Skip to main content

0*v. VIII.—Bmv. 12.—EHAaYts, 1888. CYYATLL • YR • AELWYD: HANESIAETH GYMREIG. GAN Y GwiR AnRHíDEDDÌTS W. E. GLADSTONE, AS. ARAETH Y CYN BRIV WEINIDOG YN EISTEDDYOD WRECSAM. R vod amryw o voneddwyr yn llawer iawn cymwysach i siarad wrthych am eich Eisteddvod nag wy v vi, gallav eich sicrhau nad oes un gwr o vewn nac o'r tu allan i Gymru a all wneud hyny gyda mwy o lwyrvryd meddwl a chalon. Yr wyv yn llawenychu yn vawr yn y sevydliad hwn, ac mae yn dda iawn genyv ei weled yn llwyddo. Y tro diweddav y cevais yr anrhydedd o anerch Eis- teddvod ydoedd yn Dhrev yr Wyddgrug, ac os wyv yn covio yn iawn, mae y cynulliad a welav o'm blaen heddyw dair gwaith yn vwy na'r cynulliad hwnw. Felly, gwelav vodyr Eistedd- vod wedi cymeryd gavael dy vnach yn y bobl o bob gradd a dosbarth. Hyderav nad ydwyv wedi d'od yma i wenieithio i chwi, ond y mae talent a theimlad cerddorol Cymru bob amser wedi enill vy serch a vy edmygedd. Vel cân genedlaethol, yn vy nhyb i—nid wyv yn siarad am y gelvyddyd— ac heb roddi unrhyw sarhad ar yr hen " God save the Queen," yr wyv yn credu mai eich cân genedlaethol chwi, " Rhyvelgyrch Gwyr Harlech," yw yr ardderchocav yn y byd. CoFADWRIAETH AM Y GoRFENOL. Un o vanteision ac o amcanion yr Eisteddvod ydyw gwneud cofadwriaeth am y gorfenol. Dywed rhai vod ei hamcan yn un camsyniol, er nad wyv yn meddwl vod odid neb yn Nghymru yn dweyd hyny. Yr wyv yn covio amser pan yr ystyrid mai camgymeriad ydoedd dal yr iaith Gymraeg i vyny. Yr oedd gan rai pobl eisiau i ni i gyd vod yr un vath—un iaith, un davod, un varchnad lavur. Nid wyv yn bwriadu myned i vewn i'r cwestiwn hwn, ond rhaid addev nad wyv wedi cael allan vod y Cymry, pan ânt i Loegr, yn colli eu hymlyniad wrth eu gwlad vrodorol. Mae arnav awydd dweyd rhywbeth a ddichon arswydo rhai o'r personau hyuy a alwant eu hunain yn ddynion y bedwer- ydd ganriv ar bymtheg. Yn vy marn i, y mae y teimlad o barchusrwydd at yr hyn sydd yn hen, y teimlad o'r hyn a allav ei alw yn wlad- garwch lleol, nid yn unig yn beth urddasol ynddo ei hunan, ond yn meddu ar werth mawr iawn. Gall hynyna, evallai, ymddangos yn ddatganiad beiddgar, ond, yn ol vy nhyb i, mae yn un gwir ; mae pawb yn sicr o deimlo vod y rhan gyntav o hono yn wir, sev, vod y teimlad a ddesgriviais yn meddu ar nodwedd urddasol. Mae y Cymro, aed ev i'r man y myno, yn rhwym o deimlo yn anvoddlon i warthruddo ei enw. Beth ydoedd Cymru? Ar achlysur vel hwn, mae yn briodol ystyried beth ydyw a fa beth ydoedd Cymru. A dev- nyddio ymadrodd adnabyddus, mae y gwaith o wasgu y Oymry i Gymru wedi parhau i vyned yn mlaen. Yr oedd amser pan yr hawliai Cymry ranau nad oeddynt yn awr yn perthyn i'r Dywysogaeth. Mae Siroedd Mynwy, Hen- fordd, a'r Amwythig yn meddu hyd heddyw ar brawvion o sevyllva o'r vath. Dangosant yn amlwg vod y Cymry wedi ymdrechu yn ddewr am ddal y gororau hyny yn eu meddiant. Mae traddodiad yn bod yn y plwyv yr wyv vi yn byw ynddo y bydd i mi alw eich sylw ato. A siarad yn vanwl, mae y lle yn perthyn i'r cyfindir, ond dywedir wrthym y cododd travod- aeth wleidyddol bwysig unwaith ar y cwestiwn pa un a oedd PenarlagJ aros yn rhan o Gymru, neu, ynte, a oedd i vod yn rhan o'r cyfindir. Y traddodiad ydyw, i'r dyn mawr hwnw, Simon de Montfort, er's chwe' chan' mlynedd yn ol, gymeradwyo ar vod i'r afon Dyvrdwy gael ei hystyried vel yn rhanu y lleoedd, ac vod cymy- dogaeth Penarlag i gael ei hystyried yn rhan o Gymru ; ond mae yn ovidus genyv ddweyd i'r cyvarwyddyd yna gael ei oruwchreoli, ac vod yr ardal wedi parhau vel cyfindir, ac, velly, nid oedd yn dyvod mor uniongyrchol o dan ddylan- wadau Cymreig. Mae genym yn Mhenarlag gyvlawnder o bethau i brovi Cymreigrwydd gwreiddiol y lle. Er esiampl, mae ein heglwys yn cymeryd ei henw oddiwrth St. Deiniol, enw hollol anhysbys yn mhob plwyv Seisnig, ac enw nas gellir ei egluro ond drwy gyveirio at wreidd- air Cymreig. Gwnaeth y Cymry ymdrech dda a chaled yn erbyn y Saeson mewn hunan- amddifyniad. A fa beth oedd y canlyniadî Rhaid oedd i'r Saeson amgylchynu eu tiriogaeth- au a chastellau mawrion, ac efaith hyn ydoedd vod y rhan vwyav o lawer o olion castellau yn y cyveiriad deheuol o'r Tweed yn gastellau sydd yn amgylchynu Cymru. Dan gosa hynyna vod Cymru yn cael ei freswylio gan ddynion a gredent vod yn werth iddynt ymdrechu am eu rhyddid,