Skip to main content

Cyv. X,—Khiv. 4.—Ebbill, 1890. CYVAILL YR-AELWYD: HELYNTION EGLWYSIG. Gan y Parch. D. Lewis, Llanelli. I—DYFODIAD CRISTIONOGAETH I BRYDAIN. Deewyddaeth. ^REFYDD yr hen Gymry, neu frodorion cyntefig Ynys Prydain, oedd Derwydd- iaeth. Rhyw gymysgiad ydoedd Der- wyddiaeth o ddefodau crefyddol y Patriarchiaid a Phaganiaeth. Ymddengys fod y Derwyddon ar y cyntaf yn meddu syniad am y Gwir Dduw, ac am anfarwoldeb yr enaid. Ond fel yr hen geDedl Iuddewig, syrthiasant i ystad o eilun- addoliaeth a llygredigaeth dwfn. Addolent eu hen arwyr chwedlonol, Hu Gadarn, Gwron, Plenydd, ac Alawn ; coedydd, afonydd, ac yn neillduol yr haul. Dywed un hanesydd fod eu heilun-dduwiau mor lìuosog ag eilundduwiau yr Aifit. Aberthent anifeiliaid i'w duwiau, teirw gwynion ar amgylchiadau o bwys ; ac weithiau, ebyrth dynol, yn mhersonau troseddwyr mawr- ion. " Dywed rhai fod ganddynt eilunod wedi eu gwneud o fêr helyg neu wellt, a'u bod yn eu llenwi a dynion, ac yna yn eu llosgi." Beth bynag am hyn, y mae yn amlwg eu bod yn arfer creulonderau mawrion yn nglyn a'u defodau crefyddol. Ystyrient y dderwen yn bren cysegr- edig, ac ymgynullent dan ei chaugau i addoli. Gosodent fri arbenig ar yr uchelwydd (mistletoe). Yn y flwyddyn 61, rhoddodd Claudius, yr ymerawdwr Rhufeinig, orchymyn i ladd cynifer ag a ellid o'r offeiriaid Derwyddol. Tybia rhai fod cyfeiriad at Dderwyddiaeth a'i defodau yn y geiriau canlynol yn Ezeciel:—" A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan fyddo eu har- cholledigion hwynt yn mysg eu heilunod o amgylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, ar holl benau y mynyddoedd, a than bob pren îr, a than bob derwen gauadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd i'w holl eilunod " (Ezec. vi. 13). Y mae ychydig o weddillion Derwyddiaeth yn ganfydd- adwy yma a thraw ar hyd y wlad hyd y dydd hwn, ac ymdrechir cadw peth o'i defodau >n fyw yn nglyn a'n sefydliad cenedlaethol, yr Eisteddfod. Andras, neu Andrasta, ydoedd enw un o'r duwiesau yr offrymid ebyrth dynol iddi, enw sydd eto yn fyw ar lafar gwlad. Dyfodiad Cyntaf Cristionogaeth. Y mae cryn lawer o ansicrwydd mewn per thynas a'r adeg, a chan bwy, y dygwyd Orist- ìonogaeth i'r Ynysgyntaf; ond bernir yn dra chvffredinol ei bod wedi ei dwyn yma cyn diwedd yr Oes Apostolaidd. Dywed rhai i'r Apostol Paul ymweled a'r Ynys, a phregethu yr Efengyl ynddi. Dywed eraill i Joseph o Arimathea a nifer o ganlynwyr geisio nodded yn y wlad hon, mewn canlyniad i'r erledigaethau creulon dorodd allan yn fuan wedi esgyniad Crist. Ceir traddodiad i eglwys gael ei hadeil- adu yn Ynys Afallcn (Glastonbury, Somerset) mor foreu a'r flwyddyn 60, ac mai Joseph o Arimathea oedd ei sylfaenydd. Adeilad wedi ei wneud o wiail oedd, wedi ei blethu fel basged, yn 60 troedfedd o hyd wrth 26 o led. Dywed y Trioedd Cymreig fel hyn,—"Brân Fendigaid ab Llyr Llediaith a ddygwys gyntaf ffydd yn Nghrist i genedl y Cymry o Rufain, lle y bu efe saith mlynedd yn ngwystl ei fab Caradog" (beth bynag a olygir wrth hyny). Brenin yr Esyllwyr (Süurians) oedd Brän, a chyfrifir iddo ddychwelyd o Rufain tua'r flwyddyn 60, a dwyn tri neu bedwar o bersonau i bregethu yr Efengyl gydag ef: Ilid, Cyndaf, ae Arwystli Hen. Ceir eraill yn priodoli dygiad yr Efengyl i Brydain i Gwladys Ruffydd, merch Oaradog ab Bran Fendigaid. Ganwyd hi yn Morçanwg, plwyf Llanilid, gerllaw Castell Dindryfan (Dun- raven). Priododd a seneddwr Rhufeinig, cy- foethog, o'r enw Aulus Pudens; a dywedir fod eu ty yn Rhufain yn gartref i'r apostolion, a Christionogion eraill a ddeuent heibio. Bernir mai yr un ydoedd Gwladys a Claudia, y cyfeirir ati gan Paul, ac mai ei mab ydoedd Linus (2 Tim. iv. 21). Sylfaenir y dybiaeth hon ar un o ganiadau Martial, bardd Lladinaidd, yr hwn a ddywed fod Aulus Pudens wedi priodi Prydeines o'r enw Gwladys. Diameu fod amryw o'r mil- wyr Rhufeinig a ymwelsant a'r Ynys, ao a drig- iasant ynddi am dymor, i raddau yn gydnab- yddus, ac o dan ddylanwad Cristionogaeth. Ÿmdaenodd Cristionogaeth drwy y wlad yn fuan, a bedyddiwyd Lleufer Mawr* brenin Prydain, tua 180. Dadleaa eraill mai nid o Rufain o gwbl, ond o Asia, y daeth Cristionog- aeth i Brydain. Dyma yw barn Neander. Esgob cyntaf Prydain ydoedd Arwystli Hen, neu yr Aristobulus (fel y tybir) y sonia Paul am dano (Rhuf. xvi. 10). Yr oedd y gwr hwn yn frawd i Barnabas, ac yn dad gwraig Pedr. Ymddengys i Gristionogaeth ledu yn fawr, a * Er fod Prydain wedi ei darostwng gan y Rhuf- einiaid, caniateid i'r Prydeinwyr gadw eu breninoedd mewn enw.