Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyv. X.—Ahiy. 3.—Mawrth, 1890. CYVAILL • YR • AELWYD: HWNT AC YMA; SEP NODIADAU MI80L AR DDYGWYDDIADAU Y BYD CYMREIG. Gan Ddyn ae Daith. K wyf yn ystod y mis diweddaf wedi bod yn teithio cryn lawer hwnt ac yrna, ac, ar y mynych deithiau hyny, wedi cly wed, a gweled, a darllen rhai pethau a dybiaf tyddant o ryw gymaint o ddyddordeb i ddarllenwyr Oyvaill yr Aelwyd. Cymry Caerdydd. Yn niwedd y fiwyddyn o'r blaen, a dechreu hon, cefais fy hun yn nhref bwysig a chynyddol Caerdydd. Y mae y dref hon yn aml ei phobl- ogaeth, ac yn amrywiol yn ei chenedloedd. Mae ynddi Saeson a Gwyddelod, Ffrancod ac Ysgot- iaid, abraidd pob "od " ac " iaid " arall o'r hil ddynol geir yn tramwy ar hyd y ddaear. Yn ddaearyddol, y mae y dref yn Nghymru, ac nid ydyw erioed wedi methu a manteisio ar bob cys- ylltiad a fedd â'r Dywysogaeth. Ymffrostia yn fynych yn ei hawl i fod yn gydnabyddedig brif dref y I ywysogaeth, ac, ar gefn yr honiadaeth hono, enilla lawer i'w choffrau masnachol a threfol. Nid ydwyf am foment yn dymuno awgrymu fod yr honiadaeth hon yn gwbl ddisail ; yn sicr, y mae gan dref Caerdydd lawer dadl gref dros gael yr anrhydedd o'i galw yn brif dref Cymru. Bu adeg pan yr ydoedd yn dref hollol Gymreig yn ei holl boblogaeth, ac yu ei holl arferion. Ni chlywid ond Cymraeg pur yn ei heolydd, ac yr oedd dyfodiad Sais neu Ysgotyn yn amgylchiad yn hanes y dref, gan mor anghyffredin ydoedd. Ond gyda dadblygiad gweithfeydd Morganwgyn gynar yn y ganrif bresenol, daeth tro ar fyd ; daeth Caerdydd i ddechreu dadblygu fel porth- ladd, a daeth yu gyrchfan tyrfaoedd o bob iaith a cheuedl. "Lle y byddo y gelain, yno hefyd yr ymgasgl yreryrod." Daeth Caerdydd i fod yn Cardiff, a'r iaith, i raddau helaeth iawn, i fod yn Saesneg. Daeth y Cymry i fod yn lleiafrif yn mhoblogaeth y dref. Daeth yr ychydig Gymry oedd yn aros i gredu fod eu llwyddiant persouol yn gynwysedig mewn ymgolli yn y genedl Seisnig. Daeth deddf " Survival of the Strongest," beth bynag am uSurvival of the Fittest," i weithrediad amlwg a neûlduol yma. Daeth siarad Cymraeg i gael edrych arno fel peth dirmygus, a daeth " anghofio iaith y fron " yn un oV celfau cain, yr ymdrechai pob corach a choraches ragori ynddi. Yr oedd y llifeiriant Seisnig yn ysgubo pob peth o'i fiaen, a'r llu yn gwaeddi " Abrec " o fiaen duwies fawr Diana y Sacsoniaid. Ond, ychydig fiynyddau yn ol, cododd Dan yn Nghaerdydd, fel y Dan hwnw a gododd gynt ar wastadedd Dura, sef Dan Isaac Davies, o fen- digedig goffadwriaeth, yr hwn ni phlygasai er unpeth i'r ddelw fawr yr oedd mwyafrif y bobl yn plygu yn wylaidd a gostyngedig iddi. Ni bu wrtho ei hunan yn hir ; cafodd lawer i gydym- deimlo ag ef, a daeth yn fuan yn adfywiad cenedlaethol CTyf yn mysg Oymry y dref. Ni fu yn rhaid aros yn hir cyn deall nad oeddid wedi deffro foment yn rhy fuan. Cafwyd allan fod y Cymry a'u hawliau yn cael eu sarnu mewn mwy nag un cyfeiriad, ac ni bu Dan a'i wyr yn ol o godi eu llef fel taran yn erbyn pob trais a gormes. Ond cyn bron dechreu y frwydr, bu yr ar- weinydd dewr Dan Isaac Davies farw, ac nis gellir gwadu na chafodd y mudiad glwy' mawr drwy ei farwolaeth ef. Eto parhaodd y blaid yn fyw ac yn ffyddlon, a daeth amryw o ddewr- ion Oymreig yn fuan i lanw yr adwy, ac y mae y gwaith da yn myned rhagddo, ac yn ffynu. Un o ffrwythau cyntaf yr adfywiad ydoedd " Undeb Ysgolion Sabbothol Oymreig Caerdydd," sydd o dan lywyddiaeth y Proffeswr T. F. Roberts, M.A., o'r Brifysgol, yn gwneud gwaith ardderchog yn mysg Cymry y dref. Ffrwyth arall ydyw y Gymdeithas Cymmrodorion fiodeuog a llwyudianus, sydd yn rhifo ei chanoedd o aelodau, ac yu gwneud gwaith anghydmarol o werthfawr, dan arweiniad doeth ei ìlywydd, yr Uch-gadben E. R. Jones. Ffrwyth arall ydyw y dyddordeb deimlir gan Gymry y dref yn addysg yr oes sydd yn codi. Ychydig amser yn ol, cyhuddwyd y Bwrdd Ysgol yno o fod yn wrthwynebol i Gymry gael eu penodi i swyddau o dan y Bwrdd yn ysgolion y dref, ac fod yr ysgolion yu fynych yn cael eu rhoddi dan ofal Ysgotiaid nad oedd eu cymhwysderau yn gyfartal i'r eiddo Cymry ag oedd yn ymgeiswyr am y fath swyddau. Yn yr etholiad diweddaf, teimlodd y Cymry eu rhwymedigaeth i wneud eu rhan i symud y gwarthrudd hwn jmaith. Llwydd- wyd i gael gan y blaid Ryddfrydol yn y dref i fabwysiadu un o'r ddau a fynai y Oymry eu hanrhydeddu fel ei hymgeisydd hi, sef Y^aich. J. Morgan Jones, a buwyd o fewn tair pleidlais Cymro arall i fewn, yn mherson y Proffeswr Roberts. Canlyniad y methiant hwn