Skip to main content

Cyv. VIII.~flHiv. 6.—Meheyin, 1888. CYYATLL • YR • AELWYD: Y CYMRODOR CYMREIG. Y CYMRY A'U HIAITH. Gan W. J. Pabey, Bbthesda. (Anerchiad Llywyddol yn Nghyvarvod Chwé Misol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bangor, Ebrill Gved, 1888J 'ID yr ymgais presenol o eiddo Cym- deithas yr Iaith Gymraeg yw y cynyg cyntav i geisiocadw i vyny alledaenu yr iaith Gymraeg. Bu moddion eraill yn cael eu devnyddio, a gwnaethant ran dda yn y fordd y cerddasant; ond nid oedd goleum gwybodaeth am yr hyn oedd angenrheidiol ac yn gyraedd- adwy, wedi tywynu ar eu meddwl i raddau digonol, er eu cyvarwyddo at wir angen y genedl. Ni vynwn ddweyd vod yr ymdrechion hyny mwy na'r rhai presenol yn berfaith. Gellir rhagori ar bob un o honynt, ond mae yr ymgais yn y naill a'r llall yn ganmoladwy, 'ac yn deilwng o gevnogaeth pob Cymro a fob ysgol- haig. Mae rhyw gynydd i'w ddysgwyl oddi- wrth bobpeth byw ; ac nis gall iaith vyw a llenyddiaeth gan<Jdi beidio cynyrchu rhywbeth o werth a dâl am y draferth yr eir iddo i'w chadw yn vyw. Ni enillwyd dim erioed trwy geisio Uadd iaith, a llenyddiaeth a hanes yn perthyn iddi. Colle.lid achos addysg trwy hyny. Nid oes gwerth mewn trysorau cudd- iedig na ddatguddir ; a dyna yw cymeriad iaith wedi cwbl varw a llenyddiaeth ganddi. Yr ydym yn hof iawn o alw yr iaith Gymraeg yn Iaith Awen a Chan. Mae velly ; ac yr ydym yn valch o honi vel y cyvryw. Iaith gwynvanus, wagsaw, ddienaid vuasai iaith heb awen a chân yn perthyn iddi. Mae rhai ieithoedd yn vwy velly na'u gilydd ; a dyna yr ieithoedd y mae mwyav o vywyd a farhad ynddynt. Cymer vr hen Gymraeg ei llon'd o'r naill a'r llail. Mae swyn hyvryd ei hawen, a melusder peraidd ei chân, yn c'Iymu calon pob Cymro wrthi. Mae cathlau cawr- veirdd breiniol, ac alawon hen gerddorion nev- anedig cenedlaethau olynol, wedi anvarwoli pob gwreidd air yn yr iaith, vel nas gall byth varw. Mae meddwl anvarwol yn treiddio byth trwy wisg ei barddoniaeth, ac ynparhauschwyddo yn myw acen ei cherddoriaeth. Nid rhywvath o varddoniaeth, ac nid rhywvath o gerddoriaeth, ydynt evei)Jiaid veibion yr hen iaith. Nisgallai rhywvath o'r naiìl na'r llall vod wedi byw cyhyd yn nghalon cenedl. Meddylid yn llai o houynt, ac edrychid yn ddiystyrllyd arnynt, pap oedd adnabyddiaeth dysgedigion o'r iaith yn gyvyng- edig; ond vel mae addysg uwchraddol yn cynyddu yn y wlad, a bod mantais erbyn hyn yn debyg o dd'od o'i hastudio, ac yr enillir trwy hyny veddyliau cawraidd i ymdavlu iddi, ac i ymgodymu a hi—dechreuir anesmwytho arni, chwilir i vewn i'w chilvachau, ac y mae trysorau llenyddol yr hen iaith yn dechreu cael eu chwilio, eu canvod, eu canmol, a'u dangos. Daliant y naill a'r lla.ll. Mae gavael a gwerth ynddynt. Yr oedd yn amhosibl i iaith mor grev ro'i bod i veirdd gwan. Cymer yr hen iaith ei rhwymo, yn ei barddoniaeth, â gevynau heyrn heb golli yn ei nerth nac yn ei gwerth. Mae dysglaerdeb gem yn tywynu trwy bob dolen yn y gadwen. Iaith cewri yw y Gymraeg. Nid yw yn dibynu ar ei gwisg. Ymddibyna ar ei henaid. Mae hwnw yn anvarwol. Goroesa bob gwawd : ca y trechav ar bob gelyn ; dys- glaeria trwy bob gorchudd, a gwna i'w flant lamu yn y goleuni. Mae swyn acenion ei chân, a chwydd-nodau ei halawon, wedi cadw ar ddi- hun neillduolion cenedl. Nid iaith awen na chan yn unig yw, ond gall hawlio ar dir teg vod yn Iaith Dysg a Doethineb. Nid yw holl drysorau yr hen iaith eto wedi eu dwyn i'r golwg. Mae ganddi allweddau cym- wys i agor dorau dysg a doethineb na amíyg- wyd eto. Gwir i'r tân ddiva trysorau amhris- iadwy o'i heiddo tua Wynnstay, a Williamsville, Virginia ; ond mae trysorau mwy eto i'w dwyn allan o amgueddveydd hen balasau ein gwlad, a hen briv ysgolion ein teyrnas a'r byd. Mae Cymru yn y dyddiau presenol yn magu plant vyn ddwyn y rhai hyn i'r golwg o guddvanau dirgel eu noddveydd presenol. Maent eisoes yn dechreu tynu y Uwch oddiarnynt. Nid oedd angen ond codi y Cymry uwchlaw y syniad o vod wedi eu gorchvygu nag y dechreuodd y genedl vagu cewri o veibion ar unwaith. Dyma oedd y rhwystr ar fordd eu fydd ; a hwn oedd yn eu dal i lawr yn ddiymdrech. Yn nerth y gwendid a vegid gan eu hymollyngiad meddyliol, nis gallasent gredu eu bod yn vreiniol deulu. Mae ysbryd arall erbyn hyn wedi cymeryd meddiant o enaid eu plant. Dangosant gyda