Skip to main content

CYV. XII. -JttHlY ö —Mbhefint, 1891. CYVA1LL YR AELWYD: ëìjlwMM Pisi0! at Wä$an;aetít y ®ymry. JENNY: Neu ABERTH Y TLAWD. I'enod I. YSTORI GAN YlCTOR HUGO. R oedd yn nos. Yr oedd y caban er yn wsel, eto yn gynes a chlyd ; lleuwid efa goleuni fel goleu brig yr hwyr, yn codi oddiwrth y marwor ar yr aelwyd gochai y trawstiau geirwon uwchben, a thrwy gymorth yr hwn y canfyddid yn aneglur gynwys y caban. Crogai rhwydau y pysgotwr ar y mur. Ar astell arw yn y gong] llewyrcbai pedyll a chawg- iau diaddurn. Wrth ochr y gwely mawr a'i leni hirllaes, estynid matras ar ddwy hsn fainc, ac ar y matras gorweddai pump o bìant bychain yn cysga fel cerubiaid mewn nyth. Wrth ochr y gwely, a'i thalcen Avedi ei wasgu yn dyn yn erbyn y cwrlid, penliniai mam y plant. Yr oedd yno yn unig. TuaìJan i'r caban yr oedd y cefnfor wedi ei fritho a thonau ewynog, yn cwynfan ac yn murmur, ac yr oedd ei phriod allan ar y mor. Yr oedd y gwr wedi bod yn bysgotwr o;i febyd. Nid oedd ei fywyd ond megys brwydr feunyddiol a'r dyfroedd mawrion ; canys rhaid oedd cael bwyd i'r plant y naill ddydd ar ol y llall, ac felly bob dydd fel eu gilydd, pa un ai gwlaw, ai gwynt, ai tymhestl, ehi ei gwch allan i bysgota, a thra yr oedd ef allan ar y cefnfor wrth ei lafur mewn unigedd, yr oedd y wraig gartref yn gosod darnau ar yr hen hwyliau, yn adgy- weirio y rhwydau, yn trefnu y bachau pys^ota, neu yn gwylied y tân bychan ar yr hwn yr oedd y cawl pysgod yn berwi. Can gynted ag y cysgai y pum' plentyD, syrthiai hi ar ei glioiau, gan weddio ar y nefoedd dros ei gwr yn ei ymdrech a"r tywyllwch a'r tonau. Ac yn wir, bywyd caled oedd ei eiddo ef. Nid oedd y lle tebycaf i gael pysgodondysmotyn bychan yo nghanol y breahers, oddeutu gymaint ddwywaith a llawr ei gaban gartref—ìnan dirgel, cyfnewidiol, ar yr anialwch symudol, ac eto y rhaid iddo ei chwilio drwy niwl a thymhestl y nos yn y gauaf yn unig trwy ei adnabyddiaeth o'r llanw a'r gwyntoedd. Ac yno tra y llithrai y tonau heibio megys seirff gwyrddion, ac y rholiai ac y dyrchafai y mor o'i gwmpas, ac y griddfanai y rhaffau fel pe rnewn dychryn,—yno, yn ughanol y tonau iâ, medd- yliai ef am Jenny ; ac yn y caban gartref, yn nghanoleidagrau.meddyliaiJennyamdanoyntau. Yr oedd yn meddwl am dano yn awr ar ei gliniau. Blinid hi gan ysgrech oerllyd y forwylan, a dychrynid ei henaid gan ruad y tonau ar y creigiau. Eto yr oedd mewn dwfn fyfyrdod—myfyrdod am eu tlodi. Ai eu rhai bychain yn droednoeth haf a gauaf. Ni phrofent fara gwenith o ddechreu bhvyddyn i'w diwedd hi, dim ohd bara barlys. Y nefoe Id fawr ! Clywch y tonau yn rhuo tel megyn y gof, ar traeth yn adsaia fel eingion '. Wylai a chrynai hithau. Druaia o'r gwragedd y mae eu gwyr ar y môr '. Mor ofuadwy yw dweyd, '' Fy anwyl- iaid—tad, cariad, brodyr, meibion—a!i in yn yr ystorm." Oud >r oedd Jenny yn fwy anhapus hyd y nod na'r rhai hyn Yr oedd ei gwr allan wrtho ei huü, heb neb gydag ef i'w gynorthwyo ar y fath noson chwerw. Yr oedd y plant yn rhy fychain i'w gynorthwyo. Ha ! fato, druan ! Yr wyt yn dweyd yn awr, i; Gwyn fyd na bai;r plant yma wedi tyfu i fyny i helpu eu tad.' ünd mewn blynyddoedd a ddaw, pan fyddant wedi tyfu, ac allan gyda'u tad yn y dymhestl, dywed, gyda dagrau, " Gwyn fyd na faent yn blant eto." Penod II. Cymerodd Jenny ei lantern a'i chlogyn. " Mae yn bryd,; ebe hi, '' i we'ed a yw ef yn dyfod yn ol, a yw y môr yn tawelu, ac a y\v y goleu eto yn llewyrchu ar yr hwylbren.5' Aeth allan. Xid oedd dim i'w ganfod- prin y gallai ginfod y lline]] wen ar y gorwel draw. Yr oedd yn gwliwio, gwlaw tywyll, oer, y boreu bacb. Nid oedd llewyrch goleu i'w gantod mewn unrhyw ffenestr. Ond yn sydyD, tra yn edrych o'i chwmpas, canfyddai gerllaw hen gaban dryllieiig heb ynddo arwydd o dân na goleu. Ysgydwai y drws yn ol a blaen gyda'r gwynt; yr oedd y muriau mor adfeiliedig fel mai prin y medrent gynal i fyny bwysau y to oddiar yr hwn yr oedd y gwynt yn rhwygo gwellt melyn pydredig yn ddarnau. "Aroswch,': ebe hi, "yr wyf yn anghofio y weddw dlawd y cafodd fy ngwr hi mor sal y dydd o'r blaea. Rhaid i mi fyned i edrych ei hynt.: Curodd writh y drws, a chlustfeiniodd. Ond nid oedd neb yn ateb. Crynai Jenny yn y morwynt oer. " Mae yn wae). A'r plant bach druain ? Xid oes ond dau o honynt ; ond mae hi yn dlawd iawn, ac nid oes ganddi wr.;; Ourodd drachefn, a gtlwodd allan, " Hoi ? Halo ! " Ontl eto ni chai ateb. Teyrnasai tawel- wch y bedd yn y caban. " Ỳ nefoedd fawr !' ebe Jenny, "mor drwm y mae hi yn cysgu cyn fod gofyn gwaeddi cuwch i'w deffroi!" Y fynud hono agorodd y drws o hono ei hun. Aeth hithau i fewn. Goleuai ei Uusern y caban tywyll dystaw, gan ddangos iddi y gwlaw yn