Skip to main content

Ctv. X.—Khiv. 12,—Rhagf*r, 1890. CYYAILL YR AELWYD: YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. EI RHAGORIATHAU A'U DIFFYGION. TŵÍN o arwyddion mwyaf dymunol yr oes (EÂi) yw fod dynion blaenaf ein cenedl ni a ^y chenedloedd eraill yn talu sylw i'n sef- ydliad cenedlaethol. Ni íu yn yr oes hon gynifer o enwogion estronol yn ymweled a'n Gwyl Fawr ag yn yr ychydig flynyddoedd diweddaf hyn, ac ni cheid dysgedigion ein cenedl ein hunain mor barod i farnu yr Eisteddfod, yn ei rhagoriaethau a'i diffygion, ag ydynt yn awr. Mae Eisteddfod Bangor yn enwedig wedi rhoddi achlysur i dynu allan farn dynion cyhoeddus am y Sefydliad Cenedlaethol yma, a rhoddwn ddj fyniadau o rai o honynt yma. Y Proffeswr Masson. Yn nghyfarfodydd cyntaf Undeb Myfyrwyr Cymreig Edinburgh am y tymor 1890 91, rhodd- odd y Proffeswr Masson ei farn ar yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf. Cadeirydd y cyfarfod oedd Dr. Alfred Daniell, yr hwn a draddododd anerchiad agoriadol dyddorol, yn yr hwn y profodd mai nid Gogledd Cymru, ond deheubarth yr Ysgotland, yw " Gogledd " hen hanesiaeth Gymreig, a dangosodd nad yw llawer o enwau ar leoedd yn yr Alban namyn enwau hollol Gymr- eig wedi eu llygru. Prif atdyniad y cyfarfod, yn ddiau, cedd y Proffeswr Masson, cyfaill anwyl Carlyle, golygydd gweithiau De Quincey, cyn-olygydd " Macmülan's Magazine," cyd- ymaith Thackeray, Jeirold a D ckens, ac awdwr y gwaith mwyaf a goreu a gyhoeddwyd erioed ar Milton a'i oes. Pan gododd y Proffeswr i draddodi ei anerchiad, derbyniwyd ef gyda brwdfrydedd, ac uid rhyfedd ; y maeef yn hoffo'r Cymry, a'r Cymry yn dotio arno yLtau. Ar ol dweyd mor ddaoedd ganddo gael bod yn mhlith y noyfyrwyr Cymreig unwaitheto, ychwanegodd fod amryw ddygwyddiadau diweddar wedi cynyddu y pleser a deimlai wrth gyfarfod a hwy. Yr oedd, drwy eu cadeirydd, wedi dei byn gwahoddiad i Fangor, a chafodd gyfie i weled rhai o brydferthion Gogledd Cymru am y tro cyntaf. Ýr oedd yr Eisteddfod wedi gadael ar ei feddwl rai o'r argraffîadau mwyaf dymunol, a newydd, a hynod, a gafodd erioed. Ccfiai am y babell enfawr, a'r oll a elai yn mlaen ynddi. Nid oedd ganddo yr un syniad o'r blaen am y tufewn i Eisteddfod. Ỳr oedd yno gyfies o gj stadleuaethau dyddorol i'r Cymry o safbwynt cenedlaethol, ac yn eu plith Welsh Tweed, er fod hyny yn ymddangos iddo ef dipyn yn anghyson, Wehh a Tweed! Ond y prif gystadleuaethau oedd y rhai cerddorol a llenyddol; a'r hyn a'i tarawodd ef yn yr oll, heblaw trefn a moesgarwch adjdlordeb y bobl, oedd y brwdfrydedd a'r dalent gerddgar ryfeidol, a'r hoffder o'r hen draldodiadau llenydiol, yn nt;hyd a'r dyfarn- iadiu a roddid mor ofalus a lei niadol, ac nid pentyriad o ganmoliaeth digymysg. Credaf fod hyn oll yn beth na welid mewn unrhyw wlad arall. Peth arall a'i tarawodd oedd yr " Orsedd," a gynelid yn yr awyr agored, am fod traddodiad cyffredinol yn gofyn hyny ; ac am a wyddai ef, o dan benyd ymidangosiad ysbrydion yr hen Dderwyddon oni chynelid hi felly. Teimlai ef wrth edrych ar y seremoni fel pe b'ai wedi ei gipio yn ol i'r drydedd ganrif; ac i wneud yr amgylchiad yn fwy dyddorol iido, gwelwyd ef y tuallan i'i dorf, arweiniwyd ef i mewn i'r cylch cysegredig, cyflwynwyd ef i'r Archdderwydd, ac urddwyd ef yn Ofydd. Oddiar y daeth adref yr oedd wedi siarad llawer am byn. Hoffai weled Gaeliaid yr Ucheldiroedd yn cymeryd dalen o lyfr y Cymry. Yr oedd ganddynt hwy eu cynulliadau blynyddol, ond nid oedd yn y rhai hyny gystad'euaethau o nodwedd mor uwch- raddol ag eiddo yr Eisteddfod. Arferai pobl fychanu y cynulliadau cenedlaethol hyn, a dy- wedent mai trueni o'r mwyaf oedd eu cefnogi. Meddyliai ef mai tyb annheilwng o dlynion oedd un felly. Yr oedd yn anmhosibl diwreiddio teimladau cysylltiedig a phethau cenedlaethol fel hyn. Nid oedd y dyn hwLW o fawr gwerth yr hwn nad oedd yn feddianol ar serch at y fangre lle ei magwyd, at ei bobl, ac at yr iaith a ddysgodd gyntaf; wnai dyn o'r fath hyny fawr daioni, ac ni allai ddyfod yn mlaen yn y byd am ei fod yn amddifad o'r brwdfrydedd oedd yn angenrheidiol i lwyddiant priodol. Yna aeth y Proffeswr yn mlaen i ddangos y fantais i wlad fel Prydain Fawr oedd y teimlad cenedlaethol mewn gwahanol ranau o honi; ac ar ol llongyf- arch y mjfyrwyr ai eu dychweliad i'r Brifysgol i ddwyn yn mlaen eu hastudiaeth, am a wyddai ef; ychv anegodd, yn ei ddull cellwehus dihafal, fod ganddynt amcan gwahanol iawn, a barnu oddiwrth anei chiad y cadeirydd. Gyda llygaid yn fflamio ffug-ddigofaint, dywedodd, —" Yr ydych yma ar yr esgusawd o fyfyrio yn y Brif- ysgol, ond byddin ymosodol ydych, yn ceisio euill yn ol eich hen diriogaethau a pyru allan y boblogaeth huit ac anwybodus bresenol." Yna cynghorodd ei gj feillion ieuainc i gadw yn mysg y boblogaeth anffodus yr arfaethent ei darostwng y tri pheth y dylai y Cymro bob amser fod yn barod i farw drcstynt—<: ei wlad, ei enw da, a'r gwir, beth bynag fyddo."