Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ctf. VII.—Rhif 14.—TAOHWEDD, 1887. CYFAILL • YR • AELW YD: OFARW YN FYW. GAN ALE^ANDRE DÜMAS. Gyfaddasiad arbenig i GyfaiLL ye Aelwyd pan Alltud Gwent.) Penod XLL—Monte Ceisto a Theulu MORCEEF. EDI clywed y manylion uchod gan ei gyfaill Beauchamp, eisteddod Albert a'i ben yn blygedig rhwng ei ddwylaw, fel pe wedì ei lethu gan ofid a chywilydd. O'r diwedd cododd ei wyneb, yn orcnuddiedig gan gywilydd a dagrau, ac ymaflodd yn mraich Beauchamp, gan ddywedvd,— _ " Fy nghyfaill, mae holl gysur fy mywyd wedi ei ddinystrio. Rhaid i mi chwilio am yr hwn a roddodd y fath ergyd marwol i anrhydedd fy nheulu ; ac wedi im' ei gael, mi a'i lladdaf, neu ca ef fy lladd i. Yr wyf yn ymddibynu ar eich cyfeillgarwch chwi i'm helpu." "Nage, Albert," meddai Beauchamp, "cymer- wch fy nghyngor ; ewch ymaith o Paris am dymor. Anghofir y cwbl yn fuan; a phan ddychwelwch yn mhen blwyddyn neu ddwy, gyda gwraig ieuanc gyfoethog. ni bydd neb yn cofio nac yn meddwl am yr hyn sydd newydd dygwydd." " Diolch am eich cyngor," ebe Albert, " gwn fod eich amcan yn dda ; ond yr wyf yn bender- fynol o fynu gwybod pwy yw ein gelyn, ac os ydych yn parhau yn gyfaill i mi, fel y dywedwch, chwi a'm cynorthwywch." " Wel, os rhaid iddi fod felly, gwrandewch." " Ha ! Beauchamp, gwelaf eich bod yn gwybod rhywbeth eisoes ; beth yw ?" " Nid oeddwn yn hoffi ei fynegu pan ddych- welais o Yanina; ond pan wnaethum ymholiad gyntaf yn y ddinas hono gyda phrif arianydd y dref, dywedodd wrthyf fod ymholiadau cyffelyb wedi eu gwueyd gan un o'i ohebwyr—arianydd yn Paris—tua phythefnos cyn hyny." " Ac enw yr arianydd hwnw yw------." "Danglars." " Ha ! le, dyna'r cnaf sydd er's blynyddoedd mor eiddigeddus wrthym o herwydd fod fy nhad wedi ei wneyd yn Count, ac yn fwy poblogaidd nag ef ei hun. Dyma'r achos iddo wrthod cad- arnhau y cytundeb priodasol oedd rhwng ein teuluoedd. Ca dalu yn ddrud am yr hyn wyf wedi ddyoddef o herwydd eiymyriad." " Cymerwch bwyll, Albert; cofìwch ei oed." " Parchaf ei henaint fel mae efe wedi parchu ein hanrhydedd ni. Bydd efe neu fi yn farw cyn nos. De'wch, Beauchamp, bydd eisieu tyst arnaf mewn amgylchiad mor bwysig." Llogasant gerbyd yn ddioed, a gyrasant i dy yr arianydd. Cyhuddodd Albertefo fod wedi dwyn y dianrhydedd hwn ar ei deulu. Ar y cyntaf, ceisiai Danglara ddangos mai cyhuddiad dyn gorphwyllog ydoedd, ac y lladdai ef fel lladd ci cynddeiriog os ceisiai ei niweidio, a thrwy hyny y gwnelai wasanaeth i gymdeithas. Yna gwadai y gellid ei feio ef, o herwydd i'r Count deMorcerf ddianrhydeddu ei hun." " Ni fuasai y gwarth hwn wedi disgyn arnom oni bae eich ymyriad maleisus chwi," ebe Albert. " Pa ymyriad ì" gofynai Danglars. " Pwy ysgrifenodd i Yanina i holi am fanyl- ion yn nghylch fy nhad 1" " 0, gallai unrhyw un wneyd hyny, mi dybiaf." " Gallai, ond un yn unig a wnaeth hyny, sef chwi." " Pan fyddo dyn yn meddwl i brìodi ei unig ferch, y mae yn iawn iddo wneyd ymholiadau i hanes y teulu a r hwn y mae yn myned i'w huno, a gwnaethum inau hyny,—yr oedd yn ddyled- swydd arnaf. Ond ni fuaswn yn meddwl am anfon i Yanina oni bae i gyfaill fy nghymell i wneyd hyny. Pan yn siarad ag ef am y briodas fwriadedig, a fy anwybodaeth yn nghylch dech- reuad eich cyfoeth, gofynodd i mi, ' Yn mha le y cafodd eich tad ei gyfoeth V ac atebais inau mai yn ngwlad Groeg. Yna dywedodd wrthyf am ysgrifenu i ymholi yn Yanina." "Pwyoedd y cyfaill hwn?" " Y Count Monte Cristo." " Beth ! Ai y Count a'ch cymhellodd i ysgrif- enu T "Ie." " A ŵyr efe pa atebiad a gawsoch ?" " Gŵyr, canys dangosais ef iddo." " A wyddai ef ar y pryd mai Fernand Mondego oedd enw fy nhad î" " Gwyddai; yr oedd wedi ei hysbysu o hyny yn fiaenorol. Coeliwch fi, nid oedd a fynwyf fi â gwneyd y ffeithiau hyn yn gyhoeddus. Gwrth- odais hysbysu eich tad paham y gwrthodwn fy nghydsyniad i'r briodas." Tra yr oedd yr ymddyddan uchod yn myned yn mlaen, saetbodd amryw bethau i gof Albert