Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cîv. XII.—Emv. 9— Medi, 1891. GYYAILL YR AELWYD: CHWEDLONIAETH CYMRU. Gan y Proffeswr J. E. Lloyd, Coleg Peifysgol Cymru. [Parhad o'r Rhifyn diweddaf] R wyf yn barod wedi cyfeirio at esbon- iad y Proffe8wr Rhys ar yr enw " Mabinogion," séf mai y chwedlau oedd- ent adroddid gan y Mabinogiaid, neu'r dysgybl- ion barddol. Gadewch i mi ddweyd yma nad yw'r enw yn perthyn yn briodol ond i bedair o chwedlau Lady Charlotte Guest: chwedlau Pwyll Pendefig Dyfed, Bronwen ferch Llyr, Manawyddan fab L*yr, a Mâth fab Mathonwy, yn unig sydd yn dwyn y teitl yn y Llyfr Coch o Hergest, y copiwyd hwynt o hono, ac nid Mab- inogion y gelwir hwythau, ond un Mabinogi yn bedair cainc neu benod. Mae;r pedair chwedl yma yn hynod hefyd ar gyfrif arall, sef am na cheir ynddynt unwaith enw Arthur oa neb o'i farchogion. Yn y rhai'n 'does dim gair o son am y personau sydd yn llenwi y rhamantau eraill; ac o'r ochr arall, nid yw y rhai hyny yn traethu dim am y cymeriadau syda yn y pedair yma. Teulu Lljr Llediaith, ei feibion, Bran Fendigaid a Manawyddau, a'i ferch Bronwen, Pwyllbrenin Dyfed a'i fab Pryderi, Gwydion fab Dôn, ei chwaer Arianod, a'i nai Llew Llaw Gyffes— dyma wroniaid a rhiauod y gwir Fabinogi. Cysylltiad y Gwyddelod a Chymru. Gwelir yn rhwydd iawn fod y chwedl neu y chwedlau yma yn perthyn i gylcb arbenig iddynt eu hunain, hollol wahanol i'r cylch Arthuraidd ; crefydd rhywgenedl arall ddygodd y rhai hyn i fod, nad oedd yn ymroi i fawrygu Arthur. A phwy allai y genedl hono fod ond y Gwyddelod 1 Mae'n deilwng o sylw fod y per- sonau a ddygir ger ein bron yn y chwedlau hyn yn cael eu cysylltu â Mon, Arfon, Eifionydd, Ardudwy, a Dyfed ; a dyna'r ardaloedd lle y credir, gyda chryn raddau o sicrwydd, fod Gwy- ddelod yn byw yn yr hen amser, hyd nes y gorchfygwyd hwynt yn y bumed a'r chweched ganrif gan y Brythoniaid, ac ni orchtygwyd mo hoüynt mor llwyr na adawyd llawer o'u hepil yn weddill i drosglwyddo eu gwaedoliaeth a'u tradd- odiadau hyd ein hoes ni. Olion yr hen fyd Gwyddelig, felly, ydyw y chwedlau hyn, ac y maent, wrth gwrs, o'r dydd- ordeb penaf i'r hauesydd, ar wahan i'w swyn fel chwedlau. Dewiniaeth yr Hen Am.-ìer. Eu nodwedd amlycaf, efallai, ydyw y l!e rnawr aroddir ynddynt i ddewÌDÌaeth, neu, fel y gelwid hi gynt, Hud a Lledrith. Dewin heb ei fath oedd Mâth fab Mathonwy. Gallai. medd yr hanes, droi dynion yn foch, yn geirw, neu yn fieiddiaid, yn ol ei ewyllys. Yr oedd mam L'.ew Llaw Gyffes wedi tyügu na chai ei mab byth wraig o unrhjw genedl oedd y pryd hwnw ar y ddaear ; ond beth oedd hyny ar ffordd dau mor gyfarwydd a Mâth a'i ddysgybl, Gwydion fab Dôn ? "Yna,' medd y chwedl, "cymerasant hwy fiodau y deri a blodau y tauadl, a blodau yr erwain, ac o'r rhai hyny swyno y f( rwyn decaf a theleidiaf a welodd dyn erioed, a'i bedyddio â bedydd a wnaethant yna, a rhoi Blodeuwedd yn enw arni.'' Aeth Gwydion fab Dôd, chwi gofiwch, i Ddyfed i geisio »an Pryderi roi rhai o'i fcch iddo. Ond ni roddai Pryderi hwynt, oblegid yr oedd wedi addaw i'w bobl, meddai, na chaeut fyned ymaith nes yr oedd cymaint arall o honynt. Óud rhoddodd Gwydion ei gelfyddyd ar waitb, a'r bore nesaf, meddai,— "Arglwydd, ilyma ryddid i ti am y gair a ddywedaist ueithiwr am y mocb, na roddet ac na werthet hwynt. Ti a elli eu cyfnewid am a fo gwell. Minau a roddaf i ti y deuddeg march yma, íel y maent yn gywair, gyda'u cyf- rwyau a'u ffrwynau, a'r deuddeg milgi yma, fel y maent gyda'u torchau a'u cyn- llyfàrau, fel y gweli hwynt, a'r deuddeg tanau euraidd a weli oll acw." A'r rhai hyn a rithiasai ef o fedyrch (neu fwyd llyffant). Der- byniwyd y cynyg, ac aeth Gwydion a'i gym- deithion ymaith. " Ha wyr," meddai gynted ag y cafodd gefu Pryderi a i wyr, " rhaid yw i ni gerdded yu brysur, o herwydd ni pheri yr hud namyn o'r naili bryd o fwyd i'r llall." Buan iawn y trodd y deuddeg march a'r deuddeg mi'gi a'r deuddeg tarian aur, yn fwyd llyffant drachefn, ac y cychwynodd Pryderi yn llawn dig ar ol y peu- lleidr o Wynedd. Byddai yn hawdd i mi dreulio fy ngofod i gyd yn äyfynu darnau o'r hen chwedìau hyD, ond rhaid i mi gyfiymu yn mlaen. I ddangos mai darnau o hen dduwiny.ldiaeth y Cymry ydynt o ran eu tarddiad, caniatewch i mi ddweyd fod Pwyll Pendefig Dyfed hefyd yn cael ei alw yn Pen Anwn neu Ufferu—y byd tanddaearol—a dywedir iddo fod fiwyddyn yu teyrnasu yn y fro hono, yn lle'r brenin, a brenin Anuwu yu Nyfed, ac ni wyddai neb arnynt nad yr un oeddent ag arfer. Eto ceir fod Pwyll yn ymladd uu tro yn erbyn un Hafgan, a thro arall yn cynllwyn yn erbyn Gwawl iab Clud, dau euw yn aiwyddo