Skip to main content

Cvv. XII.—Rhiv. 12.—Rhagfyh, 1891. CYVAILL YR AELWYD: CYFOETH A CHYMERIAD: PA UN SYDD YN' CARIO Y DYLANWAD CRYFAF AR GYMDETHAS ì Gan Carneddog. Frit' benau Araeth o blaid CS'foeth a draddodwyd vn Nghymdeithas Lenvddol a Dadlcuol Nanmoi'j Beddgelert, Taehwedd 8fed, 1891. 'R ydymyn cymeryd nad rhagorjiaeth cyf- oeth ar gymeriad yw cnewyllyn y ddadl. Nis gellir peidio gwadu y ffaith ynddi ei UO hunan. Trysor i lenwi ein hangenion daearol yw cyfoetb, tra ein rhodiad cywir, ein moesau pur, u nFgweithfediadau da, sef ein cymeriad, a ben- derfyna ac a selia dynged ein trag'wyddolîeb. Rhaid cael cymeiiad i sefyll y byd a ddaw. Hen wireb Cymreig a ddywed :— " Mae cymeriad pob dyn Ar eiìaw ef ei hun.'; " Good name in man and woraan Is the immiade jewels of their souls." ShaJcespeare. Y diweddar Barchedlg John Jones, Talyaarn, a esbonia natur cymeriad fel y canlyn :— " Cymeriad dynol gwladol dyn sydd yn cael ei benderfynu yn ngwyneb cyfraith y wlad, ond cymeriad crefyddol dyn a benderfynir yn rgwyneb cyfraith Duw. Mae y cyntaf yn cael ei ffurfio trwy ymddygiad dyn at ci gyd-ddynicn mewn pethau bydol, ond yr olaf trwy ei ym- ddygiad tuag at Dduw a dynion." Gan mai pechod a lljgredigaeth sydd yn teyrrasu yn y byd, rhaid i ni yn naturiol ym- lithro ynmlaen gyda thònau cyflym cymdeithas, a chredu gyda'r mwyafrif fel gyda phobpeth. Cerbyd cyfoeth sydd yn symud daearol bethau, a rhaid i bawb wneuthur ei oreu i hyiwyddo ol- wynion y cerbyd enraidd hwnw yn ei flaen, neu ni chyflawnwch eich dyledswydd fel dynion—yn ngwyneb pob cyfraitb. Cyfoeth yw eilun-dduw y byd, o'i flaen ym- gryma y miliynau, ac y mae eu parch tuag ato yn anesboniadwy. Efe ydyw y mur mawr sydd yn gwahaniaethu cymdeithas dynolryw oddivu-th eu gilydd, ac efe hefyd yw y gadwen sydd yn eu cysylltu yn nghyd. Efe sydd yn dethol ac yu llenwi diffyg- ion nc aDgenion pawb, ac y mae yn angenrhaid arnorn wrtho—hebddo nid oes ond aoghysur, tlodi ac eisiau. Cyfoeth sydd yn rheoleiddio masnach, ac y mae ei allu yn ofnadwy uerthol, ei ddylanwad yn jsgubol. Yn awr, gan fod Cyfoeth mor anheb- gorol angenrheidiol, y pwnc i'w benderfynu ydyw pa un ai at gyfoeth ynte cymeriad y mae gogwydd cymdeithas ar brif-ffordd amser ? I ba ochr y troä ? Credwn yn ddiwâd, a gwelwn yn eithaf amlwg, mai at hyfrydedd ochr fras cyfoeth y troä, yn wirfoddol, megys o honi ei hun. Penderfynir hyny yn ein ffafr gan farn y cyff- redin, a beth sydd gryfach na barn y cyffredin bobl ? Penderfynir hyny hefyd, yn ddibaid, yn ddidderbyn wyneb, heb ofni neb o'n hamgyîcb, a chenym ni ein hunain, yn ddiarwybod. Pwy ond nyni sydd yn ymgrymu i'r llawr gan gusanu troed eiu huwchafiaid cyfoethog ? Boed gweithredoedd a moesau y cyfryw mor aflan ag y gellir iddynt fod—bid sicr, nid y w yr oll felly ; ond wrth fanol gyfrif, dyna'r gwir am danynt. Pe heb y Tugel, pwy fyddai ein cynrychiolwyr Seneddol ond y cyfoethogion gorthrymus ? Cofnodion y dyddiau gynt a dystiay ffaith, eto parha yr un hen ysbryd gwasaidd ac ofnus arnom, rhag tramgwyddo ein meistriaid, a'r rhai mwyaif tramgwyddus ydyw yr amaethwyr. Cryna un o;r cyfryw wrth weled cerbyd hardd- wych ei dir-feistr yn dyfod i'w gyfarfod, edrycha a holl wỳn ei lygaid yn y golwg, tynai ei het, ac a yn rnlaen gan freuddwydio cael dau was lifrai rhyw dro, ar ben blaen " ei diòl a mul !" Tuedda meddw), a syrth llygaid cymdeithas at allu cyfoeth yn mhobman, ac ar bob cyfleus- dra, o flaen pobpeth arall—yn fwyaf aml. cymer- iad yw ei gwrthddrych olaf ! LTn o gant, cs nad mil, a geir yn mhob bro neu dref ddyeithriol, am fwthyn hen wr tlawd duwiol, o gymeriad dilychwin, ac yn cael cy- northwy o'r plwyí, Na, ei ymofyDÌad cyntaf fydd :— " Pwy sydd yn byw yn y palasdy acw ? Pwy yw y boaeddwr ? A ydyw yn gyfoethog iawn V Dyna yn fyr ei " Ragymadrodd ' a'i " Amen." Ond i fyny at fawredd pinaclau cyfoeth yr edrych cymdeithas gyntaf { Am gyfoeth yr ym- boena beunydd, am gyfoeth y rhodda ei holl ddarfelydd a'i alluoedd ar waith er ei sicrhau, ac wedi ei gael i'w feddiant, dyna"ei dwr a'i dariaD." Rhagoriaeth gaìlu cyfoeth, ac nid gallu rhin- wedd cymeriad sydd yn ganfyddadwy yn apwyntiad Ynadon Heddwch ein gwlad—y god aur uchelfrydig yn eistedd wrth ben y cyffrediü, i'w barnu a'u tynghedu yn ol eu mympwyon.