Skip to main content

S*W* Wtjt&nosiíl at Wmmtŵ ŵriau <§mMml tj S-rultt. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Rhif. 2—Cyp. L— Sadwrn, Hydref 23, 1880. Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. ló Llawlyfr i Dciaiareg, gan A. Rhŷs Thomas, Lerpwl ...... 17 Noswaith gyda Gwallgofddyn, gan Feddyg Ieuanc......... 18 Olwen Cathan, gan Eryr Glyn Cothi.............................. 1J Ystori Wyddelig........................................................... 21 Plant Htden, gan eu Hysglyfaeth Diweddaf ................. 21 Yr Ysgol Sabbothol— Ymgom gyda'm Dosbarth........................................ 2Ì Cyfarchiad i Gyfaill yr Aelwyd.............................. 2ó Y Bardd Dyer, Aberglasney.......................................... 25 Yr Adran Gerddorol, Gan Alaw Ddu,— Ein Bwrdd Cerddorol................................................ 25 Congl Holi ac Ateb................................................... 25 Eisteddfod Gadeiriol y De......................................... 25 CONGL YR ADRODDWR— Trychineb Pont y Tay, gan Dewi Wyn o Essyllt......... 27 Oddeutl'r Aelwyd— Iechyd y Teulu .................................................... 27 Cyfrinach y Beirdd...................................................... 23 Y Nodiadur...........................„.................................... 28 Gwobrau Cyfaill yr Aelwyd ................................... 28 AT EIN GOHEBWYR " Y Ddau Seryddwr " gan y Parch. J. E. Davies, M.A , yu ein nesaf. *»* Dymunwn alw sylw cystadleuwyr at yr Amodau ar tudal 28. Yr ydym wedi derbyn eisoes amryw gyfan- soddiadau nad ydynt yn ca lw at yr amodau. Nis gellir derbyn i'r gystadleuaeth os na chedwir at y rheolau. Englyn i Dewi Wyn o Eifion.— Nid oes na synwyr na chynghanedd yn eich englyn. Ewch i'r Ysgol Farddol i ddysgu'r cynghaneddion, ac yna rhoddwn sylw i'ch cynyrchion. Edmygydd y Glorian Gymreig.—Ni raid i chwi ofni. Mae "Wil" yn dal sylw bwysig yn swyddfa Cyfaill yr Aelwyd. Buasera yn ystyried ddwywaith cyn ymado a gwasanaeth gwr mor bwysig. Hydera "Wil'' y ca fwynhau cyfeillgarwch holl ddarllenwyr Cyfaill yr Aehcwd pan ddelont i'w adwaen yn well. Mae "Mari" yn ymroi i gadw'r " Aelwyd ' yn lân. Eo8 Llechyd.—Diolch i chwi am eich cynyg. Bydd ysgrifau byriou, dyddorol, bob amser yn dderbyniol. John Williams, Llanbrynmair. Darllenwch ein sylwadau at " Eos Llechyd," a dywedwch " ditto, ditto." Qlynfab.—VTÌs Cyfaill yr Aelwyd yn ddidraul drwy'r post fydd ls. 8d. y cwarter. Cyfeirier archebion—" The Manager. Cyfaill yr Aelwyd Office, Llanelly." Parch D. Williams ac amryw ereill.—Diolch i chwi am eich addewid i gefnogi Cy/aill yr Aelwyd. D. Cadfan Jcmes.—Yr ydym yn llawenhau fod Cytaill yr Aclwyd wedi enill cymeraiiwyaeth mor wresog genych. Hyderwn allu teilyngu eich cefnogaeth yn y dyfodol Rev. Jas. Griffiths, B.A.— Many thauks for your encourag- ing words. It is a matter of great satisfacti<m to us i hat our Friend of the Hearth meets with such universal approval and welcome. Danfoner pob gohebiaethau ac archebion wedi eu cyfeirio— Editor, f' Cyfaill yr Atlwyd," Gvardun Office, Llanelly. GWLADYS RUFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Rhagymadrodd—(Parhad). N ein rhifyn diweddaf gwnaethom sylw, yr hwn, er y gall swnio yn hynod yn nghlustiau ein darllenwyr, ac a all ym- ddangos i lawer fel eithafoedd ffoledd, nid ych'm yn petruso ei ail ddweyd, sef :— Fod Cymrii a phreswylwj/r yn Mhrydaìn yn mhlith y rhai oeddent yn hresenol yn Jerusa- lern ar ddydd y Pentecost. (Act. ii. 1—11.) Os gallwn brofi y gosodiad yma, a dangos fod Cymry yn bresenol ar adeg ty walltiad cyntaf yr Ysbryd Glân, a bod y Cymry hyn, a'u calonau wedi eu cyffroi i'w gwaelodion gan y dygwydd- iadau hynod gymerasant le yn eu gwydd. a'r teimladau rhyfedd brofasant, wedi dychwelyd i'w cartref ynysig yn llawn tân a sel, tafla oleuni pwysig ar "Hanes Sefydliad cyntaf Cristionogaeth yn Mhrydain." Gan ei fod, felly, yn dal cysylltiad mor agos a thestyn ein ystori, talwn fwy o sylw iddo nag y buasai ei bwysigrwydd yn haeddu oni bae hyny. Cawn y ffaith hauesyddol gyntaf ac amlycaf cysylltiedig a'r mater yma, "mewn brawddeg fechan yn y llyfr hanesvddol digymar hwnw— Ỳ Beibl '• Beth !" ebe'r darllenydd synedig, " a ydych yn beiddio dweyd fod genych dystiolaeth Ysgrythyrol i gadarnhau gosodiad' mor an- nhebyg ì" Wel, ddarllenydd hynaws, os byddwch gared- iced a gwrandaw fy ymresymiad gyda sylw amyneddgar, diragfarn, gan ganiatau i mi chwareu teg heb un ffafr, yr ydwyf yn hyderu y gallaf, trwy gymorth tystiolaeth Ysgrythyrol, brofi y gosodiad, er mor annbebyg a beiddgar yr ymddengys. Ceir y frawddeg y cyfeiriwn ati yn Act ii. 10. Wrth gydmaru yr hyn geir yn yr adnod hon a hanes y byd yn y cyfnod dan sylw, cawn dyst- iolaeth a brawf yn mron hyd sicrwydd, fod o leiaf raì Cymry yn mhlith y gynulleidfa fawr a