Skip to main content

Cyv. XII.—Kbiv. 7.—Gorphenaf, 1891. CYYAILL YE AELWYD: tfultotffltfiad $H\$n\ at Wmmtth y ©ymnj. BEIRDD CYMRU. Gan Watcyn Wyn. Rhif II. —CEIRIOG. ID bob dydd y genir canwr caneuon da. Nid yn mhob oes y genir dyn yn gallu gwneud i genedl gyfan ganu gydag ef, ac wylo ar ei ol. Nid pob ardal sydd wedi ei breintio â bardd gwlad gyfaD. Yr oedd ein cenedl, fel y genedl hono gynt, bron myned i fethu canu tua dechreu y ganrif, neu yn mlaen yn nes at ganol y ganrif bresenol, a hyny am nad oedd caneuon ganddi. Yr oedd yna alawon, ond dim caneuon ; yr oedd yna fiwsig, ond dim geiriau ; yr oedd cerddoriaeth yn methu canu o eisiau barddoniaeth. Ambell Gymro sydd yn gallu canu heb y gair, —dim ond y canwyr goreu, y dechreuwyr canu, yr hen ddechreuwyr canu oedd yn canu '' liam tam ti tam" a hyny pan yn methu cael gafael ar y dôn a'r emyn yr un pryd ; clywsom ambell un o'r cyfryw yn gwneud iddi dd'od weithiau heb y gair am linell neu ddwy—ei tharo hi—yn gynta', a chwilio am yr Hymn wedi'n oedd hi gydag ambell un. Yn wir, fe allai, y dylem wneud ymddiheurad i wyr y Sol-Ffa hefyd,—cerddorion y dyddiau diweddaf hyD, fe allai eu bod hwy yn haeddu eu henwi fel rhai enwog am ganu heb y gâo, ond credwn eto mai ambell Gymro naturiol, ambell hen Gymro iawn sy'n canu heb un gair. Barddoniaeth Cymru sydd wedi tynu allan ei cherddoriaeth hi, caneuon Cymru sydd wedi tynu allan ei halawon hi, ein geiriau ni sydd wedi'n dysgu dì i ganu. Ai dyma y rheswm fod Cymru mor bell yn ol—mor araf yn symud gyda cherdd- oriaeth offerynol 1 Ai dyma y rheswm mai y canwyr sy'n dweyd y gair, neu canu'rgair, fyn- wn ni glywed yn canu ? Gyda llaw, beth yw ystyr y gair canu ? Gadawaf i'r canwyr ateb,— Did y cerddor, ond y canwr. Beth bynag, yr oedd ein caneuon yn brin tua'r amser a nodasom. Y mae Elfed yn ei draethawd rhagorol ar " Weithiau Ceiriog" yn cyfeirio at lythyr o'r eiddo y diweddar Lewis Morris, tadcu ein Lewis Morris ni, yn cwyno wrth y diweddar Edward Richards am brinder caneuon Cymreig. Dywed Lewis Morris yn y llythyr hwnw mai Huw Morris oedd tad ein caneuon. " Ni fu genym erioed gân cyn ei amser ef," meddai," nac un ar ei ol, hyd a welais i, yn gydradd âg ef." Yn awr, yr oedd Huw Morris (Eos Ceiriog) wedi ei eni a'i fagu, ac wedi byw a chanu a marw yn Nyffryn Ceiriog, yn yr un ardal a Cheiriog arall ddaeth ar ei óì—Ceiriog mwy, yn gallu canu yn bereiddiach, er nad yn cyfenwi ei hun yn Eos. Canodd Huw Morris yn rhagorol iawn ag ystyried yr oes a'r amgylchiada'-! ; canodd yn deilwng o gael ei enwi yn dad y gân. Canwr rhagorol oedd Eos Ceiriog, tyner a melus ; caoodd lawer iawn o ganeuon serch, fe allai fwy nag un bardd Cymreig oddigerth Dafydd ap Gwilym, a chanodd fwy o ganeuon serch nag a fuasem yn dysgwyl iddo wneud hefyd pan gofiom ni mai hen fab gweddw oedd yn myned i'w fedd. Er iddo gael byw bedwar ugain a saith o fiynyddoedd, bu yr hen fardd, er cymaint o gaDeuon serch ganodd e', farw heb un wraig,—er, fe allai, iddo fyw yn hwy na phe buasai wedi cael un, daliodd i ganu yn hir, fel y mae genym le i feddwl na thorodd y merched ddim o galon yr hen lanc, beth bynag. Yn mhen dau can' mlynedd a rhagor o ryw ychydig, yn yr un cwm cul, yn yr un ardal bryd- ferth, yn yr un gymydogaeth dawel, y ganwyd Ceiriog : ac os gellir galw Eos Ceiriog yn dad y gâD, gellir galw Ceiriog Hughes yn l'ab y gân mewn gwirionedd. Carem wybod beth sydd yn y cwm enwog hwnw % Cwm culach na Chwm y Rhondda, meddai Llyfrbryf, ac y mae Telynog yn dweyd am Gwm y Rhondda ei fod yn gwm culach na cham ceiliog, ac mae Cwm Ceiriog yn gulach eilwaith. Fel hyn y darlunia Ceiriog y cwm :— Weithiau tan y creigiau serth Yn Dghanol y mynyddoedd, Dim i'w wel'd ond creigiau certh, A thyner lesni'r nefoedd. DyDa fe, edrychwch ar ei ochrau, y creigiau certh ; ond nid oedd yr awen i gael ei chloi yn y fan hono,—er gwaetha'r creigiau certh, yr oedd hi yn gallu codi ei golwg fry, a gweled " tyoer lesoi'r nefoedd " uwchben y cwm bach cul, a gallem feddwl fod tyner lesni'r nefoedd uwchben wedi bod yn tyneru'r awen ar y Beth waeth am gael ei eDÌ mewn cwm, mewn cwm cul, mewm cwm garw, mewn cwm dwfn rhwng y creigiau certh, os bydd llygad yr aweo yn gallu gweled tyner lesni'r nefoedd uwch ei ben. Gall fod yn fantais i grynhoi y nefoedd fawr i gyd i'r un man, megys casglu glesni'r nefoedd fel i'r un man uwchben y cwm lacb.