Skip to main content

Ctv. X.—Rhiv. 10.—Hydbef, 1890. CYVATLL YK AELWYD: YMWELIA.D A'R MYNWENTYDD. Gan Tysilian, Llundain. 0 ! Fynwent brudd, mae ei gwyrddlas ruddiau Yn llen gyfunol llawn o gofianau ; Ac anadl lethol ei genedlaethau Er gwae iselwyd i'w hoer geseiliau ; Ar isel wedd yr oesau—mewn dull c'oedd Ar dorlan ingoedd, ceir darlun angau.—Glan Teuwyn. JYBIAF mai nid anfuddiol ydyw i ni, y rhai byw, roddi tro ambell waith i gar- trefle y meirw ; a chyda chaniatâd y dar- llenydd hynaws, âf ag ef am ychydig amser i ymweled a dwy gladdfa yn Dinas, Sir Benfro. Un prydnawn teg yn mis Gorphenaf diweddaf, cefais fy hun yn y llanerch hon, ac yn cyfeirio fy nghamrau tua glan y mor. Chwythai yr awelon yn dyner dros y wlad ; canai yr adar eu mawl- gerddi oddiar gangau y coed ; a swniai hen Neifìon ei anthem dragywyddol i'r Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd fry. Arweiniai fy llwybr i Gwm-yr-Eglwys—llanerch sydd wedi ei han- farwoli gan Mynyddog yn ei gân i'r " Fynwent yn ymyl y Mor." Mae desgrifiad y bardd o unigrwydd a thawelwch y fan mor gy wir, fel nas gallaf lai na'i roddi i'r darllenydd :— " Yn ngwaelod y glyn rhwng y creigiau Bron allan o olwg pob dyn, Mewn perffaith unigrwydd drwy'r oesau Fel gwely marwolaeth ei hun ; Fan hono mae maes cysegredig Sy'n wastad dan lygad yr Ior— Fan hono mewn congl fach unig Mae'r fynwent yn ymyl y mor." Ar un ochr i'r cwm mae darn o dir a elwir yr Ynys ; ac er nad yw y mor yn ei amgylchu yn bresenol, y farn gyffredin ydyw fod yr afon sydd yn ymarllwys i'r mor yn Nhrefdraeth, wedi bod ar un adeg yn llifo drwy y cwm hwn i'r mor yn mau Abergwaun. Nid oes dim o'r eglwys yn aros ond y mur gorllewinol; ac mae y fynwent mewn cyflwr adfeiliedig iawn. Mae ystormydd blynyddoedd wedi malurio y cofgolofnau, ac wedi gwneuthur yr argraffiidau yn annealladwy. Mae yma aml i " Gareg arw a dwy lythyren Dorodd rhyw anghelfydd Iaw Gyd-chwareuai ag e'n fachgen, Wedi hollti'n ddwy gerllaw." Tyf y glaswellt dros y twmpathau, a thaena y pysgodwyr eu rhwydau ar hyd y lle. Mae yr Failwys wedi ei symud er ys blynyddoedd yn mhellach oddiwrth y môr; ac fel canlyniad i ddyngarwch yr ardalwyr, mae mur cadarn wedi ei godi er atal y môr i aflonyddu ar esgyrn y rhai sydd yma yn drwm eu hûn. Gadawn ar hyn y gladdfa yn ymyl y môr, ac awn am dro i Macpelah, sef y gladdfa berthynol i gynulleidfa y Bedyddwyr yn Tabor. Saif hon ar y llaw chwith, ychydig bellder o'r brif-ffordd sydd yn arwain o Aberteifi i Abergwaun. Oddi- wrth argraffiad sydd ar y mur tuallan i'r fynwent, deallwn ei bod yn dwyn yr enw uchod oddiar 1834. Awn i fewn. Yn union ar y llaw ddeheu mae beddfaen mor- wr gyda'r penill eanlynol:— " Llawer ton uchelfrig foriais, Llawer storom enbyd gwrddais ; Ond aeth heibio'r storom ola', 'Nawr gorphwysaf yn Macpela.'" Gobeithio bod hyn yn wirionedd mewn rhagor nag un ystyr; fod ei enaid mewn heddwch â Duw, yr hyn a'i dyogela rhag y storom fawr yn nydd ei ddigter Ef. Ar ol ystormydd haner canrif mae yr englyn canlynol yn aros ar feddfaen morwr a foddodd yn ymyl Ramsey Island, yn Ebrill, 1835 :— ' Oeir sail cofadail cyfodir—y meirw O'r moroedd fe'u cesglir; Tyrau mynwentau yn wir, Drwy'r eigion draw a rwygir." Llawer mynwes archollwyd ; llawer deigryn dywalltwyd pan ddaeth y newydd i'w gartref ei fod yn gorwedd yn ngwaelod y dyfnder dig. Ond er dianc o afael cynddaredd y don, nid oes diangfa o diriogaeth brenin braw, fel y dengys y llinellau canlynol ar fedd bachgen ieuanc a fu faiw yn bedair-ar-ugain oed yn Nghaerdydd :— " Dros donau mawrion moriais, A hwyliais uwch y lli, Trwy 'stormydd a thymhestloedd A moroedd aethum i; A dyma'r man gorweddaf I gysgu'r hun mewn hedd, Hyd fòreu'r adgyfodiad, Pan ddof i'r lan o'r bedd." Tybed fod rhyw ddylanwadau o fyd yr ys- brydoedd yn aflonyddu meddwl priod gwraig