Skip to main content

Ctv. VIII,—fimv. 4.—Ebbill, 1888. CYYAILL • YR • AELWYD: Y CYMRODOR CYMREIG* EIN CYVREITHUÜ, A'ü GWEINYDDlAD YN EIN LLYSOEDD LLEOL. Sev Papur ddarllenwyd o vlaen Cymrodorion Caerdydd. Gan y Babíswr Gwilym Williams. ID wyv yn meddwl ei bod yn angenrheid- iol i mi wneud ymddiheuriad tros ddewis penawd y papyr hwn, o herwydd vy mod yn gwybod vodpaich i'r gyvraith yn un o er- thyglau fydd dinasyddion da, yn mhlith y rhai y cy vrivir y gwrandawyr presenol; tra y mae cyd- nabyddiaeth a'i hegwyddorion cyfredinol yn cael ei ystyried ganddynt yn anhebgorol tuag at gyv- lawni eu dyledswyddau a'u hymrwymiadau yn briodol. Ÿr ydym yn gallu ymvalchio yn y faith mai eich hynaviaid chwi a minau oeddynt y rhai cyntav o drigolion yr ynys hon i gorfori cyvundrevn o gyvraith mewn deddv lyvr ysgriv- enedig. Gellir edrych, gyda fob tebygolrwydd rhesymol, ar hon vel sylvaen y cyvreithiau wrth y rhai y lly wodraethir ni yn awr. Nid wyv am i chwi, pa vodd bynag, ovni vy mod am eich cosbi a thraethawd ar y lluaws cangenau i'r rhai y rhenir cyvraith y wlad, nac yehwaith eich trin vel dosbarth o astudwyr y gyvraith, trwy roddi v vlaenoriaeth i unrhyw varn wyv yn ddal vy huuan ar y diwygiadau sydd eto yn ovynol yn ein cyvreithiau, ac yn eu gweinyddiad cyfredinol; ac nidydwyvychwaith yn dymuno ymddangos o'ch blaen vel awdurdod ar y gyvraith, am vy mod yn dipyn o gyvreith- iwr, ac yn arver gweinyddu y gyvraith yn amherfaith (er, yr wyv yn gobeithio, yn ddi- duedd) : ond vy amcan yn hytrach ydyw olrha:n yn vyr. dyviant ein cyvundrevn gyvreithiol bre senol o'r amseroedd boreuav, a'r cyrnewidiadau ynddi. a achoswyd gan ymdaith diorfwys gwar- eiddiad, a chy vaddasiad y cyvnew idiadau hyny i ovynion gwahanol ddosbaithiadau y wladwr- iaeth. HVNAVIAETH EIN LlYSOEDD. Wrth ymdrin a chyvreithiau, a llysoedd gwladol Cymru, eu hynaviaeth sydd yn ein taro vel eu priv nodweddion, vel pob peth arall sydd yn perthyn i'n gwlad ; ac er vod hen ddeddvau Oyraru wedi eu dileu yn amser Harri VIII, trwy ddymuniad pendant Cymry y dyddiau hyny (yr hyn a ymddengys oddiwrth y ddeiseb a gyvlwynasant i'r brenin), a f«n y gosodwyd cyvreithiau Lloegr yn eu lle, eto yr oedd yn aros i ni rai materion yn ein hadgofa o'r hen ddeddv- au Oymreig, megys y gwahanol arverion mewn cysylltiad a thir-ddaliad y rhai a elwid gan ein hynaviaid " Braint a Devod," a'r dull eglur y raabwysiadwyd hwy gan ddeddvwyr Lloegr. Ymddengys mai yr hanes boreuav sydd genym am y cyvreithiau Cymreig ydyw yr un briodoMr i Dyvnwal Moelmud, yr hwn a elwid Dunwallo Molmutius gan y Rhuveiniaid. Yn ol tystiol- aeth Geofrey o Ÿynwy, y cyvreithiau hyn oedd- ynt sylvemi y rhai wnaed gan Alfred Vawr, brenin Lloegr. Os ydyw hyn yn gywir, a byddai yn anhawdd provi i'r gwrthwyneb, er vod llawer o ysgrivenwyr yn ameu bodolaeth awdwr tyb- iedig cyvreithiau Dyvnwal Moelmud, ymdden^ys yn bur debygol vod cyvreithiau L^oegr (hyny yw, y rhan hono o honynt a elwir y gyvraith gyfredin), wedi eu sevydlu ar y cyvreithiau hyny oeddynt mewn grym yn yr Ynysoedd Prydeinig odan lywodraeth yr Hen Yrutaniaid, ac yn enwedig o dan eu privlwyth—y Cymry. Mae yr ysgrivenwyr Lladinaidd hevyd yn aw- grymu vod y Cymry a elwid Siluriaid (Esyllwyr) yn vwy diwylliedig na thrigolion erailì Prydain. Vel ag y gallesid dysgwyl, codasant hwy y rhwystrau mwyav yn erbyn goresgyniad y Rhuveinwyr. O'u niver hwy y cododd y dewr Caradog ap Bran, yr hwn a elwir Caractacus gan Tacitus. Oesau ar ol hyn yn hanesiaeth Cymru, yr ydym yn darllen am athraw a gyvranodd ddysgeidiaeth i Alfred Vawr, yr hon, i vesur helaeth, a'i galluogodd ev—Alfred Vawr—i gyv- ansoddi y gyvundrevn ddeddvol gyda yr hon y bydd ei enw byth yn gysylltiedig. Eve oedd yr awdwr, yr hwn, o dan yr enw Aser (Azure, neu Las), a ysgrivenodd hanes y brenin Arthur, hanes sydd ar gael hyd y dydd hwn. Yr oedd Alfred ac Aser yn byw oddeutu 900 o.c, ac yn cydoesi, er nad yn cyd deyrnasu a Hywel Dda, yntau hevyd yn ddeddvwr. Mae yn faith ddyddorol a diamheuol vod gramadeg gan Geiaint Vardd Glas mewn bod yn amser y rhyvel cartrevol yn nheyrnasiad Charles y Cyntav. Cedwid y llyvr yn ovalus yn Nghastell Raglan, ond llosgwyd ev, yn nghyd â llawer o ysgrivau Cymreig amhrisiadwy eraill, yn y tân a ddinystriodd yr adeilad ar- dderchog hwnw. Ond i vyned yn mhellach vyth yn ol, i ddangos sevyllva wareiddiedig uchel • Yn yr Adran yma, bydd yn dda gan y Golyg^dd wneu* lle i anerchiadau neu bapurau pwrpasol draddodir o vlaen Cymdeithaaau Gjmreig.