Skip to main content

Cîv. XII.—ftmv. 8.—Awst, 1891. CYVAILL YR AELWYD: CHWEDLONIAETH CYMRU. GAN Y PrOFFESWR J. E. Lloyd, Coleg Prif^sgol Cymrtj. )E gofynid i rywun o ddarllenwyr Cyvaill I yr Aelwyd pa betbau o eiddo y Cymry j sydd wedi dylanwadu fwyaf ar weddill y ! byd, 'rwy'ü sicr y teimlai gryn betrusdod pafodd | i ateb. Gofycer y cwestiwnam genedloedd eraill ! y mae eu henwau yn adnabyddus led y ddaear, j ac ni cheir yr un anhawsdra. Enwogrwydd tir i Groeg yw ei llenyddiaeth, enwogrwydd lìhufain | ei deddfau godidog, enwogrwydd Prydain Fawr i ei masnach, enwogrwydd Germani ei hathron- j iaeth. Ond holer y Cymro beth ydyw bri penaf | ei wlad a'i genedl ef, ac ond odid na ddywed ei | beirdd, er nad oes yr un o honynt yn hysbys y tu- allan i gylchoedd Cymreig, ceu ei phregethwyr, er na chiywodd y byd ond am Christmas Evar s. Ni ddeuai i'w galon, yn enwedig os yn wr dif- rifol, mwy na pheidio i ateb ei chwedlau. Ac eto, dyna'r gwirionedd. Yr unig gymeriad Cym- reig y mae ei gìod wedi treiddio trwy yr holl fyd, ydyw Arthur: yr unig sefydliad Cymreis; y mae pawb wedi clywed am dano ydyw, uid Gorsedd y Beirdd na Sasiwn y Bala, ond y Ford Gron. Prinder Chwedla cr Da. Ganoedd lawer o flynyddoedd yn ol, yr oeddys yn adrodd helyntion marchogion Artbur dangys god rhew-fynyddoedd Eisland. Yn ein hoes n;, mai prif fardd y Saeson wedi canu i'r gwron- frenin Cymreig ganiadau anfarwol, ac we:i ych- wranegu at yr hen chwedlau, oedd yn hysbys i E«rob er ys canrifoedd, chwedl newydd o bryd- ferthwch anghydmarol gymerwyd ganddo yn ei chrynswth o'r Mabinogiou Cymreig. Xid yw y Sais yn debyg o dd'od atom i fenthyca cyfreith- iau Hywel Dda, tra byddo ganddo ei "gyfan- soddiad Prydeinig,''' na barddoniaeth ein beirdd, tra byddo ganddo Shakespeare, Milton, a llu o rai eraill; ond, er pan wyddai ddim am danom, y mae wedi bod yn benthyg ein chwedlau, ac yn parhau i wneud hyny hyd y dydd hwn. Felly, os nad ydym yn ymfalchio yn ein chwedloniaeth, arnom ni ein hunain y mae'rbai. Dichon y dy- wed rhy wun m&i peth pur ddistadl ydyw i ym- falchio ynddo, ac yr wyf yn barod i gyfaddef nad ydyw medru adrodd chwedlau difyr, swynol, i'r byd, lawn mor bwysig ag ydyw medru rhoi bwyd a dillad iddo. Ond nid bara a chaws ydjw bywyd drwyddo draw : mae'n rhaid cael seibiant weithiau, ac yn mhob oes o'r byd mae dynion wedi arfer gwueud yn fawr iawn o'r sawl fedr eu difyru pan yn fìinion a lluddedig. Ac Did peth bach ydyw bod yn feistr ar gelfyddyd o adrodd chwedlau. Mae llawer yn cynyg o bryd i bryd ar y gwaith, ond, 0 1 fel y blinwn arnynt, yn adrodd hen chwed'au yr ydym wedi alaru arnynt, yn cwmpas'j môr a thir ac yn trin achosion pawb byw bedyddiol cyn d'od at bwynt y chwedl, ac yn fynych iawn yn toii yr hanes mor swta, fel na ŵyr neb y tu yma i Jidiart y mynydd paham yr adroddwyd hi ! Gellid meddwl mai y gwaith hawddaf yn y byd fyddai dyfeisio chwedl newydd, ond cwyn y rhai sydd yn adolygu novelau yr oes hon ydyw mai yr un chwcdlau sydd yn cael eu hadrodd ynddynt drachefu a thrachefn, dicn ond fod y trwsiad arnynt ychydig yn wahanol. Dim ond deugain o chwedlau da sydd mewn bod, medd ysgrifen' ydd aral), a'r rheiny i'w cael yn mhob iaith dan haul, yn gysylítiedi^ ag enwau dirifedi. Mae y chwedl am waith Tudur Aled yn cau safn y bysgod- wraig dafotrwg o Gaer, drwy ei g alw yn bob enwau barddono), diniwed mewn gwirionedd, ond dych- rynllyd eu swn, megys " jr hen Hypynt Eirbyr, yr Hen Gyich a Chwta, yr hen Leddf a Thal- gron, yr hen Gynghanedd Groes o Gyswl't ewin- og,,; hefyd yn cael ei hadrodd am y Gwyddel enwog, Daniel O'Connell, ond mai termau Rhif a Mesur, megys " parallelogram," "vulgar frac- tion," " logarithm," a'r cyffel\7b, fu'n foddion i roi taw ar y wraig ddociol o DdybÜD. Gan fod y chwedlau goreu felly mor rhyfeddol o brÌD, chwareu teg i ni Gymry i feddwl tipyn o honom ein hunain fel y genedl sydd wedi cyfoethogi llenyddiaeth y byd a'r chwedlau mwyaf poblog- aidd fu erioed rhwng cloriau llyfr. Beth yw Chwedl. Ystyr y gair '•' chwedl," medd efrydwyr iaith, ydyw " peth a draethir neu a ddywedir." Yn yr hen Gymraeg yr oedd yn golygu, nid hanes neu ystori yn UDÌg, ond am ryw beth newydd a draethid gan y naill ddyn wrth y lla.ll. Yn l!e gofyn fel y gwnawn ni, "Pa newydd sydd .-!; dywedai gwroniaid y Mabinogion " Oes chwedlau genych ?" pan gyfarfyddenta'u gilydd. Felly y mae gwyr y De yn son am "wheleua" ceu 41 chwedleua," yn llo " sgwisio" neu " ymgomio,; ac arferwn ninau yn y Gogledd ymadroddion f'el " chwedl gwr y ty nesaf'" i olygu " fel y dywed- odd gwr y ty nesaf." Nid yw chwedl felly, o ran tarddiad y gair, ond peth a draethir, a gol- yga', mae'n debyg i ddechreu y dosbarth yna o hanesion y gellir yn hwylus eu hadrodd wrth gymydog y tarewid ar antur arno. Ond erbyn hyn, mae yn cael ei arfer yn enw ar bob math o adroddiad ffugiol, hyd y nod y ffugharesioi trwchus sydd yn ymranu yn naturiol, fel y cyffredin o bregethau, yn dair rhan.