Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYYAILL TR AELWID. 287 addyeg Cymru, a chadw calon y gensdl yn gynes.'; Ar yr un pryd, nid yw yn cau ei llygaid ar yr anhawsderau sydd ar y ffordd, ac nid y lleiaf o honynt yw yr amrywiaeth barn a'r eiddigedd lleol a sectol sydd wedi bod yn felldith i Gymru. Ar y mater hwn, dywed y Deon :-- " Xi fyddem yn Gymry oni byddai yn ein plith lawer o acnrywiaeth barn yn nglyn â hyn, l'el â phob peth arall. Os myn pawb wthio ei farn ei hun yn mlaen, doed a ddelo, ni welwn Brifysiíol am lawer o flynyddoedd. Ai gormod dysgwyl i bawb sydd ynfwy awyddus ani Brifysgol Cymru nag am eu ffordd eu hunain uydweithio yn nghyntaf dros yr egwyddor fawr o Erifysgol Genedlaethol, yn yr hon ni chaethiwir uddysg ^an arholiadau, ac yna, ar ol sicrhau llwyddiant y brif egwyddor, wneud eu goreu dros eu barn eu hunain yn nghylch manylion ? Bydd yn llawer haws trafod manylion yn ddidramgwydd i'n ir'lydd, ac er lles cyffredinol Cymru, ar ol i ni br/jfi yn nghyntaf, drwy gydweithio a chydcddef, ûm bod oll o ddifrif o blaid y Brifysgol. Dyna ddirgel- wch y tacgnefedd a'r llwyddiant sydd hyd yn hyn wedi hynodi, bron yn ddieithriad, tuhwnt i bob dysgwyliad, ymgyrghoriìdau pwy)]gorau addysg ganolraddol. Dysgwyd dynion o wa- hanol farnau i barchu cywirdeb a gwladgarwch eu gilydd drwy gydweithio eyn dadleu. Nid oes a fyno Prifysgol Cymru a phlaid na phleidiau. Cwestiwn cenedlaethol ydyw. Ac nid yw gwladgarwch ond gwegi os nad oes digon o rym ynddo i beri i ni oll fel Cymry, heb i neb aberthu dim ar ei farn mewn pynciau dadleuol, gydweithio â chalon agored ar dir gwladgarol dros jr hyn nad ellir ei oedi, hyd y galiaf fi ganfod, heb fawr niwed i addysg a lles y genedi. Gellir dadleu lawn mor effeithiol dros egwyddor- ion gwahaniaethol ar ol mwynhau yr hyí'rydwch o gydweithio ychydig, er mwyn i ni oll gadw mewn cof ein bod, yn nghanol y cwbl, yn Gymry, a'n bryd, yn ol hyny o oleu sydd genym bawb, ar ddyfod a Chymru yn ei blaen. Credaf naddyclr- myga unrhyw blaid a ddygwydd fod yn Lìyw- odraeth Prydain am wrthod cais cerjedì unol yn dweyd yn groew ein bod yn benderfynol o fynu, heb aros yn hwy, Brifysgol i Gymru." Dod a/jr Brifysgol at y Bobl. Cymer y Proffeswr Edis Edwards olwg arall ar y cwestiwn, sef pa fodd i ddwyn manteision y Brifysgol o fewn cyrhaedd y bobl. Dadleua y posiblrwydd o wneud hyn drwy University Lx- tension Le<:íures. Dyry i ni adroidiad dyddorol o'r dull y gwneir hyn yn Lloegr, ac o'r dyddordeb gymerir gan y bobl mewn llawer man yn y dar- Hthiau hyn. Yna dywed :— " Deued y darlithwyr i Gymru ! Xi a addawn y cânt ddigonedd o bobí ' yn myned i ysbryd y peth !' Ond a oes modd crel hyn i Gymru ? A ydyw yn bosibl estyn yr addysg uchaf drwy yr holl wlad, rhoddi i'r glowr, y mwnwr, y chwarelwr, y clarc, a'r siopwr ieuanc, i feibion ac i ferched, sydd yu rhwyrn yn eu cartrefi, wybodaeth o'r un natur ag a roddir gan athrawon yn y Prif Athrofeydd ì Yr hyn sydd yn bosibl yn