Skip to main content

Cyf. VII.—Rhif 13.—Hydref, 1887. CYFATLL • YR ■ AELWYD: O FARW YN FYW. GAN ALEXANDRE DUMAS. Pekod XXXIX—Bareois. R un dydd ag yr ymwelodd Albert de Morcerf a swyddfa ei gyfaill Beauchamp i'w herio i ymladd gorncst o herwydd yr erthygl ar Yanina a ymddangosodd yn ei new- yddiadur, gwelid Maximilian Morrel yn myned ar ffrwst, yrt cael ei ddilyn gan Barrois, gwas M. Noirtier, o'i dy, ac yn cyfeirio ei gamrau tua thy Yillefort gyda'r fath frys fel mai gydag anhaws- der y gallai Barrois ei ddilyn. Yr''ocdd Noirtier wedi anfon Barrois at Morrel, i'w hysbysu y dymunai ef ei weled yn ddioed. ac yn ei awydd angerdtìoH wybod am ba achos y cyrchid ef nid ystyriai ei f'od, trwy gerdded mor gyflym, yn gosod yr hen was ffyddlon Barrois dan orfod i wneyd ymdrech egnio) ac anarferol i'w ddilyn. Pan gyrhaeddasant dy yr Erlynydd, yr oedd yr hen Barrois yn dyferu o chwys, ac yn mron syrthio gan ludded, ond arweiniodd ef trwy ddrws preifat i'r llyírgell, a chauodd y drws arno yno. Yn fuan, dygwyd M. Noirtier i'r ystafell yn ei gadair íreichiau, yr hon a symudai ar ol- wynion. Diolchodd Morrel yn wresog iddo, am gyf- ryngu mor effeithiol i roddi atalfa ar briodas fwriadedig Valentine, a'r Barwn d'Epinay. Yna gofynodd am ba achos neillduol y dymunai Noirtier ei weled, gan sicrhau yn mlaenllaw ei barodrwydd i ufuddhau i unrhyw archiad o'i eiddo. Trodd yr hen wr ei lygaid ar Valentine, yr hon a ddaethai i fewn i'r ystafell gydag ef. " A ydych yn dymuno i mi ei hysbysu o'r hyn ddywedasoch wrthyf ?" gofvnai Valentine. " Ydwyf," oedd yr atebiad. UM. Morrel," ebe hi, " mae gan fy nhaid lawer i'ch hysbysu, yr hyn fynegodd i mi er's deuddydd yn ol. Y peth pwysicaf yw, y bwr- iada symud allan o'r ty hwn, ac y raae Barrois wrth y gorchwyl o chwilio am dy'cyfleus iddo." " Ond beth wna hebddoch chwi, gan eich bod mor angenrheidiol i'w gysur." " 0, byddaf fi yn myned gydas ef, mae hyny yn ddealledig. Os cydsynia íÿ nhad i mi fyn'd, byddwn yn ymadael oddiyma yn ddioed ; ond os gwrthyd gydsynio, bydd raid i mi aros yma, • nes y deuaf i'm hoed, yr hyn fydd yn mhen ych- ydig fisoedd eto. Yna byddaf yn rhydd, ac yn meddu ffortiwn annibynol. Yna gyda chydsyn- iad fy nhaid, cyflawnaf fy addewid i chwi. Yn y cyfamser, pan fyddaf dan gronglwyd fy nhaid, gellwch chwi ymweled a ni pan y mynoch. Hyd yr amser hwuw, pa un bynag ai buan neu yn mhen ychydig fisoedd y bydd, rhaid i ni ym- dawelu, ac ymostwng i amgylchiadau, heb ruthro i wneyd dim yn fyrbwyll. Onid dyna yr hyn ddymunwch ddyweyd wrthoî" ychwanegai, gan drui at Noirtier. " Ie, oedd atebiad yr hen wr, a throdd ei oiygon ar Morrel, yr hwn a ddywedodd,— " Yr wyí finau gyda'r parodiwydd mwyaf yn barod i fyned ar fy llw yr ufuddhaf i'ch dymun- iadau, a bod yn hollol amyneddgar a thawel i ddysgwyl yr adeg ddedwydd. 0 !" ychwanegai, " beth wnaethum erioed i deilyngu y fath hapus- rwydd." Syllodd Noirtier arno gyda golwg foddhaus, tra yr oedd yr hen was ffyddlon yn wên o glust i glust, tra yn sychu y dafnau chwys oedd yn bwrlymu ar ei dalcen. "Beth sy'n bod, Barrois?" gofynai Valentine. " Yr ydych yn ymddangos yn chwyslyd iawn." " Yr wyf wedi rhedeg yn gyflym iawn, madamoiselle," oedd yr ateb, " ond rhaid i mi gydnabod fod M. Morrel wedi rhedeg yn gynt na mi," " Cymerwch wydraid o'r ìemonade yna, ynte ; gwelaf fod arnoch ei flys." "Wftl, yn wir, byddai gwydraid o unrhyw ddiod yn dderbyniol yn awr," atebai Barrois. " Wel, cymerwch beth ynte," ebe hi, ac aeth Barrois allan o'r ystafell â'r gwydraid lemonade yn ei law. Can gynted ag yr oedd tuallan i'r drws yfodd ef. Tra yr oedd Ÿalentine a Morrel yn tì'arwelio a'u gilydd yn mhresenoldeb Noir- tier, clywid cloch drws y ffrynt ?yn canu. Ed- rychudd Valentine ar ei horiawr, a dywedodd, " Y mae wedi haner dydd ; rhaid mai y meddyg yw. Bydd yn sicr o ddyfod i'r ystafell hon i'ch gweled, fy nhaid ; onid gwell fyddai i M. Morrel ymadael cyn y delo V "Ie," ebe Noirtier. Yna galwodd Valentine ar Barrois, gan ddy- wedyd wrth Morrel, " Ca' Barrois agor y drws i chwi, a chofiwch ddymuniadau fy nhaid." Daeth Barrois i'r ystafell,—" Twy ganodd y gloch V gofynai Valentine.