Skip to main content

Rhif. 6. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Crr. I.— Sadwrn, Tachwedd 20,1880. Snfarchiad i Gyfaill yr Aelwyd................................. 71 wlady» Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 71 Rabbi Meira'r Gemau, gan R.íO., Bethesda.................. 73 Llaw-lyfr i Ddaiareg, gan A. Rhys Thomas, Lerpwl...... 74 Englyn i'r Chwilen Ddu................................................ 75 Camsynied Susan—Ystori Gaiu.................................... 75 Angladd yn yr Hen Aifft, gan Watcyn Wyn..................... 78 Plant Helen, gan eu Hysglyfaeth ddiweddaf................. 79 Yb. Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Llyfr Cyntaf Cerddoriaeth—Y nodiant........................ 80 Nodiadau am Gerddorion a Cherddoriaeth Tramor...... 81 Nodiadau Cerddorol Cymreig—YrEisteddfod Gymreig 81 T6n-YDelyn Aur, gan J. Cledan Williams............... 81 Tb Ysgol Sabbothol— Congl yr Esboniwr.—Job........................................... 82 Cystadleuaeth Rhif. 3.................................................. 82 CONGL YR ADRODDWR— Beth ganaf yn awr, gan Dewi Wyn o Essyllt............... 83 Ctfrinach y Beirdd, gan Un o Honynt— Uno'roeshon—Gwydderig a'i Frawd........................ 83 Un o'r oes o'r blaen—Dafydd ab Gwilym a Gruffudd ab Nicholas................................................................. 83 Y Nodiadur................................................................., 84 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd .......«.......................'..'." 84 At ein Gohebwyr............................................................84 CYFARCHIAD I "GYFAlLL YR AELWYD." Llon gyfaill hwn a gafwyd—drwy fwriad Er difyru'r Aelwyd, I'n cenedl ei hamcanwyd—yn fuddiol O dyb briodol da ei bwriadwyd. I ddwyn y fro hwn fydd yn fraint—anog I fynych ragorfraint, Ymgais hwn megys enaint—uwch ereill, A bydd dda gyfaill ac heb ddigofaint. Ceisio dwyn, ceisio denu—goleua A'i deg lewyrch Gymru, Rhoi lleshad yn fwriad fu, Sibrwd addas brydyddu. Hanesion am hen oesau—dwg hefyd Gotion o'u defodau, Hynodol bythol bethau Gaiff o hwn eu hadgotfhau. Anrhydedd ein gorsedd gynt—urddau beirdd Barddas a'i holl helynt, A rhyw nawdd o'r hyn oeddynt Boreu oes yn bur ei bynt. A chaed haelionus chwedloniaeth—hefyd Cyfaill mewn cerddoriaeth, A gwiw hoffus fywgraffiaeth—gwyr enwog Gwawr doniau hwyliog ar danau helaeth. A cheir banesion doniol- neu oriau Difyrus hamddenol, Agwedd arall, gwyddorol—rhydd help Ilaw, A doethaf addaw gwybodaeth fuddiol Tregarth, Bangor. John Jones (Ogwenydd). GWLADYS RÜFFYDD: ystori hanesyddol am sefydltad cyntajt cristionogaeth yn mhbydain. Gan y Golygydd. ,. Rhagymadrodd (Parhad). |ÍOr AE sail gref i ni dybied fod yr Efengyl j[(^j\_ wedi ei phregethu yn Mhrydain, ac Eg- ^%ë^ lwys Grist'nogol wedi ei sylfaenu yma cyn y flwyddyn 50 o oed Crist, a bod Caradog, a rhai aelodau o'i deulu, yn gredinwyr cyn amser ei garchariad. Os felly, gellir edrych ar y doeth- ineb ddangosodd Caradog yn yr araeth hynod hono draddododd o flaen Claudius Cíesar yn Rhufain fel wedi ei rhoddi iddo mewn cyflawniad o'r addewid yn Mat. x. 19. Gorchfygwyd Caradog yn y flwyddyn 51. Cymerwyd ef yn garcharor i Rufain. Yno, yn lle cael ei ddedfrydu i farwolaeth boenus, fel yr arferai y Rhufeiniaid wneyd, caniatawyd iddo nid yn unig i gael byw, ond i ddychwelyd i'w wlad enedigol fel Rhaglaw dan yr Ymerawdwr. Yr oedd, fel y gellir credu yn rhwydd, yn meddu cymhwysder neillduol i'r swydd yma; ac o bosibl mai y grediniaeth yn ei gymwysderau, yn nghyd ag ystyriaethau ereill gawn sylwi arnynt eto, a dueddold yr Ymerawdwr i'w osod ynddi. Ond yr oedd yn ofynol iddo cyn ymadael o Ruíain, roddi meichiau am ei ffyddlondeb. Yr oedd hon yn hen arferiad. Cawn yn yr Ysgrythyr Rabsecah yn gofyn hyn gan Heseciah (2 Bren. xviii. 23). Yr oedd y meichiau hyn yn gyffredin yn berthynasau agos ac anwyl, y rhai a gedwid íel carcharorion anrhydeddus, yn derbyn pob parch, ond heb gael caniatad i ymadael a'r llys; pe profai y rhaglaw yn anffyddlon, byddai y meichiau yn cael eu gosod i farwolaeth. Ar yr egwyddor yma y cynygiodd Reuben ei ddau fab fel meichiau i Jacob am ddychweliad dyogel Benjamin, a buasai yn gyfreithlawn ddigon i Jacob, yn ol defod y wlad a'r amser, i'w gosod i farwolaeth pe metliai Reuben gyflawnu yr hyn a ymrwymai i'w wneyd. Rhoddodd Caradog ei dad, Bran, yn feichiau drosto. Aeth Bran i Rufain, a bu yno am saith