Skip to main content

Cyv. X.-Khiv. 8.—Awst, 1890. CYYAILL • YR • AELWYD: MYNYDDOG Gan Watcín Wyn. (Papur ddarllenwyd o flaen Cymrodorion Gaerdydd). ŵjrpAN addewais ddarllen papur ar " Un o'r jjÇty Beirdd Cymreig" o üaen Cymiodorion «^o^ Caerdydd, ychydig iawn feddyliais i y buasai mor anhawdd cael gafael ar yr un hwnw. Nid am fod prinder beirdd, ond am fod cymaint o honynt; nid am nad oedd un i'w gael, ond am fod llawer i'w cael, a phob un o honynt cystal a'r llall, a gwell hefyd. Bum yn petruso rhwng y beirdd byw a'r beirdd meirw—nid y beirdd byw a meirw ffigyrol, ond Uythyrenol. Y mae yna, ysywaeth, feirdd byw a meirw yn cerdded y tir heddyw. Barnasom mai gwell oedd gadael llonydd i'r beirdd byw, rhag ofn i hyny fod yn achos i ni gael ein rhifo gyda'r meirw yn gynt na phryd. Buom yn meddwi am lawer un yn mysg y rhai byw, yn y De ac yn y Gogledd ; ond barnasom mai gwell oedd gadael iddynt hyd nes y byddom ychydig yn mhellach oddiwrthynt, er cael gwell mantais i farnu yn deg. Buom eilwaith yn petruso rhwng yr hen a'r diweddar. Y mae y ddau air hen a diweddar yn agor dau faes dyddorol a thoreithiog iawn i nl Wedi petruso am hir amser, daethom ì'r peuder- fyniad mai un o'r rhai diweddar oedd yr un y buasem yn ceisio dweyd gair arno. Wedi penderfynu yn nghylch y byw a'r meirw, yr hen a'r diweddar, y peth nesaf oedd pwnc y lle—y Gogledd neu y De. Bu amser, fe ailai, pan fuasai yn eithaf hawdd penderfynu y cwestiwn yna, oblegid nid oedd son am feirdd ond yn y Gogledd ; ond er ys blynyddau bellach, y mae Gogledd Cymru wedi d'od i wybod a theimlo fod yna feirdd yn y De. Wedi penderfynu yn nghylch y byw a'r meirw, yr hen a'r diweddar, y Gogledd a'r De, y peth nesaf oedd, Bardd o ba ysgol 1 Yr hen neu y newydd ì Y caeth neu y rhydd ? Wrth drafod y beirdd, y mae pwnc yr ysgol yn bwnc tra phwysig. Fwy nad yw yn gwybod am bwnc y mesurau î Gallem feddwl fod pawb yn gwybod, cnd, yn wir, ychydig iawn sydd. Pwy nad yw yn gwybod am bwnc yr awdl a'r bryddest? Gellid meddwl fod llawer, er mai ychydig ydynt. Fel y byddo gwybodaeth am y pethau hyn yn cynyddu, credwn y bydd ymryson yn eu cylch yn diflanu,—caiff pob un gauu yn y caeth neu y rhydd ; ac os na fydd yn gallu canu yn y ddau, ni chaiff ei gyfrif yn deilwng i ganu o gwbl; rhaid iddo dewi, a bod yn fud. Wel, dyna rai o'r anhawsderau y buom yn ceisio tynu drwyddynt wrth geisio cael gafael ar un o'r beirdd Cymreig. O'r diwedd, syrthiasom ar enw un, er ei fod wedi marw, sydd eto yn fyw yn nghof ei genedl. Un nad oedd braidd yn perthyn mwy i'r Gogledd nag i'r De, ond un rhwng y ddau. Un yn deall y ddwy ysgol yn dda—wedi bod yn astudio yn mhob un o honynt, er fe allai, fod ei ogwydd a'i gân yn fwy at y newydd ; er hyny, yn anwyl gan hen a newydd, yn ffafryn yn Ne a Gogledd, sef y diweddar Mynyddog. Y mae yna gymdeithasau, a chlybiau, ac ys- golion, a chyfeillion, ac edmygwyr beirdd. Mae y Browning School yn Lloeyr yn cydio yn nwy- law eu gilydd wrth geisio dilyn y bardd hwnw yn y niwl. Ac yn wir, mae rhywbeth swynol a phrydferth iawn yn llwyd oleu y niwl, ond peidlo ei gael yn rhy dew : y mae dynion megys prenau yn rhodio ynddo—ac yn wir, lawer pryd, prenau megys dynion. Y mae ychydig niwl yn fantais fawr i ro'i gwedd ysbrydol ar bobpeth—y mae yn paentio gwrthddrychau cyffredin fe) ysbrydion ; ac os yw yn gwneuthur y mawr yn fychan—os yw yn darostwng y mynydd—y mae ganddo y fantais o wneud y bychan yn fawr. Islwyn, fe allai, yw tad y niwl yn Nghymru, ac y mae wedi rho'i liiw hudolus a llun mawreddog i lawer o'i ddarluniau llwyd-oleu a phrydferth. Y mae Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn rhestru dysgedigion Cymru yn mhlith ei hael- odau, ac y mae yna rai heblaw beirdd wedi cael agoriad llygaid i ddarllen pethau rhyfedd o " gy- wyddau "—wel. bu agos i mi ddweyd cywyddau meinion Dafydd ap Gwilym, oblegid un main y w cywydd, gwnewch a fynoch o hono ; ond rhaid i ni addef fod ambell gywydd, er yn fain, yn wydn ac ystwyth. Nid ydym yn gwybod fod yna " Mynyddog School," ond ysgol y werin. Nid ydyin yn gwybod am "Gymdeithas Mynyddog," ond cym- deithas ein cenedl ni. Nid ydym yn gwybod am " glwb " ar ei enw ond y clwb mawr i'r hwn y perthyn merched a bechgyn Cymru—cyn ac wedl priodi. Fe allai mai yr anffawd gyda Mynyddog, na byddai clwb ar ei enw, yw—nad oes eisiau help i'w ddeall—nad oes eisiau esboniadau i'w egluro —nad oes eisiau dysgedigion a beirniaid i alw ein sylw at ei brydferthion cuddiedig. Yr oedd yn ysgrifenu mor eglur ac mor fras fel y gallai yr hwn sydd yn rhedeg ei dd irllen. Hyderwn na fydd yr " oes a ddel" ddim mor fyr ei golwg i ddeall barddoniaeth nes y ihaid iddi gael help o'r clwb i geisio deall Mynyddog. Cadwed ein hadnoddau cenedlaethol ui ìhag myned ar y