Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rtail. 16. ŵithttosioi at ftoamwtft (ûúm WwmíUUmì iî Wmln. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf I.—Sadwrìt, Ionawb 29, 1881. Anercaiad i Dewi Wyn o Essyllt gan Mary E. Rees, 211 Gwladys Ruffydd. gan y Golygyild..................... 211 Y Proffeswr Nordfnslíjoìri. -Di'tranfyddiaá y Fynedfa Ogledd-L)dvr reiu. ol, gan Brythonfryn.................... 213 Yr Vsool Sabrothol.—Job, gan y Parch. E Evans, Nantyglo.......................... ................................ 215 Cerddoriaeth fel Meddyginiaeth, gan Seth P. Jones 215 Plant Helen, gan eu Hysglyfaeth Diwpddaf.................. 216 Yr Adran GerddohJl, gan Alaw Udu,— Y Wasg Gerd<ìorol........................................ 218 Toií.—" Ar y pryd y ganwyd Iesu," gan W. Hughes, Tre'rgarth, Bangor.............................................. 219 CONOL YR ADRODDWR— Y Byd, gan Rhys Davles, (Gwynfanfab)..................... 219 Llbn y Werin — Ystorae yr Hen Simdde Fawr, gan Derwydd............ 220 ODDEf'TU'R AELWYD ............................................... 220 Cystadleuaeth Khif. 13................................................ 221 Difyrwch yr Aelwyd............................................. 223 Ctfrinach y Beihdd— Trebor Mai, Gethin Jones, a'r Llodraa..................... 223 Daron, Dewi Ab lago, a'r Wydd Nadolig................. S23 Gwobrau Ctfaill tr Aelwyd.............................. 224 Atein Gohebwyr........................................................ 224 ANERCHIAD I DEWI WYN 0 ESSYLLT. Gan Mart Edwin Rees, Pentrbgwbnlai». HEN dad awengar, 'Ro'es Duw i'n daear, Yw'r hygar Dewi Wyn; Bardd o wir anian, Pwy fel ei hunan, A gân y dyddiau hyn? Bydd Dewi'n canu Yn iach pan gwedi Dystewi yn y glyn; Ni fydd rhaid cerfio, Er cof am dano, Ar faen o farmor gwyn. Bydd ei ganiadau, A'u melus odlau, JTrwy oesau'r ddaear hon; Yn fyw a swynol, Coeth a derchafol, I bob gwladgarol fron. Pan dawel huna, 0 ! hen " Wyllt Walia," Ymffrostia'n hoff a chlyd, Am ei hen Ddewi,— Glwys fardd uchel-fri,— Taw H wnaeth siglo'i gryd. GWLADYS RUFFYDD: YSTORI HANESYDDOL AM SEFYDLIAÜ CYNTAJ1 CRISTIONOGAETH YN MHRYDAIN. Gan y Golyoydd Penod XI—Dadl Gyfeillgar. JRA yr aeth Sallust i weled íbd ei wyr yn gwneuthur y trefniadau angenrheidiol tuag at wersyllu, arosodd Pudens yn nghymdeithas yr eneth a Joseph. Cyfododd yr eneth ar ei thraed pan welodd y milwyr yn yniwasgaru, a dywedodd:— " Mae cysgodion y nos yn gyÜyni syrthio; rhaid i mi bellach brysuro oddiyma, a gwneu- thur y goreu o'm ffordd at fy mhobl îj hun." "Atolwg," ebe Pudens, *'na fydded i chwi V7neyd gweithred mor ffol. Aroswch gyda ni tan y boreu, a deuaf fy hun i'ch hebrwng tua'ch cartref, a'cli dyogelu rhag ymyi-aeth o eiddo neb mwyach." uNa," ebe hithau, tra y taenodd gwrid dros ei gwynebpryd,—yr hwn fotld bynag ni welid yn y tywyllwch oedd bellach yn cyflyrn gryn- noi o'u hamgylch. " Md felly, eithr brysiafar unwaith fy hun," " Ystyriwch," ebe Pudens, "y perygl o deithio'r goedwig yn y nos." " Oh !" chwarddai hithau, " nid ydym ni, merched y Prydeiniaid, yn cael ein magu mor foethus ag i ofni y tywyllwch, na theithio ein hunain drwy y goedwig unig. Yr wyf wedi gwneuthur hyny fy hun laweroedd o weithiau." " 0 bosibl hyny," atebai Pudens. "Eto i gyd byddai yn anfri arnom ni fel milwyr i ganiatau i ddynes ieuanc fel chwychwi i ymadael ar hyd llwybr mor beryglus heb osgordd. Aroswch gan hyny gyda ni hyd y boreu." " Y mae genyf ddiolch i chwi am eich caredig- rwydd," ebe hithau, "eithr tybiwyf maí gwell yw i mi fyned." "Gyfaill," ebe Pudens, gan droi at Joseph, " dyro dy gynorthwy i mi i berswadio y fonedd- es i beidio anturio i'w thaith heno. Yn sicr mae yn rhy beryglus iddi fyned." " Fy merch," ebe Joseph, " a oes rheidrwydd