Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyv. X.—Rhit. 2.—Chwefror, 1890. CYVAILL• YR ■ AELWYD: Y PR I F-RI FNODAÜ. FFEITHIAU A THYBIAU DYDDOROL, ADDYSGIADOL, A CHYWRAIN, MEWN PERTHYNAS 1DD*NT. Gan J. Bevan, Llansadwrn. Y Benod Gyntaf. EAE rhifnodau yn bethau a arferir yn ddyddiol, ac yn gyson, i raddau mwy neu lai, gan bawb yn mhob gradd a sefyllfa. Maent felly yn hollol adnabyddus i'r darllenydd ; a thrwy hyny, nid oes angen iddynt wrth mtroduction o gwbl i'r rhai hyny o'r der- bynwyr a ddarllenant y llinellau hyn ; ae y mae yn rhaid i bawb wrthynt. Tuedd ymgyfar- wyddo âg unrhyw wrthddrych yn feunyddiol yw myned yn gyffredin i'w ddiystyru, a pheidio talu nemawr sylw iddo, a rhoddi y sylw i'r hyn sydd ddyeithr ac anghyffredin. Mae pethau cyfarwydd a chynefin yn myned yn ein golwg íel mân lwch y clorianau—yn rhy ddi- ystyr a dibwys i roddi unrhyw ystyriaeth ìddynt, neu fel blodau min y ffordd, ar y rhai nid oes braidd neb yn sylwi gan mor aml y cyfarfyddir â hwy. Ein dyben wrth gymeryd y testun hwn i fyny yw ceisio dangos y gellir gwneuthur peth sydd beunydd yn ein dwylaw, ac sydd hollol gynefin yu ddyddorol, ac addysgiadol,—ei fod yn werth ein hefrydiaeth, ac yn dwyn perthynas agos âg amryw adranau o wybodaeth fuddiol. Buom yn ceisio ystyried i ba ddosbarth o ddar- Uenwyr yn fwyaf neillduol y medrid gwneuthur testun o'r fath yma yn ddyddorol. Teimlwn beth petrusder, rhaid i ni addef, ar y cychwyn, pan feddyliasom pa ddosbarth dderbynia fwyaf o fudd oddiwrth y penodau hyn. Y rhai ydynt wedi eu haddysgu yn dda a ddywedant eu bod yn arwynebol ; y rhai hyny nad ydynt wedi mwynhau manteision addysg i'r un gradd a'r dosbarth yna a ddywedant eu bod allan o'u dirnadaeth hwy; yr efrydydd llwyr a chyfiawn, yn ddiau, a ddywed eu bod yn was- garog ; y darllenydd hoff o lenyddiaeth ysgafn au hystyria yn sychlyd a thrwm, ac heb nemawr ddyddordeb, nac adeiladaeth iddo ef. Llawer a ystyriant eu bod yn gwybod y cyfan ellir ddweyd am y rhifnodau, ac, felìy, mai diangenrhaid iddynt hwy ytndrafferthu gyda'r peth o gwbl; y boneddesau o honynt hwythau a daerant ar y cychwyn mai pethau nad ydynt yn hidio fawr am danynt yw rhifnodau. Eto, wedi'r cyfan, mae y ffaith yn aros fod üawer ì w ddweyd yn nglyn â'n testun. Mae aynoliaeth wedi bod yn ymwneud â hwy o'r oesoedd boreuaf y mae genym hanes am danynt. Mae, felly, lawer meddwl wedi edrych. arnynt yn annibynol y naill i'r llall, a llawer i syniad dyddorol a chywrain wedi ymgodi yn y meddwl dynol mewn perthynas iddynt. Oeisier gosod gerbron y darllenydd ychydig allan o'r pentwr syniadau fydd ein hamcan. I'r ieuanc darllengar o'r ddau ryw y cyflwynir y penodau hyn yn fwyaf arbenig, y rhai ydynt yn sylwi ac yn manylu ar yr hyn sydd o'u cwmpas, ac ar yr hyn y maent yn gyson ymwneud â hwy. I'r cyfryw, bydd ychydig amser yn ein cwmni hwyrach yn fuddiol ac yn ddyddorol tra fyddwn yn ymdrin o fis i fis â'r hyn mae rhifyddwyr, athronwyr, ac eraill, hen a diweddar, wedi ddweyd am y Prif-Rifnodau. Oylch ein hefrydiaeth fydd o TJn hyd Ddeg, er, efallai, y bydd yn ofynol yma a thraw i ni sylwi ar rifnodau eraill, cyn belled ag y byddont yn dwyn perthynas â'r cylch ydym wedi osod allan. Defnyddir y gwahanol rif- nodau fel enwau, ac, hefyd, fel ansoddeiriau, gydag ychydig wahaniaeth yn y ffurf i ddynodi pa un sydd i'w feddwl, megys un, dau; cyntaf, aü, àc. A'r cyntaf y mae a fynom yn y penodau hyn. Rhifiant yn Gyffredinol. Oyn myned! yn mlaen yn mhellach yn y cvfeiriad ydym wedi ddynodi, ac i sylwi ar bob rhifnod ar ei ben ei hun, tybiwn ei fod yn ofynol rhoddi bras-linelliad o'r dull tebygol drwy yr hwn y dyfeisiwyd rhifnodau ar y cych- wyn. Mae cydnabyddiad o werth rhifnodau yn gyfoesol a gwawr diwylliant meddyliol; ond mae gwelliantau mawrion yn ofynol o'r dull cyntefig a boreuol o gyfrif cyn y gellir yn drefnus a dealladwy osod allan ddognau mawrion ac amrywiol drwy gymorth rhif- nodau, a chyn i drefniant rheolaidd, drwy gymorth arwyddluniau, llythyrenau, neu rif- nodau gael ei fabwysiadu. Arwydd sicr o dywyllwch meddyliol a diffyg diwylliant yw anallu i gyfrif uwchlaw rhyw nifer fechan: yn y sefyllfa hon, braidd yn ddieithriad, y mae teithwyr wedi darganfod gwahanol lwythau anwaraidd y byd uiewn gwahanol gyfandiroedd. Oaed rhai o honynt yn medru cyfrif hyd bump, am y rheswm, yn ddiau, fod nifer y bysedd ar y llaw yn eu gwneud yn gynefin a'r nifer hylaw