Skip to main content

Crr. YII.-Rhií U.-Awbt, 1887. CYFAILL-YR-AELWYD: PRIODAS RYFEDD-RHAMANT WIRIONEDDOL. GAN Y GOLYÖYDD. CRYNODEB O'R RHANAU BLAENOROL. PENOD L—Y Cariadon.—Ger pentref Freiderichstall, ar lan y Rhine, yn Germany, cjferfydd Herman Kranz, ysgrif- enydd mewn ariandy, ag Arma íìschenbach, ei gariad-ferch. Dysgwylia Herman gael codiad yn ei gyflog gan ei feistr, Herr Heichenthall, yr arianydd, ac y galluogir ef yn fuan felly i briodi Anna. Ond ymddengys'fod Herr Reichenthall ei hunan wedi syrthio mewn cariad ag Anna, ac wedi hys. bysu hyny i'w thad. yr h»n sydd yn hotf iawn o arian. Gwel y boM ieuainc felly fod anhawsderau o'u blaen ; ond *n ngwyneb y rhai hyn, dywed Anna wrth Herman ; " Herman ! gwrando fy llw i'r hwn yr wyf yn galw y Nef yn dyst! Mewn bywyd ac angfu, mewn synwyr a gwall- gofrwydd, mi a'th garaf di, a thydi yn unig." Penod II.—Yr Ystorm.—Ar êu tfoidd tua chartref, goddiweddir hwy gan 'storm annysgwyliadwy, a djchrynir Anna, yr hon s\dd ychydig yn ofergoelus, a thybia f'd yr ystorm yn ddarlun o'u bywyd yn y djfodol. Ónd cilia yr ystorm mor sydyn ag y daeth. heb ond i ychydig ddafnau syrthio ar y cariadon, a thywyna yr haul yn ddysglaer dra- chefn, tra y dywed Anna yn awr,—"Derbyniwn vr arwydd. Mae anhawsderau ac ystormydd o'n blaen, ond maent i ddiflanu yn y diwedd, a gadael y Uwybr jn fwy prydferth nag erioed !" Penod III. — Y Tad.—Mae Herman yn awr y» myned i dy tad Anna, i'r dyben o ddyweyd ei neges wrtho. sef ceisio ei ganiatad i gael Anna yn wraig iddo. Cyn y gall wnejd hyny, mae yn cael gwahcddiad i swper gvda'r teulu-, ac yn ystod y pryd bwyd mae Herr Efriienbach, tad Anna, yn adrodd pa fodd y darfu i Herr Kranz, tad Herman, ei gynorthwyo ef pan yn dechreu ei fyd, ac addawa dalu y ddyled yn ol drwy wneyd pa beth bjnag all efe wneyd dros fab ei gymwynaswr. Wedi ei galonogi gan hyn, niae Herman yn adrodd ei ys-tori garu, a cheisio cenad i briodi Anna. Cyn y gall Herr Eschenbach adfeddianu ei hun o'i syndod, mae Anna ei ferch yn taüu ei breichiau am ei wddf gan geisio yn daer arno gydsynio â rlymuniadau y bobl ieuaÌDC Yn yr argyfwng hwn, clywir llais wrth y drws. a daw Herr Reichenthall, meistr Herman, yr hwn sydd hefyd yn jmgeisydd am Anna yn wraig iddo, i fewn i'r ty. Penod IV.-Y Bradgynllun.—Wedi ceisio gan Herman i aros iddo, ?eth Herr Reichenthall gydag Eschenbach. tad Anna. i ystafell o'r neiildu. Yno drwgliwiai \rarianydd i'w gvfaill ei fod ar fedr tori v cytundeb i roddi Ànna yn wraig iddo. Ar ol peth ymddyddan, gwnaed cytundeb rhwng y ddau i'r perwyl y byddai i'w thad rodd'i Anna yn wraig i Herr Reichenthall y dydd y buasai Herr Eschenbach yn cydnabod ei fod wedi enill can' mil o thalers drwy gyfar- wyddyd yr arianydd. Yna cytunwyd ar gynllun i gael Herman Kranz allan o'r tfordd. Penod V.—Ffarwel. IR a plirvderus fu dysgwyliad Anna a'i mam a Herman am ddychweliad y ddau wr o:r ystaf'ell breifat. Nid oedd calon E'speth lawn mor fydol ageiddo ei gwr. Bnasai yn weìl ganddi hi sicrhau hapusrwydd ei mereh na sicrhau dim ond cyfoeth iddi. Wrth gwrs, pe gallai gael y ddau. byddal yn well ganddi. Ond os deuai rhaid iddi ddewis rhwng hapus- rwydd a cbyfoeth, dewisai y blaenaf. Ar wahan hefyd oddiwrth hyn yr oedd Jle tyner yn ei chof a'i chalon o'r adgof am gymwynaswr dyddiau cyntaf ei bywyd priodasol, sef Herr Kranz, tad Herman, a buasai yn dda ganddi gael y cyfie hwn i dalu ei dyled yn ol iddo. " Beth. tybed," ebe hi, " a all fod neges Herr Reichenthall yma heno ì A wyddai ef rywbeth amdy ueges di, Herman V " Na wyddai," oedd yr atebiad. " Nis gwyddai neb. Nis gwyddwn fy hun byd nes i mi gvfarfod ag Anna ar lan yr afon." "Tebyg felly," ebe Elspeth, "mai rhyw fater o fasnach pwysig ddaeth ag ef yma." "Ond," ebe Anna, " pa fater masnach allai fod ganddo yr amser yma o'r nos V "Wel," ebe Herman, "mae yn dygwydd weithiau fod rewyddion pwysig yn d'od i law yn hwyr y dydd, a bydd yn angenrheidiol gweithredu arnynt yn ddioed. Mae enill ych- ydig oriau o flaen ar ereill weithiau yn golygu miloedd o thalers. Ac mae Herr Reichenthall yn arianydd rhy gyfarwydd a phiofiadol i es- geuhiso un fantais o'r fath." Wedi ychydig dawelwcb, anturiodd Herman ail-agor y cwestiwn pwysig oedd yn gwasgu mor agos i'w galon. " Daeth Herr Reichenthall i fewn ar ganoì y siarad o'r blaen," ebe fe, "cyn i Herr Eschen- bach gael cyfle i roddi atebiad i'rn cais eofn." " Cewch atebiad gan fy ngwr eto y cyfle cyntaf," ebe Elspeth, gan ail-ymaflyd yn ei gweuyíl. " 0 mam," ebe Anna, "beth feddyliwch chwi eich hun V Ac yr oedd teimlad calon yr eneth dyner yn gwneyd ei hun yn amlwg yn swn y geiriau syml hvn. "Atolwg, Frau Eschenbach," ebe Herman, gan fagu calon wrth glywed Anna, "rhoddwch galondid i ni. Os bu eich bywyd eich hun yn hapus gyda Herr Eschenbach, ac os cynorthwy- odd fy uhad rywfodd i'w sicrhau, gwnewch, atolwg, â mi ag Anna y gymwynas fawr hon." Edtychodd Elspeth yn brysur ar ei harffedog, l!e y gorweddai y gweuyll unwaith eto yn segur. Yna atebodd mewn Uais isel:— "Nid yw cariad dau at eu gilvdd ond un elfen yn unig mewn hapusrwydd. Llae yn rhaid cael rhywbeth gyda hyny. Er nad wyf fi yn caru arian er eu mwyn eu hunain, nis gallaf eu