Skip to main content

Cyv. XII.—Khiv. 10.—Hydref, 1891. CYVAILL YK AELWYD: PRYDDEST,—« TYNERWCH." Gan y Parch. M. E. Thomas (Cynwyd), Caerdydd. YNERWCH hoff! mae hanfod nef y nef Yn bythol ymorseddu arnat ti, Ogonaf rin yn mhlith sylweddau'r byd Rhinweddol ydwyt, yn bodoli draw I drum caledwch a gorthrymder du 0 ran dy natur ; ymhyfrydu byth 0 fewn hinsoddau sydd yn mhell tuhwnt 1 gaethder, gormes, a thrahausder byd; Ni feiddia llid trallodion osod troed I lawr ar dy diriogaeth aur, na dig Cyfyngder nesu at dy wyddfod hael; 0 dan ddysgîeirdeb dy rinweddol des Pifiana barug nos drueni cudd, A thrwy dy wawl dywyllwch trawsder yn Drag'wyddol ddydd ; o dan dy fywiol naws Y todda rhew cyndynrwydd calon dyn, Nes llifo'n ffrwd haelfrydedd at y byd ; Mae'th riniau'nfôr didrai yn llanw holl Gilfachau tywyll draeth yn mhruddaidd fro Angenion ; yn dy fynwes glyd y tardd Hylifol/aJwi, er lleddfu poen a chur Y tlawd a'r gwael yn llaid a ffosydd byd. Aughydnaws ydyw tir ein daear lom A sathrwyd gan garlamau gorthrwm, trais, A gormes diafol, a'i gathrodau erch, I ros Tynerwch dyfu arno Ef; Nac ar ryfeldir a halogwyd gan Afonydd gwaedlyd lladdedigion byd, A'r lle cyferfydd pleidiau'r gwir a'r gau : Tynerwch mwyn, gwynfydig yw dy wedd, Mor foneddigaidd dy ledneisrwydd gwyl, Wyt fiod'yn unig yn persawru'n mhell Ar wyllt gyfandir eang, marw'r byd ! A ddaeth o erddi tawel gwlad y gwawl, Sydd a'u hinsoddau yn ysbrydol bur Gan neithdar anfarwoldeb, lle y tardd Ffynonau bywyd, ac afonydd hedd I ymysgaroedd tyner Duw ei Hun. Nid ydwyt ond rhyw hylif clir o Dduw ! Dynerwch hoff, mae glas a dwfn y nef Yn llifo'n afon bêr, gan gario rhyw Fendithion a chysuron rhif y dail '0 fewn ei mynwes ; ynot ti daw'r nef Agosaf at y býd, arllwysai holl Rinweddau hael yn ffrydlif glaer i fewn I fyd yr enaid ; 0 ! pe cilia ti I ffwrdd o galon dyn, fe'i gwnelid hon Yn adamantaidd, ac yn dalp o ddur L!e cyfyd tân ei nwydau celyd hi Mor noeth a gwreichion uffern, pan ei tyr Gaa ffawd aflwyddiant a siomiantau'r byd, Tydi Dynerwch sy'n nawseiddio holl Arweddion ein bodolaeth dderch, i ddal A theimlo dylanwadau'r byd a ddaw, Dy rin sydd yn ireiddio ysbryd dyn Nes gwneud ei hanfod yn rhyw ddarn o Dduw, Yn gosod delw'r nefoedd wen ar holl Gynheddfau'r meddwl cain, a'u troi i ffurf A gweddau'r dwyfol a'r ysbrydol pur, Tydi sy'o ysbrydoli'r awen wyl I dderbyn swynion anfarwoldeb gwyn A chalon bardd a dry'n enynol ffiam, Nes llifo allan yn farddoniaeth glir Fel ffrwd dryloew o ryw goedwig werdd, Dy ddylanwadau sy'n raelysu sain Peroriaeth fwyn, nes byw ymdreiddio drwy Ddyfnderau'r Teimlad cll, rydd acen leddf I offerynau cerdd, ireiddia dant Y delyn hoff i daro cord y nef Nes boddi'r enaid mewn rhyw lesinair per ! Tylathau cedyra y bydysawd sydd A'u gosglydd arnat, o Dynerwch ferth, Fan ydoedd ysbryd Tor ar osgo draw Ar fydrau'r Cread, yn dy fynwes di Y bu'n deori ar y bydoedd oìl! Mor llawn o'r tyner ydyw Natur gwyn, Mor ireidd ydyw hi dan anadl Duw ! Ei ysbryd tyner Ef sydd yn symud dros Wynebpryd anian delaid, nes ei gwneud Yn ieuanc bythol; 0 ! pe hebot ti Fe dry'r ddaearen yn Saharra trist Ac yn breswylfod ellyll, ac nid dyn A'r mud anifail ; o dan rin dy naws Y gwelir Anian yn blaguro'n dlos ; A'r ddaear hen yn bwrw allan ffrwyth ; 0 fewn dy fynwes mae yr hadau mân Yn mano .ac yn ymfywhau drachefn. Os hag rwydd prid a thegwch natur gaiu