Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crv. X.-Rmv. 7.—Gobphenap, 1890. CYVAILL • YR • AELWYD: STANLEY: EI GARIADON, EI ANTURIAETHAU, A'I FFYDD. BOSIBL yr ystyrlr gan bawb mai H. M. Stanley—fei yr adwaenir y Oymro John Rowland yn awr—yw y person enwocaf yn y byd ar yr adeg bresenol. Mae ei anturiaethau rhyfedd yn nghanolbarth Affrica, y dewrder a'r penderfyniad yn mron digyffelyb a'i dygodd yn ddyogel drwyddynt oll, a'i ddychwel- iad o dywyllwch barbariaeth i oleuni gwareidd- iad pan oedd yr holl fyd megys ar fiaenau eu traed yn dysgwyl am dano, gyda'u gilydd yn cynorth- wyo i'w osod ar ben pinacl sylw y cyhoedd. Yn ngwyneb hyn, mae pob ffaith yn nglyn a'i sym- udiadau presenol a'i hanes blaenorol yn meddu dyddor- deb i bawb, ac, mewn can- lyniad, mae yn rhaid iddo yntau dalu y dreth sydd yn gysylltiedig a bywyd cy- hoeddus, a dyoddef gweled pobl yn holi i fewn i ranau o'i hanes ystyrid yn gysegr- edig rhag cywreinrwydd y byd pe b'ai yn ddyn dinod. Yn nglyn a'i garwriaeth, mae dyddordeb mwy na'r cyffredin yn cael ei deimlo. Gwyr pawb bellach ei fod ar fedr priodi, ac ar fedr priodi Oymrae8 dalentog, ond ni wyr pawb ei fod yotau, fel llawer truan arall, unwaith wedi eael ei siomi mewn hynt garwr- iaethol, ac fod y twyll gafodd ef y pryd hwnw wedi suro cryn dipyn arno, a'i gymell i regu y rby w deg yn ^yffredinol. Gan y gall y ddau beth yma fod yn miss tennant. newydd i ddarllenwyr y Owaill, gosodir hwy yma, gyda'r eglurhad mai yr awdurdod am yr hanes o'i garwriaeth siomedig gyntaf, a'r amgylchiadau cysylltiedig a hyny, yw Mr. F. G. de Fontaine, cyd-lafurwr ag ef ar y New York Herald. Ei Gajsweiaeth Gyntaf. Wele yr hyn ddywed Mr. de Fontaine:— Pan ddychwelodd Stanley o'i daith gyntaf i Affrica, ac y cyhoeddodd ei lyfr, " Y modd y darganfyddais Livingstone," edrychid arno (.gan ddosbarth neillduol o'r Wasg Americanig fel twyllwr, ac awgryment mai ffug oedd y dargan- fyddiad honedig. Gwyddem ni, y rhai a ad- waenem y dyn, well na hyn ; ond nid oes am- heuaeth na ddarfu i'r ymosodiadau bryntion hyn ar ddyn oedd wedi bod mewn enbydrwydd parhaus am dair blynedd chwerwi cryn lawer ar ei deimladau. Ni leihawyd y chwerwder yma gan ei fethiant yn ei ymgyrch areithyddol, methiant ellir i gryn raddau ei briodoli i'r ymosodiadau y cyfeiriais atynt. Eto rhaid cydnabod nad oedd yntau ar y pryd hwnw yn feddianol ar y gallu i wneud siaradwr cyhoeddusllwydd- ianus. Nid oedd yn fedd- ianol ar y gallu atyniadol hwnw sydd mor werthfawr i'r areithiwr. Ymdriniai â'i destyn—ei deithiau yn Affrica—mewn dull daear- yddol, ystadegol, a sych, ac mewn canlyniad, teim- lad siomedig oedd y mwyaf cyffredin yn mhlith y rhai wrandawent ei areithiau. Ond os oedd yn fethiant ar y llwyfan, yr oedd yn arwr mewn cymdeithas, a cheisid ei gwmni yn nhai diuasyddion blaenaf Efrog Newydd. Ond yma eto yr oedd rhywbeth yn y dyn a rwystrai iddo fod mor bobl- ogaidd ag y dysgwylid iddo fod. Yn nghanoí torf o foneddesau a boneddigion, yr oedd yn betrusgar a braidd yn yswil, tra y byddai yn nghymdeithas ychydig o'i gyfeillion yn fywyd y cwmni, yn siarad yn hyf ac yn swynol dros ben, ac yn rhoddi i bawb a'i clywai fwynhad nad ydynt yn debyg o'i anghofio. Yr oedd yno un ty yn Efrog Newydd lle yr oedd yn ymwelydd cyson a grwresawedig, a lle yr hoffai yntau fynychu yn amlach nag un ty aiall. Yr oedd y ty hwn yn gartref i eneth brydferth tua dwy ar nugain oed, dynes goethedig, synwyr- gall, a swynol, tu hwnt i ferched yn gyffredin, ac yn gyfoethog iawn. Syrthiodd Stanley droa ei ben a'i glustiau mewn cariad â hi, ac ym-