Lloegr, sydd brsibl, ie, haws, mia gredaf, yn Xghymru ; acyrnae ail- gychwyniad yr ymgais i gael Prifysgol i Gymru, Prifysgol fo'n cyfranu graddau o'i heiddo ei hun, yn gyfieusdra neillduol i geisio at yr amcan. Xi bydd y Brifysgol newydd yn gwneud ei dyledswydd, ni fydd yn deilwng oi' oes, ni fydd yn ateb i alwadau brawdgarwch a chrefydd, onid ymdrecha i ddwyn ei manteision i afael pob dosbarth o bobl. A da genym allu dweyd fod hyny mewn golwg. Y mae y Pwyllgor a benod- wyd yn y Gogledd tuag at gael y Brifysgol hon wedi penderfynu yn unfrydol fod estyniad man- teision athrofaol i'r rhai nas gallaut fforddio arian nac amser i fyned i Goleg, i fod yn rhan hanfodol o'i swydd. Felly, ymdrechir cario alhta i berffeithrwydd y gwaith da sydd eisoes, i i-addau, we.di ei ddechreu gan ddarlithwyr Colegau presenol Cymru. Bu pwyllgor i gael Prifysgol i Gymru o'r blaen. Aethpwyd mor bell a dwyn y cais o fiaen y Llywodraeth. Ysywaeth, nid oedd y ddirprwyaeth yn unfarn ; ac, wrth weled hyoy, barnodd y Llywodraeth mai gwell oedd gohirio ei chydsyniad. Yn nghylch y moddion i gael y nifer fwyaf oedd yn bosibl o'r rhai a ddymunent addysg uwch i afael â hi, y bu y diffyg cydweled- iad. ünd y mae cynllun yr Uîitiersily Exten- sion yn cyfarfod a'r anhawsder, agellirgobeithio —heddyw—y ceir unfrydedd líwyr am y modd- ion. Y mae arwyddion da, hefyd, y cefnogir yr ymgais gan deimlad gwresog drwy yr holl wlad.'; Taith tewy Ddyffryn Tywi. Dyma fel y symir i fyny hanes taith George Borrow trwy Ddyffryn Tywi :— "Dranoeth aeth yn mlaen i Bont y Gwr Drwg, a threuliodd ddyddiau dedwydd yno—yn edrych ar geunentydd hyliion, yn meidwl am ei hoff Ddafydd ab Gwilym, yn gwrando ar ys- traeon canwyll corff, yn driogo Piunlumon, ac yn yfed o darddleoedd yr Hafren a'r Rheidiol a'r Ẅy. Oddiyno aeth i'r Hafod, gwnaeth pobl rhyw briodas wawd o'i Gymraeg, teithiodd yn mlaen i Yspyty Ystwyth wyllt ac i Bont Rhyd Fendigaid leidiog, ac i dawelwch adfeilion Ystrad Fflur—('Fe claddwyd Dafydd ab Gwilym, gwr mwyaf athrylithgar yr hil Gymreig, ac un o feirdd iroreu'r byd." A thybiai mai'r hen ywen haner gwerdd a haner gwyw safai uwchben bedd y bardd pan ganodd Gruffydd Gryg iddi,— " Yr ywen i oreu-was, (rer Ystrad Ffiur, a'i phlas ; Da Duw wrthyd, gwynfyd gwydd, Dy dyfu yn dy Dafydd ! Mae danad y mudaniaetb, Beddiwym,—nid o'm bodd yr aeth.'' Yr oedd yn nosi pan adawodd y fonachlog, ac yr oedd wyth milldir rhyngddo a Thregaron ; o?id cafodd gwmni porthmon, yr hwn a ddy- wedodd wrtho nad oedd Tregaron laAvn cymaint a Llundain, ac a'i difyrodd trwy adrodd hanes- ion am Dwm Sion Cati. Dranoeth aeth trwy Landdewi Brefi, lle dangosAvyd iddo gwpan arian yr eglwys, rhoddodd y frenines Elizabeth ; gwelodd goleg Llanbedr; croesodd i Sir Gaer- fyrddin, a cherddodd drwy wlad foel a thlawd i Bumsant, lle treuliodd y nosou. \Vedi gwel'd Dolau Cothi—a meddwl am Lewis Glyn Coth', bid siwr—cerddodd drwy wlad swynol i Lan- wrda, oddiyno i Lanymddyfri, lle gwelodd fod y