Skip to main content

Cty. XII.--.Rhiv. 3.—Mawrth, 1891. CYYAILL YR AELWYD: Y CYMEY YN AMERICA: EU HANES, EU SAFLE, A'U NODWEDDION. Gan yr Anrh. T. L. James, Cyn-Bostýeistr Gyfredinol yr Unol Dalaethau. HIF y Cymry a'u disgynyddion yn yr Unol Dalaethau, yn ol y cyfrifiad swydd- ogol diweddaf, yw oddeutu 83,000 ; ond credaf fod hyn yn anghywir, canys rhaid fod yn y wlad hon gynifer ag sydd yn Nghymru. Ond mae eu cysylítiad â hanes y wlad yn dra dydd- orol. Wedi'r cwbl, mae gwir werth a mawredd cenedl yn gynwysedig, nid yn ei rhif, ond yn ei hansawdd ; teimlwn fwy o ddyddordeb yn y 300 Groegwr dan Leonidas, yn Thermopylse, nag yn y 100,000 Persiaid o dan Xerxes Er mai gwlad GEORGE B. ROBERTS, Llywydd Rheüffordd Pensyhania. fechan mewn ystyr dirol yw Cymru, mae ei hymdrechion lluosog a llwyddianus yn y gor- phenol o blaid cartref a rhyddid yn ei gwneud yn enwocach nag y byddai heb hyny. Nid yw y Cymry yn ol o hawlio cydnabydd- iaeth. 6an ddechreu gyda hanes boreuol ein gwlad, ceir traddodiad mai Cymro o'r enw Madawg ab Owain Gwynedd oedd gwir ddar- ganfyddwr America. Yn y flwyddyn 1170, hwyliodd o Gymru tua'r Gorllewin, ac ar ol bod yn hir yn absenol, dychwelodd, gan ddweyd ei fod wedi darganfod gwlad fawr a phrydferth yn rnhell yn y gorllewin. Adroddir ddarfod iddo yn fuan ar ol hyn ddarbwyllo nifer o'i gydwladwyr * fyned gydag ef tua'r wlad newydd, ond, yn an- ffodus, terfyna y traddodiad yn y fan yna ; ni ddy wed haneswyr wrthym pa un a gyrhaeddodd y deg llong yn y rhai yr hwyliodd yr anturiaeth- wyr ben y daith ai peidio, ac nis gwyddis beth ddaeth o'r cwmni. Glaniodd y sefydlwyr Cymreig cyntaf yn Pen- sylvania yn 1682. Yr oedd hyn yn nyddiau William Penn. Crynwyr oedd yr ymfudwyr hyn, a phwrcasant gan eu cyd-grefyddwyr enwog 40,000 erw o dir. Am rai blynyddoedd, cynydd- odd y wladfa fechan mewnrhifaphwysigrwydd. Dengys llawer o'r enwau geir ar hen ddarlun-leni y dalaeth mai sefydliadau Cymreig oeddynt, PARCH. WILLIAM C. ROBERTS, D.D., Cyn-Gadeirydd Satiicn Gyffredinol Pretbyteriaid Amtrica megys Meirion, Gwynedd, Caernarfon, Pencader, Maldwyn, &c. Yr oedd y pryd hwnw nifer fawr o Gymry a'u disgynyddion yn ninas Phila- delphia. Ond yn raddol, diflanodd yr hiliogaeth o'r dalaeth hon ; eto cymerodd adfywiad ym- fudiaeth Gymreig le mewn rhanau eraill o'r wlad rhwng y blynyddoedd 1796 a 1802. Mae un peth tra hynod i'w sylwi yn nglyn ag ymfudiaeth Gymreig foreuol. Arfera y Cymry, pa le bynag y b'ont, edrych yn ol gyda hoffder at fyuyddoedd a bryniau eu gwlad enedigol. Pan ddaethant i America, ac y dechreuasant ymsef- ydlu yn nhalaeth Efrog Newydd, yn lle cymeryd i fyny eu preswylfod yn nyffryn prydferth y Mohawk, dewisasant ranau gwyllt ac anghyfan- edd Steuben, yn unig am fod y wlad hono yn fynyddig ac yn eu hadgofio o'r Wyddfa a