Skip to main content

Cyv. X.—Rhiv. 11.—Taohwedd, 1890. CYVATLL YR AELWYD: MORYS Y GLYN. Gan Eliis o'b Nant. ÎUA chanol a therfyn y ganrìf ddiweddaf, preswyliai wmbredd o hen gymeriadau tra hynodynrhanauuchafNantConwy. Nid yw hen yn dwyn ei ystyr gysefin o oedranus yma, ond defnyddir ef, fel y gwneir yn fynych yn y cymoedd hyn, i olygu rhyw neillduolrwydd, anwyldeb, neu hynodrwydd yn y cymeriadau y cysylltir y cyfryw ag ef. Yr oedd y trigolion yn deneu—ychydig am- amaethwyr, a'r rhai a weithient yn ngwaith mwn Nant Bwlch yr Heiyrn, ac yn y Ffridd Redyn. Nid oedd ond ychydig dyddynod yn yr holl wlad, y rhai oeddent yn gynwysedig o lan- erchi wedi eu harloesi yma a thraw. Fe bre- swyliai yr ychydig drigolion mewn mân fythod, y rhai oeddent wedi eu hadeiladu ar hyd y llech- weddau o bob tu i'r afonydd, y ffrydiau, a'r cor- nentydd o Lanrwst i fyny, gan gymeryd i mewn y cymoedd a'r agorfeydd ar bob llaw, i diriogaeth Ffestiniog. Nid oedd y meddylddrych o adeil- adu preswylfeydd neu fythod yn un " clwstwr," fel y dywedai hen bobl, fel ag i wneud i fyny yr hyn aelwir pentref, yn cael y cyfryw gefnogaeth yma yr adeg foreu hono ag a gaffai mewn lleoedd eraill. Lledaenid y bythod ar hyd yr ochrau, yn mhell oddiwrth eu gilydd, gan ofalu i'r pellder fod yn mhell yn ngwir ystyr y gair. Enwai pob un ei fwthyn yn gyfunwedd a rhyw fympwy a'i meddianai ar y pryd, ac yn fynych i esbonio rhyw anffawd, trallod, neu aflwyddiant a'i cyf- arfu mewn bywyd. Byddai yr enw a roddai pob un ar ei gabandy y dyddiau hyny yn gosod allan ryw hanesiaeth mewn cysylltiad a'i fywyd llawen neu bruddaidd. Dyna y " Oae Helbul," "Cae Du," "Hafod Alddu,""Tai Hirion," "Cwm Pen-amnen," " Bryn Tirion," "Bryn Dedwydd," a rhai degau eraill a ellid enwi,—yr oll wedi eu henwi o herwydd rhesymau Ueol. Yr oedd pobl yn fwy gwreiddiol-feddylgar ac ystyriol yn y dyddiau gynt nag j n ein dyddiau ni. Mae hyn i'w gyirif i'r dygiad i fyny a roddid iddynt. Nid oedd dim un math o addysg heblaw ychydig yn yr ysgolion a gynelid gan glochydd- ion, hen borthmyn wedi tori, cyllidwyr wedi af- radu eu bywioliaeth, a rhai eraill wedi methu yn ngyrfa eu bywyd ; na chymdeithas heblaw nos lawen, a Gwylmabsant. Preswyiiai pob un ar ei ben ei hun, a ffurfiai ei gymeriad ei hun. Ni ddylanwadai neb arall arno mewn un wedd i'w wneud na gwell na gwaeth can belied ag yr oedd fyno cymdeithas a hyny. Gallasai pob un arfer geiriau yr Apoatol nid mewn un wedd, ond mewn dwy wedd. Nid yn unig gallasii pob un o honynt ddweyd, " Ni lygrasom ni neb,'" ond " ni wnaethom ni neb yn well na gwaeth er pan anwyd ni i'r byd, am fod ein sefyllfa neillduol ac alltudiedig yn ein gosod tuallan yn llwyr i gymdeithas. Mae pob un o honom, o ganlyniad, wedi ffurfio i fyny ei gym- eriad ei hunan, yn rhagoriaetb.au a diffygion." Yr oedd Uawer mwy o wahaniaeth rhwng y naill ddyn a'r llall yr oes o'r blaen nag yn yr oes hon, a llawer mwy yn yr oes cyn hyny. Fel y Uuosoga y trigolion ac y cynydda manteision addysg, fe leiha y gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall, yn yr arferion gwladol, cymdeithasol, moesol a chrefyddol. Daw y naill yn debyg i'r llall yn mhob peth. Ond am Morys y Glyn, un o hen gymeriadau rhyfedd yr oes o'r blaen, yr ydys yn myned i draethu. Treuliodd oes o hen-lancyddiaeth, a bu yn cydoesi a " Rhys y Greiglan " a " Chadwalad yClogwyn," a chawn y byddai cryn dipyn o gymdeithas rhwng y tri; ond nid cymaint a wnai â Ohadwalad ag a wnai â Rhys. Yr oedd yma yn cydoesi, ac agos yr un oed, lu mawr o gymeriadau hynod, a'r oll yn hen lanciau. Lle hynod am ddwyn i fyny hen lanciau ydyw y rhanau hyn o Nant Conwy. Mae hyny i'w bri- odoli, fe allai, i ry w effeithiau anianyddol yn y tir. Mewn tyddyn lle y byddai wyth neu naw o feib- ion gan dyddynwr, cawn mewn lluaws o engh- reifftiau na fyddai un o'r oll yn priodi. Un o'r cyfryw oedd Morys y Glyn. Gelwid ef felly am mai yn Glyn Lledr, gerllaw Pont Gethin, yr ar- ferai yn wastad weithio fel pen gwas. Yr oedd yn ddyn o adeiladwaith gref, ac yn meddu mwy o allu cyhyrol na nemawr un ya ein dyddiau ni. Yr oedd dyn yn dangos i mi drawst deri mewn hen adeilad a adnabyddir wrth yr enw " Ty Sion Llwyd," yr hwn a fesurai saith troedfedd betryal. Bâchwyd dau geffyl wrth y pren dan sylw gyda'r bwriad o'i lusgo i fyny ar waliau y ty yr bwn oeddid yn adeiladu. Yr oedd cryn belider rhwng lle yr oeddid wedi tori y pren, yn ymyl afon Lledr a'r anedd-dy—y tir bob cam yn un ar i fyny, os dywed hen bobl. Ar ol Uusgo yn galed am ysbaid, nagiodd y ddau geffyl; ni ellid cael ganddynt, er chwipio, curo, a dondio, yswigio dim. Yr oedd Morys yn mhlith y jlu, ac wedi colli ei amÿnedd yn llwyr. " Dadfachwch y ceffylau," llefai, f* a rholiwch y pren ar fy nghefn i o ben ÿ dorlan acw," . ;} j.._