Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyv. X.—Rihy 5.—Mai, 1890. CYVAILL YE-AELWYD: HELYNTION EGLWYSIG. Gan y Paech. D. Lewis, Llanelli. II.—DYFODIAD AWSTIN FYNACH, A PHABYDDIAETH. LANIODD Awsüd Fynach yn ynys Phanet yn 596, wedi ei anfon gan y Pab Gregori i ddychwelyd Prydain at Grist- ionogaeth Babyddol. Meddyliodd Gregori am dd'od ei hun, ond, gan iddo gael ei rwystro yn ei fwriad, anfonodd Awstin yn ei le. Dilynwyd gweinidogaeth y mynach gan lwyddiant anar- ferol. Un o ffrwythau cyntaf ei lafur oedd enill Ethelbert, brenin Lloegr, i'r ffydd ; yn ganlynol i hyny, dywedir iddo fedyddio 10,000 o ddych- weledigion yr un dydd. Dilynodd breninoedd parthau eraill yr Ynys esiampl Ethelbert, drwy ymwrthod á Phaganiaeth a chofleidio Cristion- ogaeth. Cofíer mai Cristionogaeth yn ei srwedd Babyddol oedd hon, yr hon a ddirywiodd yn raddol fel nad ydoedd yn nemawr gwell na Pha- ganiaeth. Rhanwyd y wlad yn esgobaethau, a gwnaed Awstin yn archesgob cyntaf Caergaint (Canterbury). Bu farw yno yn y flwyddyn 604. Yn fuan ar ol hyn, ymgollodd yr hen Eglwys Brydeinig yn llwyr yn y Babaeth. Ÿmdrechodd am ganrifoedd yn erbyn dylanwad Rhufain, ond, yn y diwedd, Rhufdn a'r Babaeth a orfu. Dechreuad y Degwm. Cynelid yr offeiriaid a'r esgobion o'r bedwar- edd ganrif drwy ddegymau, y rhai a delid ar y cyntaf yn wirfoddol, ond yn y diwedd a wnaed yn orfodol. Yn y flwyddyn 794 y gwnaed y degwm yn orfodol gyntaf. Dyma oedd yr am- gylchiadau :—Aeth Ethelbert, brenin Dwyrein- barth Lloegr {East Anglia), at Offa, brenin Mercia, i ofyn am law ei ferch. Cythruddodd Offa mor fawr fel y parodd ei lofruddio am ei ryfyg. Yn mhen ychydig, dechreuodd ei gyd- wybod anesmwytho ; ac i wneud penyd am ei weithred ysgeler, gwnaeth ddeddf yn gorfodi pawb o'i ddeiliaid i dalu degwm. Yr oedd wrth hyn yn boddloni yr offeiriaid, pa un a oedd yn llonyddu ei gydwybod ai peidio. Ethelwulf, ar ei ddychweliad o Rufain ár ol blwyddyn o ab- senoldeb, a wnaeth y degwm yn orfodol ar yr holl deyrnas yn 855. Y Babaeth yn Cryfhau. Daeth y Babaeth yn allu cryf a pheryglus yn y wlad. Cymerai yr offeiriaid bob mantais ar anwybodaeth y werin bobl. Honai y Pabau o Rufain awdurdod y teimlid yn hwyrfrydig i'w ganiatau. Nid oedd amryw o'r penau-coronog ond cymynwyr coed a gwehynwyr dwfr, a gwaeth na hyny, i'r Babaeth. Elai yn wrthdarawiad yn aml rhwng y Wladwriaeth a'r Eglwys ; weith- iau, enillid y dydd gan y blaenaf, ac weithiau gan yr olaf. Cymerodd gwrthdarawiad le rhwng William Rufus ac Anselm, archesgob Caergaint. Atafaelodd y brenin lawer o feddianau yr arch- esgobaeth. Yr oedd dau Bab ar y pryd, Urban II. a Guibert; ffafrai yr archesgob y blaenaf, a'r brenin yr olaf. Bu Anselm farw yn 1109, ar ol llanw y swydd o archesgob am ddwy flynedd ar bymtheg. Bu gwrthdarawiad pwysig rhwng Hari II. a'r awdurdodau Eglwysig yn y ddeuddegfed ganrif. Yr oedd Thomas à Becket, er nad oedd ond o ddechrenad isel, eto, ar gyfrif ei dalentau a'i ddysgeidiaeth, yn un o ddynion rhyfeddaf ei oes. Gwnaed ef gan y brenin yn brif weinidog ac yn ganghellydd y deyrnas, ac yna yn archesgob Caergaint. Ar ei ddyrchafiad i'r archesgobaeth, gwnaeth honiadau i awdurdod a llywodraeth uwch nag eiddo y brenin. Arweiniodd hyn i anghydfod barhaodd am flynyddau. Yn y diwedd, aeth Becket allan o'r wlad, a chafodd gydymdeimlad llwyraf y Pab a brenin Ffrainc. Dychwelodd ar gais y brenin, ond Rhagfyr 29, 1170, brad-lofruddiwyd ef gan bedwar o farchog- ion yn Eglwys St. Benedict, Caergaint. Er mai yn anfwriadol y bu Hari yn achos o'r llofrudd- iaeth, cododd y teimlad Eglwysig mor gryf yn ei erbyn fel ei gorfodwyd ef i wneud penyd, drwy fyned yn droednoeth ar bererindod am dair milldir o ffordd at fedd Becket, a chymeryd ei fflangellu â chortynau gan y mynachod yn y Cynondy (Chapter House) Gorph. 12, 1174 Hyd amser y Diwygiad, bu beddrod Thomas á Becket yn gyrchfan pererinion. Dywedir fod cynifer a 100,000 wedi ymweled a'r lle yr un pryd. Canlyniad hyn oedd i'r orsedd gael ei di- raddio, ac i'r Pab gael yr awdurdod yn llwyr mewn materion Eglwysig. Y Chwilys. Yn 1204, dan y Pab Innocent III., sefydlwyd y chwilys—math o lys i brofi hereticiaid, neu bawb nad oedd yn meddu y cydymdeimlad ìlwyraf â Phabyddiaeth. Yr oedd y creulon- üerau a arferid gan y llys hwn yn gyfryw nas gall unrhyw ysgrifell eu darlunio. Dygid y rhai a ddrwgdybid o heresi, neu a wrthodent ddad- guddio eraill, i ddaeargell dywell, i'w profì gerbron y dyhirod a alwent eu hunain yn " dadau santaidd." Cylymid eu garddyrnau yn