Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

/COÍ Ctv. X.—Ehiy. 1.—Ioüíawb, 1890. CYVAILL • YR • AELWYD: HAWLIAU A DYLEDSWYDDAU ADDYSGOL CYMRU. Gan y Parch. T. C. Edwards, D.D. (Priý-athraw Goleg y Brìfysgol i Gymru). YDA chryn radd o betrusder y derbyniais yr anrhydedd estynwyd i mi gan Gym- deithas yr Iaith Gymraeg paa wahodd- wyd fi i lywyddu yn Nghyfarfod Ohwe'-misol y Gymdeithas yn Aberystwyth. Yn sicr, ni achos- v d fy mhetrusder gan unrhyw ddiffyg cydym- ri., ulad ag amcaniou y Gymdeithas, ond yn hytrach rhag ofn bradychu anwybodaeth anes- gusodol, er eíallai naturiol, un anghyfarwydd a'r gwaith wneid mewu dulí mor effeithiol gan swyddogion y mudiad. Pa fodd bynag, teimlais y gallai bam un edrychai ar y gwaith o safle un tuallan fod o ryw werth, gany byddai o leiaf yn gwisgo agwedd anmhleidgarwch beirniadol. Óanys yr wyf wedi gwylio, gyda gradd o íanyl- rwydd, weithrediadau y Gymdeithas, ac wedi ffurfio barn am ei hamcan, ei mesurau, a'i gorch- estion. Ceisiaf wneud rhai sylwadau ar bob un o'r petbau hyn. Amcan y Mudiad. Am amcan y Gymdeithas, mae yn dda genyf fod ei sylfaenwyr wedi gosod o'u blaen amcan sydd ar unwaith yn ddigon syml ac yn hollol ymarferol. Dymunent weled yr Iaith Gymraeg yn cael ei hiawn ddeínyddio yn ein bysgolion elfenol. Nid ydynt wedi treulio eu hanadlmewn gogonedd.ad syniantol o'r Gymraeg, ac mewn gwneud eu hunain felly yn destyn gwawd. Gwnaethant yn gall i adael hyn oll i wleidydd- wyr ac eraill sydd wedi dihysbyddu eu gwybod- aeth o'r iaith pau waeddant'" Oes y byd i'r Iaith G>mraeg." Barnwyf fod blaenoriaid y mudiad wedi arddaugos eu gonestrwydd trwy ochelyd ffug-deimlad, hyd y nod er y sall fod ar lawer cyfrif yn beth y gellid ei gyfiawnhau, a thrwy eu gwaith yn ymgymeryd â thasg ymar- ferol. Hyd yma, mae y tasg hwnw wedi bod yn berffaith blaen a syml. Gall fod dadblygiadau pellach yn ein haros, a dylem ddal ein hunain yn barod i gyfìawnu gwaith newydd pan ddêl cyflawnder yr amser. Ond y peth cyntaf sydd raid ei gyflawnu yw gwneud yr Iaith Gymraeg yn ddefnyddiol yn addysgiad y geuedl Gymreig. Yn awr, ymddengys i mi fod yr amcan hwn yn un syddmor drwyadl iawn, doeth, ac ymaríerol, fel na byddai gweithred unrhyw Lywodraeth yn gwrthod ein goíynion, yn ddim llai na hurtrwydd enfawr, neu gam dybryd. Arweiniwyd fi i'r penderfyniad yma gan yr ystyriaethau canìynol. Yn Iawn mewn Ystyr Addysgol. i. Hwn yw y cynllun iawn mewn ystyr addysgol. Yr ydym oll yn argyhoeddedig y rhaid i'r Cymry ddysgu Saesneg. Dymunir hyny gan bawb o honom. Gwresawn yn ddi- olchgar y wë addysgol ledir y dyddiau hyn dros Gymru. Ond amlwg yw y rhaid i blant Seisnig ddysgu Saesneg trwy gyfrwng y Saesneg ; hyny yw, dysgir Saesneg gwell a chyfoethocach eu llenyddiaeth iddynt drwy gyfrwng Saesneg gwaelach a thlotach eu cartref. Nis gellwch ddysgu Saesneg iddynt drwy gyfrwng iaith na ddeallant, dyweder y Gymraeg neu yr Ellmynaeg. Yn ol cyffelyb ymresymiad, rhaid i'r plentyn Cymreig ddysgu Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r plentyn Ellmynaidd drwy yr Ellmynaeg. Mae gwahardd athraw i ddefn- yddio'r Gymraeg fel cyfrwng i ddysgu Saesneg i blentyn o Gymro, yn gyffelyb i pe gwaherddid yr athraw hwnw i ddefnyddio Saesneg pan yn dysgu iaith Addison neu Macaulay i blentyn o Sais. Ond gallwn fyned yn mhellach na hyn. Gwy- bodaeth o ddwy iaith y w yr unig wir wybodaeth o'r naill neu'r llall o'r ieithoedd hyny. Nid oes gan y neb wyr ond un iaith unrhyw amgyffrediad clir, unrhyw afael cryf, o gymeriad, gallu, a phrydferthwch yr iaith hono ei hun. Fe allai na wyddai ỳ Groegiaid ond un iaith, ac eto eu bod yn feistri mewn ieithwedd. Beiddiaf dybied ein bod ni yn gweled prydferthwch, ac yn deall nerth eu hiaith yn well nas medrent hwy eu hunain, Credaf fod diweddariaid >n deall llen- yddiaeth hynafol yn well nag y gwnai yr hynaf- iaid eu hunain ; ond gan nad pa un a yw hyn yn wir aui eu llenyddiaeth ai peidio, mae yn sicr o fod yn wir am eu hiaith. Nid oedd gan y Groeg- iaid ieithyddiaeth na gramadeg, ond mewn chwareu. Yn awr, nid yw sefyllfa feddylioi plentyn Seisuig mewn ysgol elfenol, yn annhebyg i eiddo un o'r hen philosophyddion. Gall fod gan bob un o'r ddau dalent at ieithwedd. Ond nis gall y naill na'r lla.ll ffurfio syniad clir paham mae geiriau yr hyn y'nt. Ary llaw arall,mae plentyn o Gymro, ddysgir drwy gyfrwng ei famiaith, yn dysgu Saesneg yn ol duil yr ieithyddwr ; ac mae prif egwyddorion ieithyddiaeth yr ieithoedd Aryaidd erbyu hyn wedi cael eu gwirio mor glir, a'u profi mor amlwg, fel nad yw yn ormod dysgwyl i athrawon ein hysgolion elfenol i ym- gydnabyddu â'r rhai amlycaf o honynt, a'r rhai mwyaf defnyddiol at eu hamcanion neillduol hwy. Os yw hyn oll yn wir am ddysgu Saesneg,