Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cvv. X,—Rhiv. 6.—Meiief™, 1890. CYYAILL • YR ■ AELWYÜ: URDDAS LLAFUR. Gan y Parch. Charles Dayies, Oaebdydd. EAE yn amlwg fod dynion wedi eu bwriadu i lafurio, ac nis gall y byd ymgynal heb hyny. Rhaid i'r rhan fwyaf o ddynion weithio â'u dwylaw er cael bywioliaeth; ond rhaid i bawb weithio ryw ffordd neu gilydd os am fwynhau bywyd. Gall rhai, oblegid anallu a gwendid naturiol, gael eu hesgusodi rhag goruchwylion caled, ond nis gall y rhai hyn fod yn gwbl segur, os yn weddol iach, heb golled i'r cyhoedd ac anfantais iddynt eu hunain. Rhaid yw i'r byd wrth lafur cyson a chyffredinol. Y mae angenrheidiau bywyd yn gofyn llawer o lafur, ac y mae cysuron bywyd yn gofyn mwy. Gallasai y Goruchaf, pe gwelsai yn oreu, gynal y byd heb lafur dynion ; gallasai wneud y fath ddarpariaeth ar ein cyfer ag a fuasai yn diwallu ein holl raid heb i ni wneuthur dim tuag .t hyny. Gallasai natur gael ei gwneud mor gyfoethog a ffrwythlawn íel ag i beri fod celfyddyd yn ddiddefnydd, a llafur yn ddiangenrhaid. Y fath fyd braf a fuasai un felly i segurwyr dioglyd ! Ònd y mae yn amlwg na leddyliodd yr Anfeidrol Fod am fywyd na byd i'w bath. Byd ar gyfer creadur- iaid gweithgar a wnaeth Efe ; ac os oes lle yn rhywle wedi ei fwriadu i rai diog, mae yn amlwg ddigon nad oes dim lle iddynt yma. Yr arddangosiad goreu o'r hyn yw y byd yma i fod, ydyw yr hyn a geir ei weled o gwmpas y cwch gwenyn, neu y twmpath morgrug,—bywyd a gweithgarwch diflino yn llenwi bob man. Gwaith i Bawb a Phawb i Weithio. Gellir edrych ar y geiriau henafol,—" Trwy chwys dy wyneb y bwyti fara" fel ymadrodd ffigyrol, gwirionedd yr hwn sydd yn aros yn berffaith yn awr fel yn y dydd y llefarwyd ef gyntaf. Pwy bynag a geisio dori y ddeddf hon, y mae efe yn yrndrechu yn erbyn holl nerthoedd natur, ac yn sicr o gael teimlo ei bod yn drech nag ef. Yn brydferth iawn, y mae y meddyg enwog, Dr. Richardson. yn gosod yn ngenau natur y cyfarchiad canlynol i blant y ddaear :—•" Yma," meddai, gan osod y ddaear allan fel math o ardd fawr, " yma y mae y maes mawr i'ch llafur. Eich eiddo chwi ydyw i ddarganfod a gorchfygu hyd i'w derfynau eithaf o for a thir. Gwnewch ef, os mynwch, yn ardd o oludoedd, a phleser ac hyfrydwch, oblegid eich eiddo chwi ydyw hefyd i'w fwynhau. Rhaid i rai o honoch yn y maes hwn i arolygu a Uywodraethu ; rhaid i rai ddysgu yr anwybod- us ; rhaid i rai ofalu am yr egwan a'r claf; rhaid i rai wneud a dyfeisio offerynau newydd- ion at waith, a chael allan ffyrdd newydd o drawsf'udiad o le i le ; rhaid i rai amaethu ; rhaid i rai gloddio i lawr i'r ddaear i gael hyd i drysorau newyddion ; rhaid i rai ail greu y creuedig, a dwyn allan ffurfiau o brydferthwch naturiol ar gareg a chynfas a lona y llygad, ac a siriola y galon ; rhaid i rai fod yn drysoryddion ac yn ddosbarthwyr celfyddgar o'r cyfoeth a dỳn y llafurwyr o'r ddaear ; rhaid i rai fod yn ysgrifenyddion i wylio a chofnodi y gwaith a wneir, er i oesoedd eraill gael ei ddarllen ; rhaid i rai ganu caneuon, neu adrodd hanesion, neu ddwyn i'r golwg fywyd y gorphenol, er gorphwysdra a dywenydd y gweithwyr o bob dosbarth ; rhaid i rai olygu holl faes y llafur, a dysgu oddiwrth sylwadaeth y gwersi hyny o foesoldeb, o iechyd, ac o ddaioni, y rhai a ddengys sylwadaeth fel y gwersi goreu i fod yn rheolau bywyd, a bywyd pawb. Ond rhaid i bawb weithio ; nis gall yr holl genedlaeth o lafurwyr, bydded gymaint ag y b'o, weithio fel ag i leihau llafur y genedlaeth a ddaw ar ei hol. Gwybodaeth newydd, llafur newydd, cyf- rifoldeb newydd."— (Good Words, 1786, p. 570.) Dyna gyfarchiad Natur i'w phlant fel ei deonglwyd gan y galluog a'r manylgraff Dr. Richardson ; a diameu genym ei fod yn agos i'w le, oblegid fel y dywed efe yn mhellach, a siarad am y ddaear fel gardd, " yna y mae, oes ar ol oes, yn aros i'w harolygu, ei chwynu, a'i haddurno. Gall un oes lafurio ei heithaf, a. marw wrth ei gwaith, ac eto bydd yn rhaid i'r oes nesaf wed'yn lafurio a marw. Nid yw yr ardd ei hun byth yn gorphwyso. Mewn cylch- dro cyson, mewn amser a lle, ni wyr am orphwysfa, ac nid yw yn caniatau yr un..... Yn ngardd bywyd, gan hyny, rhaid yw bod unẁersal workfromunẁersal man" GwRTHUN I SeöURDOD. Nis gall neb amcanu at ysgoi y ddeddf gyffredinol hon heb dynu ato ei hun gywilydd a gwaradwydd. Ystyriaeth dra ddifrifol yw fod creadur o alluoedd dyn yn byw yn gwbl ddi- ddefnydd, tra y mae pob peth o'i gwmpas yn llawn gweithgarwch, a phob creadur wrth ei waith,—efe y mwyaf a'r galluocaf o'r holl greaduriaid yn segur a diffrwyth! Y mae y diog yn eithriad yn nghreadigaeth Duw. Trefn y cread oiJ yw defnyddioideb, o'r trychíilyn