Skip to main content

Ctv. XII.—ltmv. 5—Mai, 1891. CYVAILL YR AELWYD: CYMRO ENWOG. YR ANRHYDEDDUS T. L. JAMES. Gan George J. Manson. 'E gofia darllenwyr Cwaill yr Aelwyd mai Yr Anrh. T. L. James, Cyn bostfeistr Cyffredinol yr Unol Dalaethau, oedd awdwr yr erthygl ddyddorol ar "Gymry Am- erica," ymddangosodd yn y Cwaill am Chwef- ror. Nid y lleiaf enwog yn mhlith enwogion y wlad fawr hono yw Mr. Jamesei hun, ond ganei fod yn amlwg nas gallai yn ei ysgrif wneud cyf- iawnder ag et' ei hun, mae yn dda genym fod un sydd yn ei adwaen yn dda wedi dod allan i wneud i fyny y diffyg. Bydd yr ysgrif ganlynol, gan Mr. J. Manson, am hyny, yn dra derbyniol gan y rhai fwynhasant erthygl ddyddorol ein cyd-Gymro galluog ei's tri mis yn ol. 0 Hwlffordd, Sir Benfro, y daeth hynafiaid Mr. James o ochr ei daid. Hwyliasant i'r Unol Palaethau o Abergwaun, yn y llong ''Brutus," yn y flwyddyn 1798 ; daeth ei daid a'i nain o ochr ei fam drosodd yn yr un llong. Nid heb achos, felly, y geilw Mr. James ei hun yn " Gymro dwbl faril." Gellir nodi, gyda llaw, wrth fyned heibio, ddarfod i dad golygydd pre- senol y Troy Times, hefyd, groesi y Ẅerydd yn yr un llong. Yr oedd y tad, Richard Francis, wedi bod yn swyddog yn y llynges Brydeinig, ac wedi ymladd o dan Arglwydd Rodney, ac wedi cymeryd rhan yn y frwydr enwog â'r Cownt De Grasse, pan gymerwyd llong y Líyng- esydd Ffrei gitr, a saith eraill, gan y llynges Brydeinig. Yn fuan ar ol cyraedd America, a sefydlu yn Utica, y pryd hwnw dim ond lle bychan dinod, prynodd Richard Francis ddarn o dir yn Frankfort Hill, pedair milldir o Utica, ac wedi hyny symudodd gyda'i deulu i Pratts- burgh, yn Swydd Steuben, lle nad oedd y pryd hwnw nemawr amgen nag anialwch gwag erch- yll. Yno y ganwyd golygydd y Troy Times. Yn yr un flwyddyn y daeth taid Mr. James, o ochr ei dad, i America o Sir Foiganwg. Yroedd yn ddisgynydd o deulu yr enwog Capten Thomas James, darganfyddydd Morgilfach James. Morwr enwog yn ei ddydd oedd y Capten James hwn, a enwogodd ei hun yn benaf trwy geisio darganfod y " North West Passage" sydd wedi costio mor ddrud i forwyr Prydain a phob rhan o'r byd gwarei idiedig. Treiddiodd yr hen Gymro rìewr can belled a'r 65 gradd i'r gogledd, a gwnaeth amryw ddarganfyddiadau pwys;g yn Morgilfach Hudson. Ar ei ddychweliad i Loegr, cyhoeddodd hanes ei ymchwiliad, dan yr enw, " Mordaith Hynod a Pheryglus y Capten Thomas James er darganfod Mynedfa Gogledd Ddwyreiniol i Fôr y De." James Harries, hendaid y Maeslywydd James 0 ochr ei fam, oedd diacon cyntaf yr Eglwys Fedyddiedig gyntaf yn Utica ; a'i daid, William James, oedd yr ail ddiacon, swydd a lanwodd am dros haner can' mlynedd. 0 Gymru y daeth yntau. Tir-feddianwr bychan yn byw yn fferm Penlan, ger Pontypool, ydoedd, ac ymfudodd i'r America yn nechreu y ganrif bresenol. Mae rhai eto yn fyw yn Swydd Oneida sydd yn cofio ei ymddangosiad tra hynod. Arferai bob amser wisgo llodrau llwydion, gyda chot lâs o'r toriad adwaenir fel " swallow-taîl," yn dysgleirio gan fotymau pres, gwasgod ddu, a chadach sidan wedi ei droi yn ofalus o amgylch ei wddf. Yr oedd hytrach yn drwm ei glyw, ac arferai sefyll ar ei draed bob amser yn yr oedfa, er mantais i glywed yn well. Er hyn, yr oedd yn ddyn gol- ygus a hardd, o wyneb lluniaidd, gwallt gwineu tywyll, llygaid gleision, a chernfiew wedi eu tori at ffasiwn vr oes. Priododd ei nain Elisabeth Harries, â William James yn y fiwyddyn 1803. Dywed tad Mr. Powell, y diweddar ymgeisydd Democrataidd am Lywyddiaeth Ohio, mai efe, yn 01 pob tebyg, yw yr unig dyst sydd yn awr yn fyw oedd yn bresenol yn y briodas hono. Ganwyd y Maeslywydd James yn Utica, ac yno y treuliodd foreuddydd ei oes. Pan yn llanc, dechreuodd ei frwydrâ'rbyd fel egwyddorwasyn swyddfa argraffydd yn Utica, Yuo caffìi y gyf- log anrhydeddus o chwech swllt a thair ceiniog yr wythnos ; ac am y gyfiog hono, dysgwylid iddo ysgubo'r swyddfa, rhedeg negeseuon, cyneu tânau, ac incio'r rholiau, yn y swyddfa hen ffasiwn hono. Yr oedd yn rhaid iddo fod yn y swyddfa bob boreu am bump o'r gloch ; ac ar ol gorphen y rhan gyntaf o'i wTaitb, megys cyneu'r tân, ysgubo'r lloriau, &c, dychwelai gartref i'w foreufwyd, gan fyned yn ol i'r swyddfa drachefn erbyn saith o'r gloch. Yn yr aii fiwyddyn, codwyd ei gyflog i wyth swllt yr wythnos ; ac yn fuan ar ol hyn, dechreuodd ddysgu ei grefft fel argraffydd yn rheolaidd o dan yr Anrh. Wesley Bailey, tad Mr. E. Prentiss Bailey, golygydd presenol yr Utica Obsewer, yr hwn oedd yn gyd-egwyddorwas i Mr. James. Yn ystod y rlwyddyn gyntaf yn y lle hwn, caffai Thomas James wyth punt y fìwyddyn a'i fwyd, yn yr ail fiwyddyn deg punt y frwyddyn, a'r drydedd flwyddyn deuddeg punt.