Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyv. X.—ftmv. 9.—Medî, 1890. CYVAILL-YK AELWYD: CYFUNDREFNAU ADDYSGOL YN NGHYMRU. Gan Db. Isambaed Owen, M.A. (Papyr ddarllenwyd o flaen y Cambrian Society of South Wales and Monmouthshire, Mawrth 7/edt 1890). N y blynyddoedd nesaf, bydd cyfleusdra o natur anarfèrol yn agor o flaen ein gwlad. Yr ydym yn awr yn dechreu ar y gwaith o ad drefnu ein holl gyfundrefn add- ysgol. 0 fewn y deng mlynedd diweddaf, yr ydym wedi teithio yn gyflym tua'r cyfeiriad hyn. Ers deng mlynedd yn ol, yr unig arwydd allanol o'r llosg-fynyddoedd ar dori allan oedd yr adeilad godwyd gan Syr Hugh Owen yn Abery stwy th. Mae llai na deng mlynedd er pan roddwyd yr arwydd i fyned rhagom gan benod- iad Dirprwyaeth Arglwydd Aberdar. Dim ond wyth mlynedd sydd er pan yr oedd Mr. Jones- Davies a'r Proffeswr Powel yn llefaru yn ofer yn yr anialwch yn erbyn y ffolineb o anwybyddu iaith gynbenid y plant yn ein hysgolion elfenol. Yn awr gwelwn nifer o Golegau y Brifysgol mewn Uawn waith, ffermwriaeth yn cael ei chy- meryd dan adenydd un, a pheirianaeth a medd- ygaeth, mi obeithiaf, i fod yn fuan dan ofal un arall. Yn mhen ychydig fisoedd, bydd y diwygiad mewn addysg elfenol, dros yr hwn yr aberthodd Dan Isaac Davies ei fywyd, yn ífaith gyflawn- edig. Cliriwyd y clawdd gwaethaf yr haf di- weddaf pan ddaeth Byl Addysg Ganolraddol yn ddeddf, a gallwn yn hyderus ddysgwyl y bydd Prifysgol Oymru, heb fod yn nepell, yn gwasan- aethu fel y trefnydd angenrheidiol i ddwyn holl wahanol ddarnau ein peirianwaith addysgol i gydweithiad cydgordiol a'u gilydd. Ond na foed i ni dybied fod y cwbl wedi ei orphen pan sefydlir y Brifysgol. Yn mhell oddi- wrth hyn. Bydd gan y sawl yr'ymddiriedir iddynt y trefniadau mewnol, o'r cychwyn waith cyfrifol a phryderus. Effeithir ar bob sefydliad addysgol yn Nghymru, o'r ysgol elfenol i fyny, gan ofynion y Brifysgol Gymreig. Bydded i ni gyfrif y buddianau a'r uchelgeisiau gynrychiolir yn ein plith gan y sefydliadau hyn, ac yna syl- weddolwn i ba raddau y dylanwedir ar ein bywyd cenedlaethol gan y Brifysgol, ac i'r fath gorawd amrywiol y bydd rhaid iddi roddi y cy- weirnod. Ac at y cyweirnod yma yr wyf am gyfeirio fy sylwadau pellach. Hyderaf na fydd i'n Prif- ysgol ymgeisio am ryddhad o'i dyledswyddau yn y gwaith rhwydd o osod ifyny efelychiad canolig o fyfyrgylch Seisnigaidd, neu Ysgotaidd, neu Ellmynaidd ; ond y bydd iddi fanteisio ar y cyf- leusdra gwerthfawr o'i blaen, ac ar y cymeriad cynrychioliadol y bydd yn debyg o wisgo, i feddwl allan drosti ei hun yr holl gweetiwn add- ysgol, ac i wneud y myfyrgylch Cymreig yr hyn ddylai fod, yn esiampl o addasrwydd, cynildeb, ac effeithiolrwydd. Byddai cynyg traethawd cyflawn ar addysg gymaint tuhwnt i'm gallu ag y byddai tuhwnti'r amser sydd at fy ngwasanaeth; nis gallaf obeithio cyffwrdd a dim ond y rhanau amlycaf. Yn wir, gyda llawer o wyleidd-dra yr anturiaf ymdrin a'r cwestiwn o gwbl, a hyny mwy gyda'r amcan o 'dynn allan syniadau pobl eraill nag i amiygu fy eiddo fy hun ; ond, o leiaf, ni fydd y syniadau fynegir genyf yn eiddo person hollol anghyfarwydd. Yr wyf wedi bod am ryw ddeu- ddeng mlynedd bellach yn ymwneud yn ymar- ferol a'r gwaith o addysgu eraill. Mae y testun wyf yn ymwneud ag ef yn un sydd yn galw allan wahauol alluoedd meddyliol, ac mae fy nysgybl- ion yn ddynion ydynt eisoes wedi pasio drwy eu hysgolion, ac, mewn llawer amgylchiad, wedi gorphen eu cwrs yn y Brifysgol. Bydd yr ys- tyriaethau osodaf o'ch blaen gan mwyaf yn ffrwyth uniongyrchol profiad personol yn yr Ysgol Feddygol, lle y dygir i brawf ymarferol rinweddau a diffygion y cyfundrefnau presenol o addysg. Dysg yw y prif offeryn ddefnyddir mewn addysgiaeth, a gellir ei ddefnyddio gyda dau amcan gwahanoi, sef uniongyrchol ac anunion- gyrchol. Gallwn ddysgu, ar y naill law, er mwyn y wybodaeth ei hun, yr hon ellir ei throi at ein hamcanion drachefn mewn lle arall; neu gallwn ddysgu, heb ystyried y ddysgeidiaeth, er mwyn y ddysgyblaeth feddyliol enillir yn y gwaith o ddysgu. Y ddyssybiaeth feddyliol yma, a'r hon yn benaf a ymdriniwn yn awr, y w yr un sydd yn galluogi ei pherchenog i ddadrys dyrys bynciau bywyd ymarferol. Wrth gwrs, nld yw yn bosibl tynu llinell rhwng testunau addysgol ag sydd iddynt amcan- ion uniongyrchol. Mae pob cangen o addysg yn cyfranogi i ryw raddau o'r dda* gymeriad. Nid oes yr un wybodaeth mor ddofn nes bod yn hoilol ddifudd ynddi ei hun, ac nid oes ychwaith yr un dull o ddysgu mor beirìanol fel na ddysg- yblir rhyw allu meddyliol wrth ei ddyoddef. Er hyny, rhaid i'r amcan dyblyg fod bob amser o flaen meddwl yr athraw, os dymuna roddi cyf- rif dealladwy o'i ddull o weithio. Nid yw hyd y nod y testunau elfenol, Darllen, Ysgrifenu, a Rhifyddu, y rhai a ffurfiant sylfaen addysg ddiweddar, er y dysgir hwynt yn benaf er amcanion llesgeisiol, wedi'r cwbl heb gyfran