Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ithif. 1T. îapp ^ytfotwwl at WmmMth êtirn ^mUtmì % ŵtulw. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf, I,—Sadwrn, Chwefror 5, 1881. Y Wawr, gan Glanaraeth, Athrofa Hwltfordd............ 225 Gwladya Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 225 Masnach a Gweithfeydd Cymru, gan Honddu............ 227 Ai Cychwyn Wnaf? gan y Parch. W. R. Davies... 228 Y Tywod sydd ar fin y môr, gan ,T. Rosser, Abertawy... 229 Morfydd Pryse, gan A. Rhys Thomas, Lerpwl......... 230 Beddrodau y Beirdd Seisnig, gan Caeronwy............ 231 Cymeriadau Hynod.— Y Parch. Owen Rowland, Hebron, gan R. 0....... 231 Derbyn Papyr—Dadl, gan y Golygydd ....................... 232 Yr Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Colofn Holi ac Ateb................................................ 233 Llen y Werin.—Ystoraeyr Hen Simdde Fawr— Symud Tas Wair-Bwbach Hafod yr Ychtryd ..................... 234 Cyfrinach y Beirdd— Ifor Cwmgwys, ac Asyn Magws y Tatws............... 235 Dewi Wyn o Essyllt a Carnelian, gan Clustfeinydd... 235 CONGL YR ADRODDWR— Y Gwynt yn y Simddau, gan Anthropos..................235 Oriau gyda'r Hen Feirdd, gan Cadrawd........................ 236 Cystadleuaeth Rhif. 14................................................ 236 Difyrwch yr Aelwyd.............................................. 237 Y Nodiadur............................................................. 238 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd............................... 238 Atein Gohebwyr........................................................ 238 Y WAWR. Gan Glanaraeth, Athrofa Hwlffordd. GOLEUNI gwyl ei anian,—a hygar Ragredegydd huan, Rad ollwng JDuw'n ffrwd allan, Er herio gwyll yw'r wawr gàn. Chwareua ar wych oriel—y Dwyrain, Hyd oror y gorwel; A dringa i fyd 'r angel, Y boreu ddydd hyd wybr ddeL Heb aros dwg y borau—asurliw, Dros euríwys sêr-fanau; A'i heirianwawl dda riniau Lanwa'r byd—wna loni'r bau. Glwys odiaeth gloew sidan,—yw ei gwisg, 0 liw gwèn yr huan ; Yn niJJad nef daw allan 0 bur borth y boreu bàn. Nos hed wrth si ei haden,—a deflry Côr y dyffryn llawen 0 gwsg y wîg ; a gwisg wèn Yn ebrwydd wisga'r wybren. Y geinfyg wawr ! merch Gwynfa—wyneb hardd, A gwên, Pwy na'i cara ì Hwylus dderch angyles dda— Oreu wyryf—Aurora S GWLADYS RÜFFYDD: YSTORI HANESYDDOL All SEPYDLIAD CYNTAT CRISTIONOGAETH YN MHRYDAIN. Gan Y Golygydd. Penod XII.—Eiddigedd. R oedd Sallust, fel swyddog gofalus, fel yr hysbyswyd yn y benod flaenorol, wedi myned i ofalu fod y milwyr yn gwneyd pob darpariadau angenrheidiol a phwrpasol at wersyllu. Meddai y llecyn bob angenrhaid i wneyd gwersyll addas. Yr oedd, wrth gwrs, ddigonedd o danwydd wrth law, tra yr oedd y nant fechan furmurai heibio un pen i'r llecyn yn gwneyd i fyny y prif reidrwydd arall. Éhoddai y coed gysgod dymunol, tra y cynygiai y llecyn bychan agored gyfleusderau at gynull yr holl wyr o fewn golwg eu gilydd pan fyddai angen am hyny. Yr oedd llygad eraff Sallust wedi sylwi ar yr holl bethau hyn, ac wedi ei foddhau fod y Ue yn berffaith gymíiwys i'w angenion. Gwelodd fod tânau wedi eu cyneu mewn gwa- hanol fanau, a bod y dognau bwyd yn cael eu rhoddi allan heb golli amser i'r milwyr. Trefn- odd y gwyliadwriaetb.au am y nos, gan nodi i bob gwyliwr ei safle a therfynau ei rodfa. Wedi boddhau ei hun yn yr holl bethau hyn, gweled fod pob peth yn iawn, ac nas gallai un gelyn ddyfod yn agos i'r gwersyll heb i ryw un o'r gwylwyr ei ganfod, trodd nesaf ei sylw at fintai Junius, y rhai y gellid, mewn gwirionedd, edrych arnynt fel carcharorion, canys yr oedd eu harfau wedi eu cymeryd oddiarnynt, a hwy- thau mewn canlyniad yn hollol at drugaredd gwyr Sallust. Yr oeddent wTedi bod yn pryderu yn eu plith eu hunain beth wnelid o honynt:— " Yn sicr," ebe un, " gail fod yn galed arnom ; canys gwyddoch mai trom yw y gosb am godi Uaw yn erbyn canwriad yn y fyddin, ac y mae Aulus Pudens yn uu o'r canwriaid mwyaf ffafr- edig yn ein llengoedd." " Gwir iawn," ebe un arall, " ond gallwn dyb- ied wrth ei ymddangosiad mai gwr hynaws yw