Skip to main content

Cyv. XII.—Rhiv. 4—Ebrill, 1891. CWAILL YR AELWYD: YB AWDL A'R BRYDDEST. GAN ÜYFEt). Fl -T EIST gweryl, sydd yn noeth ddanedd ar faes Llenyddiaeth Gymreig, er ys blyn yddoedd lawer, yw cweryl yr Awdl a'r Bryd'iest ; ac y mae y fath amrywiaeth barn ar y pwnc, fel yr ofnwyf y rhed llawer blwyddyn arall heibio cvn ei benderfynu i foddlonrwydd cyffredinol. Y mae yn y wlad ddau ddosbarth o feirdd, ac y mae gan y naill a'r llall resymau cryfion dros gyndynrwydd eu golygiadau. Ym ddengys fod un blaid yn gryfach na'r Uall, ond nid yw barn y mwyafrif bob amser yn ddyogel i bwyso arni, er mai yn ol y rheol hon y llyw- odraethir hoíl gynghorau cymdeithas. Mewn Eisteddfod bwysig yn Nghaerwys, dros gan' mlynedd yn ol, cawn y mater hwn mor fyw ag ydyw heddyw. Bardd yw bardd yn mhob oes, ac uchelgais yn gyru troell ei naturiaeth yn fflam lawer pryd. Os bydd udgorn rhyfel yn dawel, bydd y bardd yn debyg o gynllunio ffrae, rhag i'r byd anghofio mai bardd ydyw. Yr oedd y ddau ddosbarth yn yr wyl hono yn ymsipris am y gadair, ac yn ciedu yn ddwfn yn anffaeledigrwydd yr eilunod yr ymladdent dros- tynt. Gorchfygodd yr Awdl, ond nid heb greu y teimladau mwyaf chwerw yn nyfnder bodol- aeth y gwrthwynebwyr, a bu agos i alluoedd anianyddol oresgyn tiriogaeth rheswm i bender- fynu'r pwnc. Y fìwyddyn ddilynol, wele'r Awdl a'r Bryddest yn yr un gystadleuaeth, a gallesid dysgwyl i'r ymrysonta flaenorol sicrhau bodau o aílu ac ymddiried diamheuol i eistedd mewn barn ar y cynyrchion. Fodd bynag, dyfarnwyd eto yn ffafr yr Awdl. ünd yn ngwyneb gwrth- dystiad cryf y blaid wrthwynebol, penderfynodd y pwyllgor, ar draws y beirniaid, roddi y wobr i'r gân rydd. Pa un ai cywir, ynte anghywir, oedd barn y beirniaid, gwelir ar unwaith fod yraa annoethineb dybryd yn amodau y gystad- jeuaeth. Os oedd gelyniaeth y gwahanol bleid- iau yn fawr cynt, yr oedd yn fwy fyth ar ol yr annybendod gwaradwyddus hwn. Wedi cad-oediad am rai blynyddoedd, wele y galluoedd eto yn cydgyfarfod yn Rhuddlan. Y testun yno oedd, " Yr Adgyfodiad." Barnwyd yn ffafr y Bryddest. Ond adgyfododd yr hen gweryl, a llanwodd y beirdd â mwy o gynddaredd ûag erioed. Llawuodwyd gwrthdystiad gan brif arweinwyr y geuedl, yr hyn a ddilyuwyd gan y brwydrau mwyaf tanìlyd, ac y mae swn y rhyfel nwnw yn aros yn awyrgylch lenyddol Cymru hyd y dydd hwn. Heb i mi íanylu, dyna hanes hen gweryl y Bryddest a'r Awdl er cyu cof; ac y niae ei ysbryd yn gwaeddi am ymwared y dyddiau hyn mor glir ag erioed. Pa beth ddaw o hono, y nefoedd a ŵyr. Yn y papur hwn, ni geisiwn edrych yn deg ar y ddwy ochr i'r ddalen. Er mwyn yr anghyfarwydd, hwyrach mai doeth fyddai rhoi deffiniad byr o'r mesurau dan sylw. Wrth yr Awdl y meddylir, cyfansoddiad cynghaneddol cywrain, mewn arddull Gymreig hoìlol, yn unul â rheolau arbenig Cerdd Dafod. Rhaid i bob llinell fod yn gynghanedd blethedig drwyddi, a'r odlau yn unsain hollol drwy yr holl benill. Cawn sylwi yn fanylach ar hyn eto. Wrth y Bryddest y golygir, cyfansoddiad di- gynghanedd, ar unrhyw fesur neu fesurau, yn odli neu yn ddiodl, ond wedi ei gorfanu yn bri- odol, yn unol á deddfau y mesur y cenir arno. Dyna'r Bryddest. Y mae yr Awdl ar fesurau Cymreig pur, ond nid yw y Bryddest o angen- iheidrwydd felly. Os edrychir ar allanolion y ddau gyfansoddiad, cawn fod y naill yn llawn cywreinrwydd a phrydferthwch, tra mae y llall yn ddiaddurn, a'i gelfyddyd i raddau yn llac. Ond nid allanolion cyfansoddiad yw ei ogoniant penaf, er fod i'r rhai hyny eu lle a'u gwasanaeth yn luherffeithrwydd tegwch y darn. " Meddwl a grym iddo" sydd yn sicrhau anfarwoldeb cerdd, bydded gaeth, bydded rydd. Tuedd y ddau ddosbarth yw rhedeg i eithaf- ion, ac y mae gormod sel yn eu gyru yn ynfyd. Dywedir pethau yn fynych yn mhoethder dadl, na íuasid yn cymeryd teyrnas am eu dweyd mewn " gwaed oer ;" ac y mae hyn yn cyfrif am lawer o'r ynfydrwydd gwallgof o ysgrifenu gan y ddwy blaid ary pwnc. "Ymae cynghan- edd," meddai y naill, yn ddinystr i farddoniaeth Gymreig. gan hyny cladder hi â'i gwyneb i lawr am byth." Anwybodusion hollol mewn Uenydd- iaeth Gymreig sydd yn siarad fel hyn, ac nid yw y fath syniadau barbaraidd yn ddim amgen na thywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybod- aeth. Nis geìlir dyfetha'r gyughanedd heb ddy- fetha'r iaith, canys y mae bywyd y naill yn gwreiddio yn mywyd y llaU. Estroniaid i amodau addewid y Gymraeg, ac yn rhy fychain i'w dàl yn gvfrifol am gablu urddas, sydd yn son am ddiiìystrio yr anmhosibl. Y mae pob gwir fardd, sydd yn gyt'arwydd â nodweddion a neill- duoliou y Gymraeg, bydded awdlwr, bydded brydd^stwr, yn cydnabod tod i'r gynghanedd ei lle yn llenyddiaeth y genedl, ond peth arall hollol yw goddef iddi deyrnasu à gwialen haiarn ar fesurau erailì. Ymae gan y beirdd berffaith Lawì i godi meAvu gwrthrytel, os yw lleuyddiaeth