Skip to main content

ŵv. VIII.—Ähiv. 11.—Taohwebd, 1888. CYVAILL • YR • AEL W YD: LLAVAR-RIVIAD Y GYMRAEG; Nbu, PA VODD Y DYLID RHIYO? ip^/Ä AE ein oyveillion Americanaidd wedi bod •JjÿrçjJL yn ddiweddar yn eydresymu am y dull ^S^ goreu i rivo yn Gymraeg. O bosibl na cheir neb yn yr oes oleu hou yn barod i am- ddifyn y vath ddull clogyrnog o rivo ag a ddevnyddir am 99, sev pedwar ar bym- theg a fedwar ugain. Os dywedwn ped- war ar bymtheg a fedwar ugain, dylid ysgriveno 4+15+80 yn lle 99, ac nid oes neb o ddarllen- wyr Cytaill yr Aelwyd a wnaent hyny. Ond pa vodd i symleiddio ein Llavar-riviad ì Dyna y cwestiwn. Atebir ev gan niver o leoor- ion blaenav y Talaethau Unedig, a rhoddwn yma varn tri o honynt. Barned y darllenydd drosto ei hun oddiwrth yr ymresymiadau hyn. Ond mae un peth ddymunem grybwyll. Mae yn gy wilydd i ni vel cenedl ein bod, yn ein capeli ar y Sul, yn rho'i rhiv yr emyn allan yn Saesneg yn lle yn Gymraeg. Paham, yn enw pob rheswm, na roddai pob Cymro mewn gwasanaeth Gymreig riv yr emyn yn iaith yr emyn ì Nid yw hyn ond un o olion y Dic Shon Daveiddiwch fol sydd, trwy drugaredd, yn cyvlym gilio o'n gwlad. Uymered pob Oymro yr awgrym, ac argyhoedded bawb vydd o hyn allan yn euog o'r foledd yma, pa un bynag ai aelod, ai diacon, ai gweinidog, ai esgob vydd ! LLAVAR-RIVÍAD Y GYMRAEGj Gan y Parch. R. Trogwy Evans. Nid oes un Oymro yn ameu y pwys mawr i iaith veddu Llavar-riviad ystwyth, hawdd ei ddeall, hawdd i'w barablu, a hawdd i'w weithio mewn rhivyddiaeth. Mae y Saesneg yn hapus yn hyn, ond y Gymraeg yn neillduol o anhapus. Mae hyn wedi bod yn favriol i'r vlaenav, ond yn anfavriol i'r olav. Y mae Llavar-rivo yn Gymraeg, vel cosb am bechod, yn ovnadwy. Oyn gosod y cynllun cynygiedig i lawr, priodol yw sylwi yehydig ar y ddwy drevn a ddev- nyddir, y rhai a alwn yr arol a'r degol. 1. Y Llavar-riviad Arol.—Msue hwn vel hyn : un-ar-ddeg, pedwar ar-bymtheg, un-ar-hugain, un-ar-bymtheg-ar-hugain, dau-ar-bymtheg a fedwar-ugain. Beth a elíir galw y vath beth a hwn ond barbareidd-dra ì Mae vod yr hen iaith wedi cario y vath gruglwyth arswydus am gy- niver o oesau yn dangos vod ganddi nerth cawr- vilaidd. Y vath resyn ydyw vod gwyneb teg ein Beibl yn cael ei anharddu â'r vath hyllni hagr ag yw y drevn hon! 2. Y Llavar-riviad Degol.—Mae y drevn hon yn hen, er mai yn ddiweddar mae wedi dyvod i arveriad, ond nid yw wedi dyvod eto ond rhanol. Drwg mawr hon y w vod ynddi ormod o ddegu—deg yn mhob rhiviad o ddeg i gant, megys deg un, deg dau, &c, a deg, deg, nes ein gwneud yn sâl a blin, ac wedi ein syrfedu â degau. Mae arnav ovn cyveirio at engraift. Gwir, mae y drevn hon yn mawr rhagori ar yr un vlaenorol, ond pell iawn ydyw o veddu llyvn- dra a rhwyddineb y Saesneg., Wedi gwneud y sylwadau' hyn ar y dulliau uchod, gosodwn i lawr ddull ag sydd yn tra rhagori ar y rhai a enwasom. Dyma ve : Gadael y rhivau cyntav vel y maent, a dechreu eu cyvnewidiad gyda'r deg, vel hyn :— Uno (10); llevara y gair y rhivnod—" un " ac "o," yna unoun, unodau, &c. Dauo (20); yr " o " yn Gymraeg yn ateb i'r " ty " yn Saesneg. Trio (30) ; trio chwech, trio saith, &c. Pedo (40) ; pedo wyth, pedo naw, &c. Pumo (00) ; pumo un, pumo dau, &c. Chwecho (60); chwecho tri, chwecho pedwar, &c. Saitho (70); saitho pump, saitho chwech. Wytho (80); wytho saith, wytho wyth. Nawo (90J ; nawo naw, nawo un, &c. Gallwn veddwl vod yr ystyriaethau canlynol yn ddigonol dros vabwysiadu y dull hwn :— 1. Mae yn rhoddi i'r geiriau unigol eu hystyron, ar y degau, vel yn y Saesneg, megys uno (10), dauo (20), trio (30). 2. Mae llyvnder y geiriau yn unol a theithi ein hen iaith anwyl. 3. Mae yn hawdd eu parablu, ac yn hawdd eu deall. 4. Dyg ein hiaith o vod yr avlerav, y drwsgl- eiddiav, a'r varbareiddiav o holl ieithoedd y byd o ran ei Llavar-riviad, i vod ar y blaen arnynt cll, heb eithrio y Saesneg. 5. Nid oes dim yn y llavar nad yw yn y rhiv- nod, na dim yn y rhivnod nad yw yn y llavar. 6. Tra yn hwylus i'r tavod, mae yn ddymunol i'r glust. 7. Mae yn vwy unfurviol nag hyd y nod y Nid oes modd cael eu byrach o ran sillau, na llai o ran geiriau. 9. Gellid gwneud unrhyw riviad (swm) mor rhwydd ag yn Saesneg. 10. Nid oes ond dyeithrwch y sain a newydd- deb y geiriau yn rheswm yn ei herbyn, ond ym- arveriad ddaw a hynyna i hwyl. Beth veddylia ein llenorion a'n beirdd o hyn î