, Holl anian a arengai; A fì'rydlif gynghanedd y llwyn 'N drag'wyddol a beidiai; Waeth Cymry yw'r adar i gyd, Ni waaa un dewin, Ac yna os marw eu hiaith Ni chanant un nodyn. 'R'wy'n caru hen iaith hoff fy ngwlad, Ei swynol acenion, Fel tincian eurglychau mor fwyn Cyrhaeddant fy nghalon: Tra pery y môr ar ei hynt, Heb dori'i ymylon ; Tra pery yr heulwen uwchben, Byw fydd ei hacenion. GWLADYS RÜFFYDD: YSTORI HANESYDDOL AM SEFYDLIAD CYNTAB' cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod XIII. Eglurhad Pellach. frpAN welodd yr eneth Brydeinig y ddau swyddog yn dychwelyd mor gyfeillgar, fraich yn mraich, taenodd gwen fodd- haus dros ei ywyneb, a chan godi ar ei thraed, dywedodd mewn llais melodaidd gan edrych ar Pudens :— " Y mae yn dda genyf eicli gweled yn dych- weled yn ddyogel. Tybiais wrth edrychiad ffyrnig eich cyfaill ei îbd yn bwriadu rhyw niwed erchyll i chwTi." Chwarddodd Pudeus yn ysgafn, a Salíust yn anesmwyth, a dy%vedodd y blaénaf:— " 0, na, y mae fy nghyfaill a minau yn rhy gyfarwydd a'n gilydd i ofni y fath drychineb." " Da iawn," ebe hithau gyda gwen, ac yna, gan droi at Sallust, ychwanegodd, " Os nad wyf yn camsynied, Syr, yr wyf yn ddyledus i chwi, fel blaenor y fintai o waredwyr, am fy nyogelwch presenol î" " Yr ydych yn iawn, foneddes," ebe Sallust, gan gnoi ei wcfus wrth oerfelgarwTch y ddynes, tra yr edrychai Pudens gyda syndod ar y cyfar- fyddiad a'r cyfarchiad ffurfiol yma rhwng y ddau oedd ef wcdi cael lle i ddeall oeddent ar delerau mor hynod gyfeillgar â'u gilydd. " Derbyniwch, ynte, Syr, fy niolchgarwch am eieli gwasanaeth caredig, ac er nad wyf fì ond dynes eiddil, o bosibl y caf eto rywbryd fantais i ad-dalu i chwi am eich caredigrwydd. 0 leiaf, gallaf addaw, os deiuvch i blith y Prydeiiúaid, y cewch bob gwresaw a pharch." "Diolch i chwi, foneddes," ebe Sallust yntau yn oeraidd, a'r gwg yn dechreu ail daenu dros ei wynebpryd. " Ond ni raid i chwi ddiolch i mi o gwbl, canys dyfod i ryddhau fy nghyfaill hwn o afael ei elynion yr oeddwn, a thrwy hyny cawsoch chwithau eich rhyddhad hefyd." Cododd gwrid i wyneb yr eneth wrth dôn a geiriau yn mron anfoesgar Sallust, a chan foes-